No themes applied yet
Basged o Ffigys Aeddfed
1Dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn dangos hyn i mi:
Basged yn llawn ffigys aeddfed. 2A gofynnodd i mi, “Beth wyt tiʼn weld, Amos?” Dyma finnauʼn ateb, “Basged yn llawn ffigys aeddfed”. A dymaʼr ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Maeʼr diwedd wedi dod ar fy mhobl Israel. Dw i ddim yn mynd i faddau iddyn nhw eto. 3Bydd y merched syʼn canu yn y palas yn udo crio ar y diwrnod hwnnw,” – fy Meistr, yr ARGLWYDD syʼn dweud hyn – “Bydd cymaint o gyrff marw yn gorwedd ym mhobman! Distawrwydd llethol!”
Mae ar ben ar Israel
4Gwrandwch ar hyn, chi syʼn sathruʼr gwan,
ac eisiau cael gwared â phobl dlawd yn y wlad.
5Chi syʼn mwmblan iʼch hunain,
“Pryd fydd gŵyl y lleuad newydd drosodd? –
i ni gael gwerthuʼn cnydau eto.
Pryd fydd y dydd Saboth drosodd? –
i ni gael gwerthuʼr ŷd eto.
Gallwn godi pris uchel am fesur prin,
a defnyddio clorian syʼn twyllo.
6Gallwn brynu am arian bobl dlawd sydd mewn dyled,
aʼr rhai sydd heb ddigon i dalu am bâr o sandalau.
Gallwn gymysguʼr gwastraff gydaʼr grawn!”
7Maeʼr ARGLWYDD yn tyngu iʼw enw ei hun, Balchder Jacob:
“Wna i byth anghofio beth maen nhw wediʼi wneud.”
8Felly bydd y ddaear yn ysgwyd o achos hyn
a phawb syʼn byw arni yn galaru.
Bydd y ddaear gyfan yn codi fel afon Nîl;
yn chwyddo ac ynaʼn suddo fel yr afon yn yr Aifft.
9“Aʼr diwrnod hwnnw,”
–fy Meistr, yr ARGLWYDD syʼn dweud hyn,
“bydda iʼn gwneud iʼr haul fachlud ganol dydd,
a bydd y wlad yn troiʼn dywyll yng ngolau dydd.
10Bydda iʼn troi eich partïon yn angladdau
aʼch holl ganeuon yn gerddi galar.
Bydda iʼn rhoi sachliain amdanoch chi,
a bydd pob pen yn cael ei siafio.
Bydd fel y galaru pan mae rhywun wedi colli unig fab;
fydd y cwbl yn ddim byd ond un profiad chwerw.”
11“Gwyliwch chi! maeʼr amser yn dod”
–fy Meistr, yr ARGLWYDD syʼn dweud hyn,
“pan fydda iʼn anfon newyn drwyʼr wlad.”
Dim newyn am fara neu syched am ddŵr,
ond awydd gwirioneddol i glywed neges yr ARGLWYDD.
12Bydd pobl yn crwydro o Fôr y Canoldir yn y gorllewin
iʼr Môr Marw yn y de
ac oʼr gogledd iʼr dwyrain,
er mwyn cael clywed neges yr ARGLWYDD,
ond byddan nhwʼn methu.
13Bryd hynny, bydd merched ifanc hardd a dynion ifanc cryf
yn llewygu am fod syched arnyn nhw –
14Y rhai syʼn tyngu llw i eilun cywilyddus Samaria,
ac yn dweud, “Fel mae dy dduw di yn fyw, Dan!”
neu “Fel maeʼr un cryf sydd ynot ti yn fyw Beersheba!” –
byddan nhwʼn syrthio, a byth yn codi eto.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015