No themes applied yet
Peidio dangos ffafriaeth
1Frodyr a chwiorydd, dydy dangos ffafriaeth ddim yn beth iawn i bobl syʼn dweud eu bod nhwʼn credu yn ein Harglwydd bendigedig ni, Iesu Grist. 2Er enghraifft, meddyliwch petai rhywun cyfoethog, yn gwisgo dillad crand a modrwyau aur a gemau, yn dod i mewn i un oʼch cyfarfodydd,2:2 i un oʼch cyfarfodydd Groeg, “iʼch synagog”. ac yna cardotyn tlawd mewn dillad budron yn dod i mewn hefyd. 3Petaech chiʼn rhoiʼr sylw i gyd iʼr person yn y dillad crand, ac yn dweud wrtho, “Eisteddwch yma, dymaʼr sedd orau”, ond wedyn yn dweud wrth y cardotyn, “Dos di i sefyll yn y cefn, fan acw” neu, “Eistedd di ar lawr yn y gornel yma”, 4fyddech chi ddim yn awgrymu fod un person yn well naʼr llall ac yn dangos fod eich cymhellion chiʼn anghywir?
5Gwrandwch arna i, frodyr a chwiorydd annwyl. Onid y bobl syʼn dlawd yng ngolwg y byd mae Duw wediʼu dewis i fod yn gyfoethog yn ysbrydol? Byddan nhwʼn cael rhannu yn y deyrnas mae wediʼi haddo iʼr rhai syʼn ei garu. 6Ond dych chiʼn amharchuʼr tlawd! Y cyfoethog ydyʼr bobl syʼn eich cam-drin chi! Onid nhw syʼn eich llusgo chi o flaen y llysoedd? 7Onid nhw syʼn cablu enw da yr un dych chiʼn perthyn iddo?
8Os ydych chiʼn ufudd i orchymyn pwysicaʼr2:8 orchymyn pwysicaʼr: Maeʼr Groeg yn dweud “gorchymyn brenhinol”, sef un wediʼi roi gan y Brenin mawr – Duw. ysgrifau sanctaidd: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt tiʼn dy garu dy hun,”2:8 Lefiticus 19:18 da iawn chi. 9Ond os ydych chiʼn dangos ffafriaeth dych chiʼn pechu, ac mae Cyfraith Duw yn dweud eich bod chiʼn droseddwr. 10Mae torri un o orchmynion Duw yr un fath â thorriʼr Gyfraith i gyd. 11Dwedodd Duw “Paid godinebu”2:11 Exodus 20:14; Deuteronomium 5:18 (sef cael rhyw tu allan i dy briodas), a dwedodd hefyd “Paid llofruddio”.2:11 Exodus 20:13; Deuteronomium 5:17 Felly os wyt tiʼn lladd rhywun, rwyt ti wedi torriʼr Gyfraith, hyd yn oed os wyt ti ddim wedi godinebu.
12Dylech chi siarad a byw fel pobl syʼn mynd i gael eu barnu gan gyfraith cariad, sef ‘y gyfraith syʼn eich rhyddhau chi’. 13Fydd dim trugaredd i chi os ydych chi heb ddangos trugaredd at eraill, ond mae dangos trugaredd yn trechu barn.
Credu a Gweithredu
14Frodyr a chwiorydd, beth ydyʼr pwynt i rywun honni ei fod yn credu, ac wedyn gwneud dim byd o ganlyniad i hynny? Ai dynaʼr math o ‘gredu’ syʼn achub rhywun? 15Er enghraifft, os ydych chiʼn gweld brawd neu chwaer yn brin o ddillad neu heb fwyd, 16ac ynaʼn dweud, “Pob bendith i ti! Cadwʼn gynnes, a gobeithio cei di rywbeth iʼw fwyta.” Beth ydyʼr pwynt os ydych chiʼn ei adael yno heb roi dim byd iddo? 17Mae ‘credu’ ar ei ben ei hun yn union yr un fath. Os ydyʼr ‘credu’ ddim yn arwain at wneud rhywbeth, maeʼn farw gelain.
18Ond wedyn mae rhywun yn dadlau, “Mae gan rai pobl ffydd ac mae eraill yn gwneud daioni.” A dw iʼn ateb, “Wyt tiʼn gallu dangos dy ffydd i mi heb wneud dim? Dw iʼn dangos fy mod iʼn credu drwy beth dw iʼn ei wneud!” 19Rwyt tiʼn credu mai un Duw syʼn bod, wyt ti? Wel da iawn ti! Ond cofia fod y cythreuliaid yn credu hynny hefyd, ac yn crynu mewn ofn!
20Y twpsyn! Oes rhaid i mi brofi i ti fod ‘credu’ sydd ddim yn arwain at wneud rhywbeth yn dda i ddim? 21Meddylia am ein cyndad Abraham. Onid y ffaith ei fod wedi gweithredu, a mynd ati i offrymu ei fab Isaac ar yr allor2:21 cyfeiriad at Genesis 22:1-14 wnaeth ei berthynas e gyda Duw yn iawn? 22Roedd ei ffydd iʼw weld drwy beth wnaeth e. Roedd y gweithredu yn dangos ei fod yn credu go iawn, dim rhyw hanner credu. 23Daeth beth maeʼr ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn wir: “Credodd Abraham, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw.”2:23 Genesis 15:6 Cafodd ei alwʼn ffrind Duw!2:23 Eseia 41:8 (cf. 2 Cronicl 20:7) 24Felly dylet ti weld mai beth mae rhywun yn ei wneud syʼn dangos ei fod yn iawn gyda Duw, nid dim ond bod rhywun yn dweud ei fod yn credu.
25I roi enghraifft hollol wahanol, meddylia am Rahab y butain; onid beth wnaeth hi ddaeth â hi i berthynas iawn gyda Duw? Rhoddodd groeso iʼr ysbiwyr aʼu cuddio nhw, ac wedyn eu hanfon i ffwrdd ar hyd ffordd wahanol.2:25 gw. Barnwyr 2:1-21 26Yn union fel mae corff yn farw os does dim anadl ynddo, mae credu heb weithredu yn farw!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015