No themes applied yet
1Dw iʼn mynd i sefyll ar y tŵr gwylio,
ac edrych allan o wal y ddinas.
Disgwyl i weld beth fydd Duw yn ei ddweud,
a sut fydd eʼn ateb y gŵyn sydd gen i.”
Yr ARGLWYDD yn ateb Habacuc
2A dymaʼr ARGLWYDD yn ateb:
“Ysgrifennaʼr neges yma yn glir ar lechi,
iʼr negeswr syʼn rhedeg allu ei ddarllen yn hawdd.
3Maeʼn weledigaeth o beth syʼn mynd i ddigwydd;
maeʼn dangos sut fydd pethau yn y diwedd.
Os nad ydy eʼn digwydd yn syth, bydd yn amyneddgar –
maeʼn siŵr o ddod ar yr amser iawn.
Trafferthion i bobl ddrwg
4A dymaʼr neges:
Maeʼr gelyn mor falch aʼi gymhellion yn ddrwg,
ond bydd yr un cyfiawn yn byw drwy ei ffyddlondeb.
5Bydd gwin ei lwyddiant yn achos cwymp
iʼr gelyn balch, anfodlon.
Mae ganddo chwant bwyd fel y bedd;
fel marwolaeth, dydy e byth yn fodlon.
Dyna pam maeʼr gelyn yn casglu
ac yn concro un wlad ar ôl y llall.
6Bydd y gwledydd hynny yn ei wawdio ryw ddydd!
Byddan nhwʼn gwneud hwyl am ei ben ar gân! –
‘Gwaeʼr un syʼn cymryd eiddo oddi ar bobl!
(Am faint mae hyn i ddigwydd?)
Gwneud ei hun yn gyfoethog
drwy elwa ar draul eraill!’
7Bydd y bobl wyt ti mewn dyled iddyn nhw
yn codi heb unrhyw rybudd.
Byddan nhwʼn deffroʼn sydyn,
yn dy ddychryn ac yn cymryd dy eiddo di.
8Am dy fod ti wedi dwyn oddi ar lawer o wledydd,
bydd y rhai sydd ar ôl yn dwyn oddi arnat ti.
Bydd hyn yn digwydd am dy fod wedi lladd cymaint o bobl,
a dinistrio gwledydd a dinasoedd.
9Gwae chi sydd wedi ennill cyfoeth iʼch teulu
drwy fanteisioʼn annheg ar bobl eraill.
Chi sydd wedi gwneud yn siŵr
fod eich nyth eich hunain yn saff –
yn uchel, allan o gyrraedd unrhyw berygl.
10Mae eich sgam wedi dwyn cywilydd ar eich teulu.
Drwy ddinistrio cymaint o wledydd
dych chi wedi dwyn dinistr arnoch eich hunain.
11Bydd y cerrig yn waliau dy dŷ yn gweiddi allan,
aʼr trawstiau pren yn tystio yn dy erbyn.
12Gwaeʼr un syʼn tywallt gwaed i adeiladu dinas,
ac yn gosod ei sylfeini ar anghyfiawnder.
13Gwylia di! Maeʼr ARGLWYDD hollbwerus wedi datgan:
Bydd ymdrechion y bobloedd yn cael eu llosgi.
Bydd holl lafur y gwledydd i ddim byd.2:13 Jeremeia 51:58b
14Fel maeʼr môr yn llawn dop o ddŵr,
bydd pawb drwyʼr byd yn gwybod mor wych ydyʼr ARGLWYDD.
15Gwaeʼr un syʼn gorfodi pobl eraill
i yfed y gwin syʼn cael ei dywallt o gwpan dy ddigofaint.
Eu meddwi nhw er mwyn edrych arnyn nhwʼn noeth.
16Byddi diʼn feddw o gywilydd, nid mawredd!
Dy dro di i oryfed a dangos dy rannau preifat.
Mae cwpan digofaint yr ARGLWYDD yn dod i ti!
Byddiʼn chwydu cywilydd yn lle brolio dy ysblander mawreddog!
17Byddiʼn talu am ddinistrio coedwigoedd Libanus!
Byddiʼn dychryn am dy fywyd am i ti ladd yr holl fywyd gwyllt yno;
am dy fod ti wedi lladd cymaint o bobl,
a dinistrio gwledydd a dinasoedd.
18Ydy delw wediʼi gerfio o unrhyw werth?
Neu eilun o fetel syʼn camarwain pobl?
Pam fyddaiʼr crefftwr wnaeth ei lunio yn ei drystio?
Rhyw ‘dduw’ diwerth sydd ddim yn gallu siarad!
19Gwaeʼr un syʼn dweud wrth ddarn o bren, ‘Deffra!’
neu wrth garreg fud, ‘Gwna rywbeth!’
Ydy peth fellyʼn gallu rhoi arweiniad?
Mae wediʼi orchuddioʼn grand gydag aur neu arian,
ond does dim bywyd ynddo!
20Ond maeʼr ARGLWYDD yn ei balas sanctaidd.
Ust! Maeʼr byd i gyd yn fud oʼi flaen!”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015