No themes applied yet
Stori am wraig weddw oedd yn gwrthod rhoiʼr gorau iddi
1Dwedodd Iesu stori wrth ei ddisgyblion i ddangos y dylen nhw ddal ati i weddïo, a pheidio byth ag anobeithio: 2“Roedd barnwr yn byw mewn rhyw dref,” meddai, “dyn oedd ddim yn parchu Duw na neb arall. 3Ac yn yr un dref roedd gwraig weddw oedd yn mynd ato o hyd ac o hyd i ofyn iddo farnu rhywun oedd wedi gwneud niwed iddi.
4“Chymerodd y barnwr ddim sylw ohoni i ddechrau. Ond yn y diwedd roedd wedi cael hen ddigon – ‘Dw i ddim yn ddyn duwiol a dw i ddim yn poeni beth mae pobl eraill yn ei feddwl ohono i. 5Ond bydd y wraig yma wedi ngyrru iʼn wallgof os na wna i beth mae hi eisiau!’”
6Yna meddaiʼr Arglwydd, “Gwrandwch, mae gwers iʼw dysgu yma. 7Dych chiʼn gwybod beth ddwedodd y barnwr drwg. Felly beth am Dduw? Dych chi ddim yn meddwl y bydd eʼn amddiffyn y bobl mae wediʼu dewis iddoʼi hun? Fydd e ddim yn oedi! Bydd yn ymateb ar unwaith iʼr rhai syʼn galw arno ddydd a nos! 8Dw iʼn dweud wrthoch chi, bydd yn rhoi dedfryd gyfiawn iddyn nhw, a hynny ar frys! Ond, pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl, faint o bobl fydd yn dal i gredu bryd hynny?”
Stori am y Pharisead aʼr casglwr trethi
9Dwedodd Iesu y stori yma wrth rai pobl oedd yn meddwl eu bod nhw eu hunain mor dduwiol, ac yn edrych i lawr eu trwynau ar bawb arall: 10“Aeth dau ddyn i weddïo yn y deml. Pharisead oedd un ohonyn nhw, aʼr llall yn ddyn oedd yn casglu trethi i Rufain. 11Dymaʼr Pharisead yn sefyll ar ei draed yn hyderus, a dyma oedd ei weddi: ‘O Dduw, dw i yn diolch i ti mod i ddim yr un fath â phobl eraill. Dw i ddim yn twyllo na gwneud dim byd drwg arall, a dw i ddim yn gwneud pethau anfoesol. Dw i ddim yr un fath âʼr bradwr yma! 12Dw iʼn ymprydio ddwywaith yr wythnos ac yn rhoi un rhan o ddeg o bopeth sydd gen i iʼr deml.’
13“Ond roedd y casglwr trethi wedi mynd i sefyll mewn rhyw gornel ar ei ben ei hun. Doedd e ddim yn meiddio edrych i fyny hyd yn oed. Yn lle hynny roedd yn curoʼi frest mewn cywilydd. Dyma oedd ei weddi e: ‘O Dduw, wnei di faddau i mi. Dw iʼn bechadur ofnadwy.’
14“Dw iʼn dweud wrthoch chi maiʼr casglwr trethi, dim y Pharisead, oedd yr un aeth adre aʼi berthynas gyda Duw yn iawn. Bydd Duw yn torri crib pobl falch ac yn anrhydedduʼr rhai gostyngedig.”
Iesu aʼr plant bach
(Mathew 19:13-15; Marc 10:13-16)
15Roedd pobl yn dod âʼu babis bach at Iesu er mwyn iddo eu cyffwrdd aʼu bendithio. Ond pan welodd y disgyblion nhw, dyma nhwʼn dweud y drefn wrthyn nhw. 16Ond dyma Iesuʼn eu galw nhw ato. “Gadewch iʼr plant bach ddod ata i,” meddai, “Peidiwch eu rhwystro, am mai rhai fel nhw syʼn derbyn teyrnasiad Duw. 17Credwch chi fi, heb ymddiried fel plentyn bach, wnewch chi byth ddod yn un oʼr rhai mae Duwʼn teyrnasu yn eu bywydau.”
Y dyn cyfoethog
(Mathew 19:16-30; Marc 10:17-31)
18Un tro gofynnodd rhyw arweinydd crefyddol y cwestiwn yma i Iesu: “Athro da, beth alla i ei wneud i gael bywyd tragwyddol?”
