No themes applied yet
Rhodd y weddw
(Marc 12:41-44)
1Pan oedd yn y deml, sylwodd Iesu ar y bobl gyfoethog yn rhoi arian yn y blychau casglu at drysorfaʼr deml. 2Yna daeth gwraig weddw dlawd a rhoi dwy geiniog i mewn. 3“Credwch chi fi,” meddai Iesu, “maeʼr wraig weddw dlawd yna wedi rhoi mwy yn y blwch na neb arall. 4Newid mân oedd pawb arall yn ei roi, gan fod ganddyn nhw hen ddigon dros ben; ond yn ei thlodi rhoddodd y wraig yna y cwbl oedd ganddi i fyw arno.”
Arwyddion o ddiwedd yr oes
(Mathew 24:1-21,29-35; Marc 13:1-19,24-31)
5Roedd rhai oʼi ddisgyblion yn tynnu sylw at waith cerrig hardd y deml aʼr meini coffa oedd yn ei haddurno. Ond dyma Iesuʼn dweud, 6“Maeʼr amser yn dod pan fydd y cwbl welwch chi yma yn cael ei chwalu, a fydd dim un garreg wediʼi gadael yn ei lle.”
7A dyma nhwʼn gofyn iddo, “Pryd mae hyn i gyd yn mynd i ddigwydd, Athro? Fydd unrhyw rybudd cyn iʼr pethau yma ddigwydd?”
8Atebodd Iesu: “Gwyliwch fod neb yn eich twyllo chi. Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, a dweud, ‘Fi ydyʼr Meseia’ a ‘Maeʼr diwedd wedi dod’. Peidiwch eu dilyn nhw. 9Pan fyddwch yn clywed am ryfeloedd a chwyldroadau, peidiwch dychryn. Maeʼr pethau ymaʼn siŵr o ddigwydd gyntaf, ond fydd diwedd y byd ddim yn digwydd yn syth wedyn.”
10Dwedodd wrthyn nhw, “Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. 11Bydd daeargrynfeydd mawr, a newyn a heintiau mewn gwahanol leoedd, a digwyddiadau dychrynllyd eraill ac arwyddion oʼr nefoedd yn rhybuddio pobl.
12“Ond cyn i hyn i gyd ddigwydd, byddwch chiʼn cael eich erlid aʼch cam-drin. Cewch eich llusgo o flaen y synagogau aʼch rhoi yn y carchar. Cewch eich cyhuddo o fod yn ddilynwyr i mi o flaen brenhinoedd a llywodraethwyr. 13Ond bydd y cwbl yn gyfle i chi dystio amdana i. 14Felly peidiwch poeni ymlaen llaw beth iʼw ddweud wrth amddiffyn eich hunain. 15Bydda iʼn rhoiʼr geiriau iawn i chi. Fydd gan y rhai syʼn eich gwrthwynebu chi ddim ateb! 16Byddwch yn cael eich bradychu gan eich rhieni, eich brodyr aʼch chwiorydd, eich perthnasau eraill aʼch ffrindiau. Bydd rhai ohonoch chiʼn cael eich lladd. 17Bydd pawb yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi. 18Ond byddwch chiʼn hollol saff;21:18 hollol saff: Groeg, “Fydd dim un blewyn ar eich pen chi yn cael ei golli.”. 19wrth sefyll yn gadarn y cewch chi fywyd.
20“Byddwch chiʼn gwybod fod Jerwsalem ar fin cael ei dinistrio pan welwch chi fyddinoedd yn ei hamgylchynu. 21Bryd hynny dylai pawb sydd yn Jwdea ddianc iʼr mynyddoedd. Dylai pawb ddianc oʼr ddinas, a ddylai neb yng nghefn gwlad fynd yno i chwilio am loches. 22Dyna pryd y bydd Duw yn ei chosbi, a bydd y cwbl maeʼr ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud am y peth yn dod yn wir. 23Mor ofnadwy fydd hi ar wragedd beichiog a mamau syʼn magu plant bach bryd hynny! Bydd trybini mawr yn y tir, a bydd digofaint Duw ar y genedl. 24Byddan nhwʼn cael eu lladd âʼr cleddyf neuʼn cael eu symud i wledydd eraill yn garcharorion. Bydd pobl o genhedloedd eraill yn concro Jerwsalem aʼi sathru dan draed hyd nes i amser y cenhedloedd hynny ddod i ben.
25“Bydd pethau rhyfedd yn digwydd yn yr awyr – arwyddion yn yr haul, y lleuad aʼr sêr. Ar y ddaear bydd gwledydd mewn cynnwrf a ddim yn gwybod beth iʼw wneud am fod y môr yn corddi a thonnau anferth yn codi. 26Bydd pobl yn llewygu mewn dychryn wrth boeni am yr hyn syʼn mynd i ddigwydd iʼr byd, achos bydd hyd yn oed y sêr aʼr planedau yn ansefydlog.21:26 cyfeiriad at Eseia 34:4 27Bryd hynny bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod mewn cymylau gyda grym ac ysblander mawr.21:27 cyfeiriad at Daniel 7:13-14 28Pan fydd hyn i gyd yn dechrau digwydd, safwch ar eich traed a daliwch eich pennauʼn uchel. Mae rhyddid ar ei ffordd!”
29Dyma feʼn darlunioʼr peth fel yma: “Meddyliwch am y goeden ffigys aʼr coed eraill i gyd. 30Pan maen nhwʼn dechrau deilio dych chiʼn gwybod fod yr haf yn agos. 31Fellyʼr un fath, pan fyddwch yn gweld y pethau ymaʼn digwydd, byddwch yn gwybod fod Duw ar fin dod i deyrnasu.
32“Credwch chi fi, bydd y genhedlaeth bresennol yn dal yma pan fydd hyn yn digwydd. 33Bydd yr awyr aʼr ddaear yn diflannu, ond mae beth dw iʼn ddweud yn aros am byth.
34“Gwyliwch eich hunain! Peidiwch gwastraffuʼch bywydau yn gwneud dim byd ond joio, meddwi a phoeni am bethau materol, neu bydd y diwrnod hwnnw yn eich dal chiʼn annisgwyl – 35bydd fel cael eich dal mewn trap. A bydd yn digwydd i bawb drwyʼr byd i gyd. 36Cadwch eich llygaid yn agored! Gweddïwch y byddwch chiʼn gallu osgoiʼr pethau ofnadwy syʼn mynd i ddigwydd, ac y cewch chi sefyll o flaen Mab y Dyn.”
37Roedd Iesu yn dysgu pobl yn y deml bob dydd, ac yna gydaʼr hwyr yn mynd yn ôl i dreulioʼr nos ar ochr Mynydd yr Olewydd. 38Yn gynnar bob bore roedd tyrfa o bobl yn casglu at ei gilydd i wrando arno yn y deml.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015