Skip to main content

Paratoi ffordd i’r Arglwydd: Luc 3.1–20 (18 Tachwedd 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Luc 3.1–20

Mae gweinidogaeth Ioan yn edrych yn debyg iawn i un Elias. Fel yntau, ni ddefnyddiodd ddiplomyddiaeth na geiriau meddal; dywedodd pethau fel yr oeddent. Nid oedd arno ofn wynebu brenhinoedd (adnod 9).

Mewn ffordd dyngedfennol, serch hynny, roedd ei weinidogaeth yn wahanol iawn: roedd yn  ‘paratoi y ffordd i’r Arglwydd’ (adnod 4) Roedd gorchmynion Ioan i’r bobl yn adlewyrchiad traddodiadol o’r Hen Destament: rydych yn gwybod beth yw’r peth iawn, meddai, felly gwnewch hynny. Mae pregethu Ioan yn ceisio troi pobl i weithredoedd cyfiawn yn hytrach na gadael iddynt ddibynnu ar eu hunaniaeth fel pobl Dduw (adnod 8).

Byddai’r efengyl, serch hynny, yn wahanol. Daeth Iesu i ddatgelu Duw mewn ffordd newydd a byw. Nawr, mae newid mewn ymddygiad yn ganlyniad i berthynas sydd wedi newid, nid y ffordd arall. Yn ddiweddarach, roedd Paul i siarad am y Gyfraith fel paratoad ar gyfer Crist: ‘Pwrpas y Gyfraith oedd ein gwarchod ni a'n harwain ni at y Meseia, er mwyn i ni ddod i berthynas iawn gyda Duw drwy gredu ynddo’ (Galatiaid 3.24).

Mae galwad Ioan i edifeirwch yn dal i fod yn wir, serch hynny. Mae’n hawdd gorffwys ar ein rhwyfau ysbrydol a dychmygu oherwydd ein bod ni’n Gristnogion da sy’n mynychu’r eglwys, y bydd popeth arall yn gofalu amdano’i hun; fel gwrandawyr cyntaf Ioan a oedd yn dibynnu ar eu disgyniad oddi wrth Abraham. Na, meddai: yr hyn rydych yn ei wneud sy’n bwysig.

Mae bod yn Gristion yn hawdd; mae fel plentyn yn troi at riant am help. Mae hefyd yn anodd, fel athletwr yn hyfforddi ar gyfer ras eu bywyd.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i weithredu fel Cristion, ac nid siarad fel un yn unig. Dangosa i mi lle mae angen i mi wneud y peth iawn, a gad i mi beidio ag ofni’r canlyniadau.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible