No themes applied yet
Iesu a Sacheus
1Aeth Iesu yn ei flaen i mewn i Jericho, ac roedd yn mynd drwyʼr dref. 2Roedd dyn oʼr enw Sacheus yn byw yno – Iddew oedd yn arolygwr yn adran casglu trethi Rhufain. Roedd yn ddyn hynod o gyfoethog. 3Roedd arno eisiau gweld Iesu, ond roedd yn ddyn byr ac yn methu ei weld am fod gormod o dyrfa oʼi gwmpas. 4Rhedodd ymlaen a dringo coeden sycamorwydden oedd i lawr y ffordd lle roedd Iesuʼn mynd, er mwyn gallu gweld.
5Pan ddaeth Iesu at y goeden, edrychodd i fyny a dweud wrtho, “Sacheus, tyrd i lawr. Maeʼn rhaid i mi ddod i dy dŷ di heddiw.” 6Dringodd Sacheus i lawr ar unwaith a rhoi croeso brwd i Iesu iʼw dŷ.
7Doedd y bobl welodd hyn ddim yn hapus o gwbl! Roedden nhwʼn cwyno a mwmblan, “Mae wedi mynd i aros i dŷ ‘pechadur’ – dyn ofnadwy!”
8Ond dyma Sacheus yn dweud wrth Iesu, “Arglwydd, dw iʼn mynd i roi hanner popeth sydd gen i iʼr rhai syʼn dlawd. Ac os ydw i wedi twyllo pobl a chymryd mwy o drethi nag y dylwn i, tala i bedair gwaith cymaint yn ôl iddyn nhw.”19:8 pedair gwaith cymaint yn ôl iddyn nhw: Roedd y gyfraith Iddewig a chyfraith Rhufain yn dweud fod rhaid i rywun daluʼn ôl bedair gwaith y swm oedden nhw wediʼi gymryd.
9Meddai Iesu, “Maeʼr bobl syʼn byw yma wedi gweld beth ydy achubiaeth heddiw. Maeʼr dyn yma wedi dangos ei fod yn fab i Abraham. 10Dw i, Mab y Dyn, wedi dod i chwilio am y rhai sydd ar goll, iʼw hachub nhw.”19:10 cyfeiriad at Eseciel 34:11,12
Stori am ddeg gwas
(Mathew 25:14-30)
11Roedd y dyrfaʼn gwrando ar bopeth roedd Iesuʼn ei ddweud. Gan ei fod yn dod yn agos at Jerwsalem, dwedodd stori wrthyn nhw i gywiroʼr syniad oedd gan bobl fod teyrnasiad Duw yn mynd i ddod unrhyw funud. 12Dymaʼr stori: “Roedd rhyw ddyn pwysig aeth i ffwrdd i wlad bell i gael ei wneud yn frenin ar ei bobl. 13Ond cyn mynd, galwodd ddeg oʼi weision ato a rhannu swm o arian19:13 swm o arian: Groeg, “10 mina”. Roedd un mina yn werth 100 denariws, sef cyflog tua tri mis. rhyngddyn nhw. ‘Defnyddiwch yr arian yma i farchnata ar fy rhan, nes dof i yn ôl adre,’ meddai.
14“Ond roedd ei bobl yn ei gasáu, a dyma nhwʼn anfon cynrychiolwyr ar ei ôl i ddweud eu bod nhw ddim eisiau iddo fod yn frenin arnyn nhw.
15“Ond cafodd ei wneud yn frenin, a phan ddaeth adre galwodd ato y gweision hynny oedd wedi rhoiʼr arian iddyn nhw. Roedd eisiau gwybod oedden nhw wedi llwyddo i wneud elw. 16Dymaʼr cyntaf yn dod, ac yn dweud ei fod wedi llwyddo i wneud elw mawr – deg gwaith cymaint âʼr swm gwreiddiol! 17‘Da iawn ti!’ meddaiʼr meistr, ‘Rwyt tiʼn weithiwr da. Gan dy fod di wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, dw i am dy wneud diʼn rheolwr ar ddeg dinas.’
18“Wedyn dymaʼr ail yn dod ac yn dweud ei fod yntau wedi gwneud elw – pum gwaith cymaint âʼr swm gwreiddiol. 19‘Da iawn ti!’ meddaiʼr meistr, ‘Dw i am dy osod di yn rheolwr ar bum dinas.’
20“Wedyn dyma was arall yn dod ac yn rhoiʼr arian oedd wediʼi gael yn ôl iʼw feistr, a dweud, ‘Dw i wedi cadwʼr arian yn saff i ti. 21Roedd gen i ofn gwneud colled gan dy fod diʼn ddyn caled. Rwyt tiʼn ecsbloetio pobl, ac yn dwyn eu cnydau nhw.’
22“Atebodd y meistr, ‘Dw iʼn ddyn caled ydw i – yn ecsbloetio pobl ac yn dwyn eu cnydau nhw? Iawn! Dyna sut cei di dy drin gan dy fod tiʼn was da i ddim! 23Pam wnest ti ddim rhoiʼr arian mewn cyfri banc? Byddwn i o leia wediʼi gael yn ôl gyda rhyw fymryn o log!’
