No themes applied yet
1Y neges gafodd y proffwyd Habacuc gan yr ARGLWYDD:
Habacuc yn cwyno am anghyfiawnder
2“ARGLWYDD, am faint mwy rhaid i mi alw
cyn i ti fy ateb i?
Dw iʼn gweiddi, ‘Trais!’
ond ti ddim yn achub.
3Pam wyt tiʼn caniatáu y fath anghyfiawnder?
Pam wyt tiʼn gadael iʼr fath ddrygioni fynd yn ei flaen?
Does dim iʼw weld ond dinistr a thrais!
Dim byd ond ffraeo a mwy o wrthdaro!
4Maeʼr gyfraith wedi colli ei grym,
a does dim cyfiawnder byth.
Mae pobl ddrwg yn bygwth pobl ddiniwed,
a chyfiawnder wediʼi dwistioʼn gam.”
Yr ARGLWYDD yn ateb Habacuc
5“Edrychwch ar y cenhedloedd,
a cewch sioc go iawn.
Mae rhywbeth ar fin digwydd
fyddwch chi ddim yn ei gredu,
petai rhywun yn dweud wrthoch chi!
6Dw iʼn codiʼr Babiloniaid –
y genedl greulon a gwyllt
syʼn ysgubo ar draws y byd
yn concro a dwyn cartrefi pobl eraill.
7Maen nhwʼn codi braw ac arswyd ar bawb.
Maen nhwʼn falch ac yn gwneud fel y mynnant.
8Mae eu ceffylau yn gyflymach naʼr llewpard,
ac yn fwy siarp na bleiddiaid yn y nos.
Maen nhwʼn carlamu am bellter enfawr,
ac yn disgyn fel fwlturiaid ar ysglyfaeth.
9Trais ydy eu hunig fwriad.
Maen nhwʼn hollol benderfynol,
ac yn casglu carcharorion rif y tywod.
10Maen nhwʼn gwneud sbort o frenhinoedd,
ac yn chwerthin ar lywodraethwyr.
Dydy caer amddiffynnol yn ddim byd ond jôc iddyn nhw;
maen nhwʼn codi rampiau, yn gwarchae a gorchfygu.
11Yna i ffwrdd â nhw fel y gwynt!
Dynion syʼn addoli eu grym milwrol;
a byddan nhwʼn cael eu galw i gyfri.”
Habacuc yn cwyno eto
12“Ond ARGLWYDD,
ti ydyʼr Duw oedd ar waith yn yr hen ddyddiau!
Ti ydyʼr Duw Sanctaidd,
fyddi di byth yn marw!
ARGLWYDD, tiʼn eu defnyddio nhw i farnu!
Ein Craig, rwyt ti wediʼu penodi nhw i gosbi!
13Mae dy lygaid yn rhy lân i edrych ar ddrygioni!
Sut alli di esgusodi annhegwch?
Sut wyt tiʼn gallu dioddef pobl mor dwyllodrus?
Sut alli di eistedd yn dawel tra mae pobl ddrwg
yn llyncu pobl syʼn well na nhw?
14Rwyt tiʼn gwneud pobl fel pysgod,
neu greaduriaid y môr heb neb iʼw harwain.
15Maeʼr gelyn yn eu dal nhw gyda bachyn;
maeʼn eu llusgo nhw yn y rhwyd a daflodd.
Wrth eu casglu gydaʼi rwyd bysgota
maeʼn dathluʼn llawen ar ôl gwneud mor dda.
16Wedyn maeʼn cyflwyno aberthau
ac yn llosgi arogldarth iʼw rwydau.
Nhw syʼn rhoi bywyd bras iddo,
a digonedd iʼw fwyta.
17Ydy eʼn mynd i gael dal ati i wagio ei rwydi,
a dinistrio gwledydd yn ddidrugaredd?
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015