No themes applied yet
Amau awdurdod Iesu
(Mathew 21:23-27; Marc 11:27-33)
1Un diwrnod roedd Iesuʼn dysguʼr bobl ac yn cyhoeddiʼr newyddion da yn y deml. Dymaʼr prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith aʼr arweinwyr Iddewig eraill yn dod ato, 2a gofyn iddo, “Pa hawl sydd gen ti i wneud beth wnest ti? Pwy yn union roddodd yr awdurdod i ti?”
3Atebodd Iesu, “Gadewch i mi ofyn un cwestiwn i chiʼn gyntaf. Dwedwch wrtho i – 4Ai Duw anfonodd Ioan i fedyddio neu ddim?”
5Wrth drafod y peth gydaʼi gilydd, dyma nhwʼn dweud, “Os atebwn ni ‘Ie’, bydd yn gofyn, ‘Pam doeddech chi ddim yn ei gredu?’ 6Ond allwn ni ddim dweud ‘Na’ … Bydd y bobl yn ein llabyddio ni â cherrig. Maen nhwʼn creduʼn gwbl bendant fod Ioan yn broffwyd.”
7Felly dyma nhwʼn dweud eu bod nhw ddim yn gwybod yr ateb.
8“Felly dw i ddim yn mynd i ateb eich cwestiwn chi chwaith,” meddai Iesu.
Stori y tenantiaid
(Mathew 21:33-46; Marc 12:1-12)
9Aeth yn ei flaen i ddweud y stori yma wrth y bobl: “Roedd dyn wedi plannu gwinllan. Gosododd y winllan ar rent i rhyw ffermwyr cyn mynd i ffwrdd am amser hir. 10Pan oedd hiʼn amser casgluʼr grawnwin anfonodd un oʼi weision i nôl y siâr roedd y tenantiaid i fod iʼw rhoi iddo. Ond dymaʼr tenantiaid yn curoʼr gwas aʼi anfon i ffwrdd heb ddim. 11Felly dymaʼr dyn yn anfon gwas arall; dyma nhwʼn curo hwnnw hefyd aʼi gam-drin aʼi anfon i ffwrdd heb ddim. 12Pan anfonodd was arall eto, dyma nhwʼn anafu hwnnwʼn ddifrifol aʼi daflu allan.
13“‘Beth wna i?’ meddaiʼr dyn oedd biauʼr winllan. ‘Dw iʼn gwybod! Anfona i fy mab annwyl atyn nhw. Byddan nhwʼn ei barchu e.’
14“Ond pan welodd y tenantiaid y mab, dyma nhwʼn dweud wrth ei gilydd: ‘Hwn syʼn mynd i etifedduʼr winllan. Os lladdwn ni hwn cawn niʼr winllan i niʼn hunain!’ 15Felly dyma nhwʼn ei daflu allan oʼr winllan aʼi ladd. Felly beth fydd y dyn biauʼr winllan yn ei wneud iddyn nhw? 16Bydd yn dod ac yn lladd y tenantiaid hynny ac yn rhoiʼr winllan i bobl eraill.”
Pan glywodd y bobl y stori yma, eu hymateb oedd, “Na! Byth!”
17Edrychodd Iesu i fyw eu llygaid, ac meddai, “Felly beth ydy ystyr y geiriau yma oʼr ysgrifau sanctaidd:
‘Maeʼr garreg wrthododd yr adeiladwyr
wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen’?20:17 Salm 118:22
18Bydd pawb syʼn baglu dros y garreg honno yn dryllioʼn ddarnau, a bydd pwy bynnag maeʼr garreg yn syrthio arno yn cael ei fathru.”
19Roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith aʼr prif offeiriaid yn gwybod yn iawn ei fod yn sôn amdanyn nhw yn y stori. Roedden nhw eisiau gafael ynddo yn y fan aʼr lle, ond roedd arnyn nhw ofn y bobl.
Talu trethi i Cesar
(Mathew 22:15-22; Marc 12:13-17)
20Roedden nhwʼn ei wylioʼn ofalus, a dyma nhwʼn anfon dynion ato oedd yn cymryd arnynt eu bod yn ddidwyll. Roedden nhwʼn gobeithio dal Iesu yn dweud rhywbeth oʼi le, ac wedyn bydden nhwʼn gallu dod â chyhuddiad yn ei erbyn o flaen y llywodraethwr Rhufeinig. 21Felly dymaʼr rhai gafodd eu hanfon i geisio ei dwyllo yn gofyn iddo, “Athro, dŷn niʼn gwybod fod yr hyn rwyt tiʼn ei ddweud ac yn ei ddysgu yn wir. Ti ddim yn dangos ffafriaeth, a tiʼn dysgu ffordd Duw ac yn glynu wrth yr hyn syʼn wir. 22Ydyʼn iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain?”
