No themes applied yet
1Llythyr gan Iago, gwas i Dduw aʼr Arglwydd Iesu Grist. At Gristnogion Iddewig sydd wediʼu gwasgaru drwyʼr holl wledydd. Cyfarchion!
Treialon
2Frodyr a chwiorydd, pan fyddwch chiʼn wynebu pob math o dreialon, ystyriwch hynnyʼn rheswm i fod yn llawen. 3Achos pan maeʼch ffydd chiʼn cael ei brofi mae hynnyʼn meithrin y gallu i ddal ati a pheidio rhoiʼr gorau iddi. 4Ac mae dal ati drwyʼr cwbl yn eich gwneud chiʼn gryf ac aeddfed – yn barod ar gyfer unrhyw beth! 5Os oes angen doethineb ar rywun, dylai ofyn i Dduw. Mae Duw yn rhoi yn hael i bawb syʼn gofyn, ac yn gwneud hynny heb oedi na phwyntio bys at eu beiau nhw. 6Ond rhaid gofyn gan gredu y bydd Duw yn ateb – peidio amau, am fod y rhai syʼn amau yn debyg i donnauʼr môr yn cael eu taflu aʼu chwipio i bobman gan y gwynt. 7Ddylai pobl felly ddim disgwyl cael unrhyw beth gan yr Arglwydd! 8Dŷn nhw ddim yn gwybod beth sydd arnyn nhw eisiau. Maen nhwʼn byw mewn ansicrwydd.
9Dylaiʼr Cristion syʼn dod o gefndir tlawd frolio fod Duw wediʼi anrhydeddu, 10ond dylaiʼr cyfoethog fod yn falch pan mae Duw yn ei ddarostwng. Bydd eʼn diflannu fel blodyn gwyllt.1:10,11 adlais o Eseia 40:6,7 (LXX) 11Wrth iʼr haul tanbaid grinoʼr glaswellt maeʼr blodyn yn syrthio aʼi harddwch yn diflannu. Dynaʼn union fydd yn digwydd i bobl gyfoethog – marw yng nghanol eu busnes!
12Maeʼr rhai syʼn dal ati yn wyneb treialon yn cael eu bendithio gan Dduw. Ar ôl mynd drwyʼr prawf byddan nhwʼn cael eu coroni âʼr bywyd mae Duw wediʼi addo iʼr rhai syʼn ei garu. 13A ddylai neb ddweud pan maeʼn cael ei brofi, “Duw syʼn fy nhemtio i.” Dydy Duw ddim yn cael ei demtio gan ddrygioni, a dydy e ddim yn temtio neb arall chwaith. 14Eu chwantau drwg eu hunain syʼn temtio pobl, ac yn eu llusgo nhw ar ôl iddyn nhw gymryd yr abwyd. 15Mae chwantau drwg yn arwain i weithredoedd drwg, aʼr gweithredoedd drwg hynny yn arwain i farwolaeth ysbrydol.
16Peidiwch cymryd eich camarwain, frodyr a chwiorydd annwyl. 17Mae pob rhoi, a phob haelioni yn dod oddi wrth Dduw yn y nefoedd uchod. Fe ydyʼr Tad a greodd y sêr aʼr planedau, ond dydy ei oleuni e ddim yn amrywio, a dydy e byth yn cael ei gysgodi. 18Mae Duw wedi dewis rhoi bywyd newydd i ni, drwy wirionedd ei neges. Mae wediʼn dewis niʼn arbennig iddoʼi hun o blith y cwbl mae wediʼi greu. 19Gallwch fod yn hollol siŵr oʼr peth, frodyr a chwiorydd.
Gwrando a gwneud
Dylai pob un ohonoch fod yn awyddus i wrando a pheidio siarad yn fyrbwyll, a gwybod sut i reoli ei dymer. 20Dydy gwylltio ddim yn eich helpu chi i wneud beth syʼn iawn yng ngolwg Duw. 21Felly rhaid cael gwared â phob budreddi aʼr holl ddrygioni syʼn rhemp, a derbyn yn wylaidd y neges mae Duw wediʼi phlannu yn eich calonnau chi – dynaʼr neges syʼn eich achub chi. 22Gwnewch beth mae Duwʼn ei ddweud, yn lle dim ond clywed y neges a gwneud dim wedyn. Twylloʼch hunain ydy peth felly! 23Mae rhywun syʼn clywed ond ddim yn gwneud yn debyg i ddyn yn edrych mewn drych. 24Maeʼn edrych arnoʼi hun, ac wedyn yn mynd i ffwrdd, ac yn anghofio sut olwg oedd arno! 25Ond maeʼr un syʼn dal ati i edrych yn fanwl ar ddysgeidiaeth berffaith y Duw syʼn ein gollwng niʼn rhydd yn wahanol. Dydyʼr sawl syʼn gwneud hynny ddim yn anghofio beth mae wediʼi glywed; maeʼn gwneud beth sydd ei angen. A bydd Duw yn bendithio popeth maeʼn ei wneud!
26Os ydy rhywun yn meddwl ei fod yn dduwiol ond ddim yn gallu rheoli ei dafod, maeʼn twylloʼi hun – dydy crefydd rhywun felly yn dda i ddim. 27Y math o grefydd mae Duw y Tad yn ei ystyried yn bur ac yn ddilys ydyʼr grefydd syʼn gofalu am blant amddifad a gwragedd gweddwon syʼn dioddef, ac syʼn gwrthod dylanwad y byd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015