No themes applied yet
Profiʼr ysbrydion
1Ffrindiau annwyl, peidiwch credu pawb syʼn dweud eu bod nhwʼn siarad drwyʼr Ysbryd. Rhaid i chi eu profi nhw i weld os ydy beth maen nhwʼn ddweud wir yn dod oddi wrth Dduw. Mae digon o broffwydi ffals o gwmpas. 2Dyma sut mae nabod y rhai sydd ag Ysbryd Duw ganddyn nhw: Mae pob un syʼn cyffesu fod y Meseia Iesu wedi dod yn berson real o gig a gwaed yn dod oddi wrth Dduw. 3Ond os ydy rhywun yn gwrthod cydnabod hyn am Iesu, dydy hwnnw ddim yn dod oddi wrth Dduw. Maeʼr ysbryd sydd gan y person hwnnw yn dod oddi wrth elyn y Meseia. Dych chi wedi clywed ei fod yn mynd i ddod. Wel, y gwir ydy, mae e eisoes ar waith.
4Ond blant annwyl, dych chiʼn perthyn i Dduw. Dych chi eisoes wedi ennill y frwydr yn erbyn y proffwydi ffals yma, am fod yr Ysbryd sydd ynoch chi yn gryfach o lawer naʼr un sydd yn y byd. 5Iʼr byd annuwiol maen nhwʼn perthyn, ac maen nhwʼn siarad iaith y byd hwnnw, ac mae pobl y byd yn gwrando arnyn nhw. 6Ond dŷn niʼn perthyn i Dduw, fellyʼr rhai syʼn nabod Duw syʼn gwrando arnon ni. Dydyʼr rhai sydd ddim yn perthyn i Dduw ddim yn gwrando arnon ni. Dyma sut mae gwybod os mai Ysbryd y gwirionedd neu ysbryd twyll sydd gan rywun.
Cariad Duw aʼn cariad ni
7Ffrindiau annwyl, gadewch i ni garuʼn gilydd, am fod cariad yn dod oddi wrth Dduw. Mae pawb syʼn caru fel hyn wediʼi eniʼn blentyn i Dduw ac yn nabod Duw. 8Os ydyʼr cariad hwn ddim gan rywun, dydyʼr person hwnnw ddim yn nabod Duw chwaith – am mai cariad ydy Duw. 9Dyma sut wnaeth Duw ddangos ei gariad aton ni: anfonodd ei unig Fab iʼr byd, er mwyn i ni gael bywyd drwyddo. 10Dyma beth ydy cariad: dim y ffaith ein bod niʼn caru Duw, ond y ffaith ei fod e wediʼn caru ni ac anfon ei Fab yn aberth oedd yn gwneud iawn am ein pechodau ni. 11Ffrindiau annwyl, os ydy Duw wediʼn caru ni gymaint â hyn, dylen ninnau hefyd garuʼn gilydd. 12Does neb erioed wedi gweld Duw; ond os ydyn niʼn caruʼn gilydd, mae Duw yn byw ynon ni ac mae ei gariad yn dod yn real yn ein bywydau ni.
13Dŷn niʼn gwybod ein bod niʼn byw ynddo fe, a bod ei fywyd e ynon ni, am ei fod yn rhoi ei Ysbryd i ni. 14A dŷn ni wedi gweld ac yn gallu tystio fod y Tad wedi anfon ei Fab i fod yn Achubwr y byd. 15Os ydy rhywun yn cydnabod mai Iesu ydy Mab Duw, mae Duw yn byw ynddyn nhw a hwythau yn Nuw. 16Dŷn niʼn gwybod faint mae Duw yn ein caru ni, a dŷn niʼn dibynnuʼn llwyr ar y cariad hwnnw. Cariad ydy Duw. Maeʼr rhai syʼn byw yn y cariad yma yn byw yn Nuw, ac mae Duw yn byw ynddyn nhw. 17Am fod cariad yn beth real yn ein plith ni, dŷn niʼn gallu bod yn gwbl hyderus ar y diwrnod pan fydd Duw yn barnu. Dŷn niʼn byw yn y byd yma fel gwnaeth Iesu Grist fyw. 18Does dim ofn yn agos at y cariad yma, achos mae cariad perffaith yn cael gwared ag ofn yn llwyr. Os ydyn niʼn ofnus maeʼn dangos ein bod niʼn disgwyl cael ein cosbi, aʼn bod ni ddim wedi cael ein meddiannuʼn llwyr gan gariad Duw.
19Dŷn niʼn caruʼn gilydd am ei fod e wediʼn caru ni gyntaf. 20Pwy bynnag syʼn dweud ei fod yn caru Duw ac eto ar yr un pryd yn casáu brawd neu chwaer, maeʼn dweud celwydd. Os ydy rhywun ddim yn gallu caru Cristion arall maeʼn ei weld, sut mae eʼn gallu caruʼr Duw dydy e erioed wediʼi weld? 21Dymaʼr gorchymyn mae Duw wediʼi roi i ni: Rhaid iʼr sawl syʼn ei garu e, garu ei gyd-Gristnogion hefyd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015