Skip to main content

Iesu a Sacheus: Luc 19.1–9: (4 Rhagfyr 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Luc 19.1–9

Rydym yn canfod ein hunain mewn tref gyfoethog a phwysig iawn, Jericho. Roedd ganddi goedwig palmwydd mawr a llwyni balsam byd-enwog. Roedd ei gerddi o rosod yn enwog ymhell ac agos. Roedd hyn i gyd yn gwneud Jericho yn un o’r canolfannau trethiant mwyaf ym Mhalestina. Dyn oedd Sacheus a oedd wedi cyrraedd brig ei broffesiwn fel casglwr trethi, ac ef oedd y dyn mwyaf cas yn yr ardal.

Roedd Sacheus yn gyfoethog ond ddim yn hapus; roedd hyn oherwydd ei swydd. Roedd wedi clywed bod Iesu wedi croesawu casglwyr trethi, felly a oedd gobaith am ryw fath o gysylltiad ag ef? Roedd safle dyn bach nad oedd yn gallu gweld yn hawdd yn anoddach fyth oherwydd y torfeydd. Mae’n siŵr eu bod nhw wedi cael pleser yn hynny. Felly mae’n dringo sycamorwydden ffigys i weld yn well. Mae Iesu’n ei weld ac yn dweud wrtho ei fod yn dod i’w dŷ – nid yr ymateb y byddai’r rhan fwyaf o bobl wedi’i ragweld.

Rwy’n gweld bod Iesu’n fy synnu’n gyson gan y modd y mae’n ymateb i sefyllfaoedd. Efallai bod yna lawer o bobl yn y dorf honno a oedd yn teimlo bod Sacheus wedi manteisio arnynt. Roedd yna lawer a fyddai wedi bod eisiau iddo gael ei wawdio’n gyhoeddus – ac eto mae Iesu’n estyn allan. Y canlyniad yw newid llwyr – mae Sacheus yn cymryd camau i ddangos i’r holl gymuned ei fod yn ddyn oedd wedi newid. Rwy’n meddwl heddiw at bwy sydd angen imi estyn allan. Efallai fy mod wedi barnu rhywun ond mae Iesu’n awyddus i newid eu bywydau.

Gweddi

Gweddi

Annwyl Dduw, gweddïaf y byddi yn fy ngalluogi i ddangos i eraill y trugaredd rwyt wedi’i dangos i mi. Atgoffa fi o’r rhai rwyf wedi eu rhoi heibio a helpa fi i estyn allan. Amen.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Nigel Langford, Pennaeth Cysylltiadau Eglwysig Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible