Skip to main content

Dim lle yn y llety?: Luc 2.1–7 (17 Tachwedd 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Luc 2.1–7

Mae’r siopau eisoes wedi bod yn llawn o gynhyrchion tymhorol yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond ni fyddwn yn darllen y straeon am enedigaeth Iesu mewn eglwysi tan y Nadolig; ac yna maent yn tueddu i gael eu gwasgu i fformat cyngherddau carolau a gwasanaethau teulu. Efallai y dylem ei wneud yn gynharach yn y flwyddyn, a chymryd mwy o amser i edrych ar yr hyn sy’n digwydd. Mae yna rai dealltwriaethau traddodiadol o’r digwyddiadau hynny nad ydynt wir yn gwrthsefyll archwilio craff – megis ‘Doedd dim llety iddyn nhw aros ynddo’ (adnod 7).

Un ysgolhaig sydd wedi edrych arnynt yw Kenneth Bailey, a fu’n byw ac yn gweithio am nifer o flynyddoedd yn y Dwyrain Canol. Mae’n tynnu sylw yn ei lyfr Jesus Through Middle Eastern Eyes y byddai Mair a Joseff wedi bod yn sicr o groeso ym Methlehem, a bod y ‘llety’ yn sicr yn ystafell westeion mewn cartref preifat. Yn y cartrefi hynny roedd anifeiliaid a phobl yn rhannu’r un lle byw, gyda phared, byddai modd cael at y preseb o ardal byw’r teulu, ac yn lle cyfleus i roi plentyn newydd-anedig.

Felly yn hytrach nag i Iesu cael ei eni’n wrthodedig, gyda’i fam yn cael ei gorfodi i’w eni mewn stabl, cafodd ei groesawu i galon cartref teuluol, a’i drysori o’r dechrau. Nid yw ei eni yn rhagarwyddo ei wrthodiad a’i farwolaeth yn ddiweddarach; mae’n cyferbynnu â hynny. Roedd croeso i Iesu’n blentyn; ond nid i’r Meseia.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am gynhesrwydd a charedigrwydd dynol, ac am y cariad a brofodd Iesu wrth iddo fyw a thyfu. Rwy’n gweddïo dros bob plentyn, y byddant yn cael eu caru, eu trysori ac y byddant yn ddiogel.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible