Skip to main content

Rhodd y weddw: Luc 21.1–4 (6 Rhagfyr 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Luc 21.1–4

Credaf ein bod yn gweld dau beth yn y darn bach hwn o’r Ysgrythur. Yn gyntaf, mae ysbryd rhoi o bwys aruthrol i Iesu. Mae anrheg a roddir yn anfoddol, neu er mwyn hunanbwysigrwydd, yn colli cymaint o’i werth. Yn ail, mae aberth ynghlwm wrtho. Gallai’r hyn sy’n ymddangos yn fach i un person fod yn bopeth sydd gan un arall i’w roi. Rhoddodd y weddw'r hyn a oedd yn ymddangos yn ychydig iawn, ond yng ngolwg Iesu roedd yn haelioni anhygoel.

Rwy’n cofio cynilo i brynu anrheg i’m gwraig. Cymerodd amser mor hir i gronni’r arian. Roedd yn rhaid imi weithio ddwywaith mor galed a mynd heb rai o’r dewisiadau arferol rwy’n gwneud fel arfer. Fe wnaeth frifo’n fawr – fe gostiodd rywbeth i roi’r anrheg honno. Dyma sut y gwelodd Iesu’r rhodd a roddwyd gan y weddw. Wedi ei gadael mewn tlodi trwy farwolaeth ei gŵr mae’n debyg, rhoddodd bopeth oedd ganddi.

Rwy’n credu bod bod yn was yn Nheyrnas Duw yn gofyn i ni feddwl am ein hysbryd haelionus. Pam ydym yn rhoi’r hyn rydym yn ei wneud a beth mae’n ei gostio o ddifrif i ni? Mae Isaac Watts yn disgrifio hyn mor eglur yn ei emyn, When I Survey the Wondrous Cross: ‘Love so amazing, so divine, demands my soul, my life, my all.’

Gweddi

Gweddi

Annwyl Dduw, gweddïaf am ysbryd hael a gostyngedig. Helpa fi, fel y weddw, i fod yn eithafol yn fy haelioni, gan geisio dy wasanaethu di yn unig, nid wedi fy nghymell gan gymeradwyaeth pobl eraill. Amen.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Nigel Langford, Pennaeth Cysylltiadau Eglwysig Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible