Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.
Dw i ddim yn gwybod a ydych erioed wedi cael eich twyllo gan dwyllwr neu gastiwr. Yn y testun hwn rydym yn canfod Iesu yng nghanol ymgais i’w gael i drwbl gyda’r awdurdodau. Mae’r Phariseaid yn barod i ymosod. O dan ba awdurdod wnaeth Iesu weinidogaethu? Roedd hyn i gyd yn ymwneud â threthi.
Roedd y cwestiwn hwn yn ganolog i lawer o wrthryfeloedd gan selotiaid Iddewig. Nid oedd yn fater ariannol yn unig, roedd yn gwestiwn o bwy oeddent yn gwasanaethu, Duw neu Cesar. Mae ateb Iesu yn egluro ein bod ni’n rhoi i Cesar yr hyn sy’n perthyn i Cesar, ac rydym yn rhoi i Dduw'r hyn sy’n perthyn i Dduw. Os derbyniwch arian Cesar a’i ddefnyddio, yna rydych yn siŵr o dderbyn hawl Cesar i orfodi trethi. Gall dilynwyr i Iesu ofni Duw ac anrhydeddu’r brenin ar yr un pryd.
Doethineb anhygoel! Rhan allweddol y testun yw adnod 23, ‘Ond roedd Iesu'n gweld eu bod yn ceisio'i dwyllo’. Fy ngweddi o ddarllen hwn yw y byddwn yn gwerthfawrogi ac yn gofyn am y ddawn dirnadaeth. Rwyf am fod yn gariadus, yn garedig, yn dosturiol, ond hefyd yn graff, ac yn gallu gweld sefyllfaoedd trwy lygaid Duw. Lle bynnag y byddaf yn canfod fy hun, rwyf eisiau dod o hyd i Dduw yno.
Annwyl Dduw, helpa fi i fod yn graff heddiw. Wrth imi fyw fy mywyd, gad imi edrych trwy bopeth sydd o’m cwmpas i ddod o hyd i ti a dy ddoethineb. Amen.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Nigel Langford, Pennaeth Cysylltiadau Eglwysig Cymdeithas y Beibl.