23Ond roedd Iesuʼn gweld eu bod yn ceisioʼi dwyllo. 24“Dewch â darn arian yma,” meddai wrthyn nhw. “Llun pwy sydd arno? Am bwy maeʼr arysgrif ymaʼn sôn?”
“Cesar,” medden nhw.
25“Felly,” meddai Iesu, “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, aʼr hyn biau Duw i Dduw.”
26Felly roedden nhw wedi methu ei gael i ddweud unrhyw beth oʼi le o flaen y bobl. Roedd ei ateb wediʼu syfrdanuʼn llwyr – doedden nhw ddim yn gallu dweud dim.
Priodas a bywyd ar ôl marwolaeth
(Mathew 22:23-33; Marc 12:18-27)
27Dyma rai oʼr Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn i Iesu. (Nhw ydyʼr arweinwyr Iddewig syʼn dweud fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw.) 28“Athro,” medden nhw, “rhoddodd Moses y rheol yma i ni: os ydy dyn yn marw heb gael plant, rhaid i frawd y dyn hwnnw briodiʼr weddw a chael plant yn ei le20:28 cyfeiriad at Deuteronomium 25:5 29Nawr, roedd saith brawd. Priododd yr hynaf, a buodd farw heb gael plant. 30-31Dymaʼr ail, ac ynaʼr trydydd yn priodiʼr weddw. Yn wir, digwyddodd yr un peth gydaʼr saith – wnaeth yr un ohonyn nhw adael plentyn ar ei ôl. 32Dymaʼr wraig yn marw wedyn hefyd. 33Felly dymaʼn cwestiwn ni: ‘Pan fydd yr atgyfodiad yn digwydd, gwraig pwy fydd hi?’ Roedd hi wedi bod yn wraig iʼr saith ohonyn nhw!”
34Atebodd Iesu, “Yn y bywyd yma mae pobl yn priodi. 35Ond yn yr oes sydd i ddod, fydd pobl ddim yn priodi – sef y bobl hynny syʼn cael eu cyfriʼn deilwng i fod yn rhan ohoni ac wedi codi yn ôl yn fyw. 36A fyddan nhw ddim yn marw eto. Byddan nhw yr un fath âʼr angylion yn hynny o beth. Maen nhwʼn blant Duw wediʼu codi yn ôl i fywyd newydd. 37A bydd y meirwʼn dod yn ôl yn fyw! Mae hyd yn oed Moses yn dangos fod hynnyʼn wir! Yn yr hanes am y berth yn llosgi maeʼn dweud maiʼr Arglwydd Dduw ydy ‘Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob’.20:37 Exodus 3:6 38Dim Duw pobl wedi marw ydy Duw, ond Duwʼr rhai syʼn fyw! Maen nhw i gyd yn fyw iddo fe!”
39Dyma rai oʼr arbenigwyr yn y Gyfraith yn ymateb, “Go dda, athro! Clywch, clywch!” 40O hynny ymlaen doedd neb yn meiddio gofyn mwy o gwestiynau iddo.
Mab pwy ydyʼr Meseia?
(Mathew 22:41-46; Marc 12:35-37)
41Yna dyma Iesuʼn dweud wrthyn nhw, “Pam maen nhwʼn dweud fod y Meseia yn fab i Dafydd? 42Mae Dafydd ei hun yn dweud yn Llyfr y Salmau:
‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy arglwydd:
“Eistedd yma yn y sedd anrhydedd20:42 yn y sedd anrhydedd Groeg, “ar yr ochr dde i mi”.
43nes i mi wneud i dy elynion blygu
fel stôl i ti orffwys dy draed arni.”’20:42,43 Salm 110:1
44Mae Dafydd yn ei alwʼn ‘Arglwydd’! Felly sut maeʼn gallu bod yn fab iddo?”
Iesu aʼr arbenigwyr yn y Gyfraith
(Mathew 23:1-36; Marc 12:38-40; Luc 11:37-54)
45Tra oedd y bobl i gyd yn gwrando, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, 46“Gwyliwch yr arbenigwyr yn y Gyfraith. Maen nhw wrth eu bodd yn cerdded o gwmpas yn swancio yn eu gwisgoedd swyddogol, ac yn hoffi cael pawb yn eu cyfarch ac yn talu sylw iddyn nhw yn sgwâr y farchnad. Maeʼn rhaid iddyn nhw gael y seddi gorau yn y synagogau, ac eistedd ar y bwrdd uchaf mewn gwleddoedd. 47Maen nhwʼn dwyn popeth oddi ar wragedd gweddwon ac wedyn yn ceisio rhoiʼr argraff eu bod nhwʼn dduwiol gydaʼu gweddïau hir! Bydd pobl fel nhw yn cael eu cosbiʼn llym.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015