No themes applied yet
Ioan Fedyddiwr yn paratoiʼr ffordd
(Mathew 3:1-12; Marc 1:1-8; Ioan 1:19-28)
1-2Flynyddoedd yn ddiweddarach, tra oedd yn byw yn yr anialwch, cafodd Ioan, mab Sachareias, neges gan Dduw. Erbyn hynny roedd Tiberiws Cesar wedi bod yn teyrnasu ers pymtheng mlynedd; Pontius Peilat oedd llywodraethwr Jwdea, Herod3:1-2 Herod: Herod Antipas, mab Herod Fawr. yn is-lywodraethwr ar Galilea, ei frawd Philip ar Itwrea a Trachonitis, a Lysanias ar Abilene; ac roedd Annas a Caiaffas yn archoffeiriaid. 3Teithiodd Ioan drwyʼr ardal o gwmpas afon Iorddonen, yn cyhoeddi bod rhaid i bobl gael eu bedyddio, fel arwydd eu bod nhwʼn troi cefn ar eu pechodau ac yn derbyn maddeuant gan Dduw. 4Roedd yn union fel maeʼn dweud yn llyfr y proffwyd Eseia:
“Llais yn gweiddiʼn uchel yn yr anialwch,
‘Paratowch y ffordd iʼr Arglwydd ddod!
Gwnewch y llwybrauʼn syth iddo!
5Bydd pob dyffryn yn cael ei lenwi,
pob mynydd a bryn yn cael ei lefelu.
Bydd y ffyrdd troellog yn cael eu gwneud yn syth,
aʼr lonydd anwastad yn cael eu gwneud yn llyfn.
6Bydd y ddynoliaeth gyfan yn gweld Duw yn achub.’”3:4-6 Eseia 40:3-5 (LXX)
7Roedd Ioan yn dweud yn blaen wrth y tyrfaoedd oedd yn mynd allan ato i gael eu bedyddio ganddo: “Dych chi fel nythaid o nadroedd! Pwy sydd wediʼch rhybuddio chi i ddianc rhag y gosb syʼn mynd i ddod? 8Rhaid i chi ddangos yn y ffordd dych chiʼn byw eich bod wedi newid go iawn. A pheidiwch meddwl eich bod chiʼn saff drwy ddweud, ‘Abraham ydyʼn tad ni.’ Gallai Duw droiʼr cerrig yma sydd ar lawr yn blant i Abraham! 9Mae bwyell barn Duw yn barod i dorriʼr gwreiddiau i ffwrdd! Bydd pob coeden sydd heb ffrwyth da yn tyfu arni yn cael ei thorri i lawr aʼi thaflu iʼr tân!”
10“Felly, beth ddylen ni ei wneud?” gofynnodd y dyrfa.
11Atebodd Ioan, “Os oes gynnoch chi ddwy gôt, rhowch un ohonyn nhw i berson tlawd sydd heb un o gwbl. A gwnewch yr un fath gyda bwyd.”
12Roedd rhai oedd yn casglu trethi iʼr Rhufeiniaid yn dod i gael eu bedyddio hefyd, a dyma nhwʼn gofyn iddo, “Beth ddylen ni ei wneud, athro?”
13“Peidio casglu mwy o arian nag y dylech chi,” meddai wrthyn nhw.
14“A beth ddylen ni ei wneud?” meddai rhyw filwyr ddaeth ato.
“Peidiwch dwyn arian oddi ar bobl”, oedd ateb Ioan iddyn nhw, “a pheidiwch cyhuddo pobl ar gam er mwyn gwneud arian. Byddwch yn fodlon ar eich cyflog.”
15Roedd pobl yn teimlo fod rhywbeth mawr ar fin digwydd, a phawb yn dechrau meddwl tybed ai Ioan oedd y Meseia. 16Ond ateb Ioan iddyn nhw i gyd oedd, “Dŵr dw iʼn ei ddefnyddio iʼch bedyddio chi. Ond mae un llawer mwy grymus na fi yn dod yn fuan – rhywun sydd mor bwysig, fyddwn i ddim yn deilwng o fod yn gaethwas syʼn datod carrai ei sandalau hyd yn oed! Bydd hwnnw yn eich bedyddio chi gydaʼr Ysbryd Glân a gyda thân. 17Mae ganddo fforch nithio yn ei law i wahanuʼr grawn aʼr us. Bydd yn clirioʼr llawr dyrnu, yn casgluʼr gwenith iʼw ysgubor ac yn llosgiʼr us mewn tân sydd byth yn diffodd.”
18Roedd Ioan yn dweud llawer o bethau eraill tebyg wrth annog y bobl a chyhoeddiʼr newyddion da iddyn nhw. 19Ond yna dyma Ioan yn ceryddu Herod, y llywodraethwr, yn gyhoeddus. Ei geryddu am ei berthynas gyda Herodias, gwraig ei frawd, ac am lawer o bethau drwg eraill roedd wediʼu gwneud. 20Aʼr canlyniad oedd i Herod ychwanegu at weddill y drygioni a wnaeth drwy roi Ioan yn y carchar.
Hanes bedydd Iesu
(Mathew 3:13-17; Marc 1:9-11)
21Pan oedd Ioan wrthiʼn bedyddioʼr bobl i gyd, dyma Iesuʼn dod i gael ei fedyddio hefyd. Wrth iddo weddïo, dymaʼr awyr yn rhwygoʼn agored 22aʼr Ysbryd Glân yn disgyn arno – ar ffurf colomen. A dyma lais oʼr nefoedd yn dweud: “Ti ydy fy Mab annwyl i; rwyt ti wedi fy mhlesio iʼn llwyr.”
Llinach Iesu
(Mathew 1:1-17)
23Roedd Iesu tua tri deg oed pan ddechreuodd deithio o gwmpas yn dysguʼr bobl a iacháu. Roedd pawb yn cymryd ei fod yn fab i Joseff, oedd yn fab i Eli, 24mab Mathat, mab Lefi, mab Melci, mab Janai, mab Joseff, 25mab Matathïas, mab Amos, mab Nahum, mab Esli, mab Nagai, 26mab Maath, mab Matathïas, mab Semein, mab Josech, mab Joda, 27mab Joanan, mab Rhesa, mab Sorobabel, mab Shealtiel, mab Neri, 28mab Melci, mab Adi, mab Cosam, mab Elmadam, mab Er, 29mab Josua, mab Elieser, mab Jorim, mab Mathat, mab Lefi, 30mab Simeon, mab Jwda, mab Joseff, mab Jonam, mab Eliacim, 31mab Melea, mab Menna, mab Matatha, mab Nathan, mab Dafydd, 32mab Jesse, mab Obed, mab Boas, mab Salmon, mab Nahson, 33mab Aminadab, mab Admin, mab Ram,3:33 Aminadab … Ram Groeg, “mab Aminadab, mab Admin, mab Arni.” Llawysgrifau yn amrywioʼn fawr yma. mab Hesron, mab Peres, mab Jwda, 34mab Jacob, mab Isaac, mab Abraham, mab Tera, mab Nachor, 35mab Serwg, mab Reu, mab Peleg, mab Eber, mab Sela, 36mab Cenan, mab Arffacsad, mab Shem, mab Noa, mab Lamech, 37mab Methwsela, mab Enoch, mab Jared, mab Mahalal-el, mab Cenan, 38mab Enosh, mab Seth, mab Adda, mab Duw.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015