24“Felly dymaʼr brenin yn rhoi gorchymyn iʼr rhai eraill oedd yn sefyll yno, ‘Cymerwch yr arian oddi arno, aʼi roi iʼr un oedd wedi gwneud y mwya o elw!’
25“‘Ond feistr,’ medden nhw, ‘Mae gan hwnnw hen ddigon yn barod!’
26“Atebodd y meistr nhw, ‘Bydd y rhai sydd wedi gwneud defnydd da o beth sydd ganddyn nhw yn derbyn mwy; ond am y rhai syʼn gwneud dim byd, bydd hyd yn oed yr ychydig sydd ganddyn nhwʼn cael ei gymryd oddi arnyn nhw! 27Dw iʼn mynd i ddelio gydaʼr gelynion hynny oedd ddim eisiau i mi fod yn frenin arnyn nhw hefyd – dewch â nhw yma, a lladdwch nhw i gyd o mlaen i!’”
Marchogaeth i Jerwsalem
(Mathew 21:1-11; Marc 11:1-11; Ioan 12:12-19)
28Ar ôl dweud y stori, aeth Iesu yn ei flaen i gyfeiriad Jerwsalem. 29Pan oedd ar fin cyrraedd Bethffage a Bethania wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem, dwedodd wrth ddau oʼi ddisgyblion, 30“Ewch iʼr pentref acw sydd oʼch blaen. Wrth fynd i mewn iddo, dewch o hyd i ebol wediʼi rwymo – un does neb wedi bod ar ei gefn oʼr blaen. Dewch âʼr ebol i mi. 31Os bydd rhywun yn gofyn, ‘Pam dych chiʼn ei ollwng yn rhydd?’ dwedwch wrthyn nhw, ‘Maeʼr meistr ei angen.’”
32Felly i ffwrdd âʼr ddau ddisgybl; a dyna lle roedd yr ebol yn union fel roedd Iesu wedi dweud. 33Wrth iddyn nhw ei ollwng yn rhydd, dymaʼr rhai oedd biauʼr ebol yn dweud, “Hei! Beth ydych chiʼn ei wneud?”
34“Maeʼr meistr ei angen,” medden nhw. 35Pan ddaethon nhw âʼr ebol at Iesu dyma nhwʼn tafluʼu cotiau drosto, a dyma Iesuʼn eistedd ar ei gefn. 36Wrth iddo fynd yn ei flaen, dyma bobl yn rhoi eu cotiau fel carped ar y ffordd. 37Pan gyrhaeddon nhwʼr fan lle maeʼr ffordd yn mynd i lawr o Fynydd yr Olewydd, dymaʼr dyrfa oedd yn dilyn Iesu yn dechrau gweiddiʼn uchel a chanu mawl i Dduw o achos yr holl wyrthiau rhyfeddol roedden nhw wediʼu gweld:
38“Maeʼr Brenin syʼn dod i gynrychioliʼr Arglwydd wediʼi fendithioʼn fawr!19:38 Salm 118:26”
“Heddwch yn y nefoedd a chlod i Dduw yn y goruchaf!”
39Ond dyma ryw Phariseaid oedd yn y dyrfa yn troi at Iesu a dweud, “Athro, cerydda dy ddisgyblion am ddweud y fath bethau!”
40Atebodd Iesu, “Petaen nhwʼn tewi, byddaiʼr cerrig yn dechrau gweiddi.”19:40 adlais o Habacuc 2:11
Iesuʼn crio dros Jerwsalem
41Wrth iddyn nhw ddod yn agos at Jerwsalem dyma Iesu yn dechrau crio wrth weld y ddinas oʼi flaen. 42“Petaet ti, hyd yn oed heddiw, ond wedi deall beth fyddaiʼn dod â heddwch parhaol i ti! Ond maeʼn rhy hwyr, dwyt ti jest ddim yn gweld. 43Mae dydd yn dod pan fydd dy elynion yn codi gwrthglawdd yn dy erbyn ac yn dy gau i mewn ac ymosod arnat o bob cyfeiriad. 44Cei dy sathru dan draed, ti aʼr bobl syʼn byw ynot. Bydd waliauʼr ddinas yn cael eu chwaluʼn llwyr, am dy fod wedi gwrthod dy Dduw ar y foment honno pan ddaeth i dy helpu di.”
Iesuʼn clirioʼr deml
(Mathew 21:12-17; Marc 11:15-19; Ioan 2:13-22)
45Aeth i mewn i gwrt y deml a dechrau gyrru allan bawb oedd yn gwerthu yno. 46Meddai wrthyn nhw, “Maeʼr ysgrifau sanctaidd yn dweud, ‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi’; ond dych chi wedi troiʼr lle yn ‘guddfan i ladron’!”19:46 a Eseia 56:7; b cyfeiriad at Jeremeia 7:11
47Wedi hynny, roedd yn mynd iʼr deml bob dydd ac yn dysguʼr bobl. Roedd y prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith, aʼr arweinwyr crefyddol eraill yn cynllwynio iʼw ladd. 48Ond doedden nhw ddim yn gwybod beth iʼw wneud, gan fod y bobl gyffredin yn dal ar bob gair roedd yn ei ddweud.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015