19“Pam wyt tiʼn fy ngalw iʼn dda?” meddai Iesu. “Onid Duw ydyʼr unig un syʼn dda? 20Tiʼn gwybod beth wnaeth Duw ei orchymyn: ‘Paid godinebu, paid llofruddio, paid dwyn, paid rhoi tystiolaeth ffals, gofala am dy dad a dy fam.’18:20 Exodus 20:12-16; Deuteronomium 5:16-20”
21Atebodd y dyn, “Dw i wedi cadwʼr rheolau yma i gyd ers pan oʼn iʼn fachgen ifanc.”
22Pan glywodd Iesu hynny, dwedodd wrth y dyn, “Mae un peth arall ar ôl. Gwertha bopeth, dy eiddo i gyd, a rhannuʼr arian gyda phobl dlawd. Wedyn cei di drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.”
23Doedd y dyn ddim yn hapus o gwbl pan glywodd beth ddwedodd Iesu, am ei fod yn ddyn cyfoethog dros ben. 24Edrychodd Iesu ar y dyn yn cerdded i ffwrdd, ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Mae hi mor anodd i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau! 25Maeʼn haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau!”
26Dymaʼr rhai glywodd hyn yn dweud, “Oes gobaith i unrhyw un gael ei achub felly?”
27Atebodd Iesu, “Mae Duw yn gallu gwneud beth syʼn amhosib i bobl ei wneud.”
28Dyma Pedr yn ymateb, “Edrych, dŷn ni wedi gadael popeth sydd gynnon ni i dy ddilyn di!”
29“Credwch chi fi,” meddai Iesu wrthyn nhw, “bydd pwy bynnag sydd wedi mynd oddi cartref a gadael gwraig neu frodyr neu rieni neu blant er mwyn teyrnas Dduw 30yn derbyn llawer iawn mwy yn y bywyd yma. Ac yn yr oes sydd i ddod byddan nhwʼn derbyn bywyd tragwyddol!”
Iesuʼn dweud eto ei fod yn mynd i farw
(Mathew 20:17-19; Marc 10:32-34)
31Aeth Iesu âʼr deuddeg disgybl iʼr naill ochr, a dweud wrthyn nhw, “Pan gyrhaeddwn ni Jerwsalem, dawʼr cwbl maeʼr proffwydi wediʼi ysgrifennu amdana i, Mab y Dyn, yn wir. 32Bydda iʼn cael fy rhoi yn nwyloʼr Rhufeiniaid.18:32 Rhufeiniaid: Groeg, “estroniaid”. Byddan nhwʼn gwneud sbort am fy mhen, yn fy ngham-drin, ac yn poeri arna i. 33Yna bydda iʼn cael fy chwipio aʼm lladd. Ond yna, ddeuddydd wedyn bydda iʼn dod yn ôl yn fyw.”
34Doedd y disgyblion ddim yn deall hyn o gwbl. Roedd y cwbl yn ddirgelwch pur iddyn nhw, a doedd ganddyn nhw ddim syniad am beth roedd eʼn siarad.
Cardotyn dall yn cael gweld
(Mathew 20:29-34; Marc 10:46-52)
35Pan oedd Iesuʼn agosáu at Jericho dyma ddyn dall oedd yn cardota ar ochr y ffordd 36yn clywed sŵn tyrfa o bobl yn pasio heibio, a dyma feʼn gofyn, “Beth syʼn digwydd?” 37“Iesu o Nasareth syʼn pasio heibio,” meddai rhywun wrtho. 38Felly dymaʼr dyn dall yn gweiddiʼn uchel, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!”
39“Cau dy geg!” meddaiʼr bobl oedd ar flaen y dyrfa. Ond yn lle hynny dechreuodd weiddiʼn uwch fyth, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!”
40Dyma Iesuʼn stopio, ac yn dweud wrthyn nhw am ddod âʼr dyn ato. Pan ddaeth ato, gofynnodd iʼr dyn, 41“Beth ga i wneud i ti?”
“Arglwydd,” meddai, “dw i eisiau gallu gweld.”
42Yna dwedodd Iesu wrtho, “Iawn, cei di weld; am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.” 43Yn sydyn roedd y dyn yn gweld, a dilynodd Iesu gan foli Duw. Ac roedd pawb welodd beth ddigwyddodd yn moli Duw hefyd!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015