No themes applied yet
1Gwae ddinas y tywallt gwaed,
syʼn llawn celwyddau, yn llawn trais
aʼr lladd byth yn stopio!
2Daeth sŵn clec y chwip a thwrwʼr olwynion,
meirch yn carlamu a cherbydauʼn crynu!
3Marchogion yn ymosod,
cleddyfauʼn fflachio,
gwaywffyn yn disgleirio!
Pobl wediʼu lladd ym mhobman;
tomenni diddiwedd o gyrff –
maen nhwʼn baglu dros y meirwon!
4Aʼr cwbl o achos drygioniʼr butain
ddeniadol oedd yn feistres swynion,
yn gwerthu ei hun iʼr cenhedloedd
a swyno a thwyllo pobloedd.
5“Dw iʼn mynd i ddelio gyda ti,”
–meddaiʼr ARGLWYDD hollbwerus.
“Bydda iʼn gwneud i ti gywilyddio –
yn codi dy sgert dros dy wyneb;
bydd y cenhedloedd yn dy weld yn noeth
a theyrnasoedd yn gweld dy rannau preifat!3:5 Jeremeia 13:26
6Bydda iʼn taflu budreddi ar dy ben,
aʼth wneud yn destun sbort ac yn sioe.
7Fydd neb yn gallu edrych yn hir –
Bydd pawb yn troi i ffwrdd a dweud,
‘Mae Ninefeʼn adfeilion,
a does neb yn cydymdeimlo!’
Ble wna i ddod o hyd i rywun i dy gysuro di, Ninefe?”
8Wyt tiʼn saffach na Thebes3:8 Thebes Dinas bwysicaf yr Aifft, gafodd ei choncro gan Ashwrbanipal, brenin Asyria yn 663 CC (Mae safle Thebes tua 400 milltir iʼr de o Cairo). ar lan afon Nîl?
Roedd y dŵr fel môr3:8 dŵr fel môr Hebraeg, “môr oʼr môr”. Roedd afon Nîl dros hanner milltir ar ei thraws wrth Thebes. yn glawdd oʼi chwmpas,
aʼr afon fel rhagfur iddi.
9Roedd yn rheoliʼr Aifft a dwyrain Affrica;3:9 dwyrain Affrica Hebraeg, Cwsh, sef teyrnas gref iʼr de oʼr Aifft, yn cynnwys rhannau o Ethiopia aʼr Swdan heddiw.
roedd ei grym yn ddi-ben-draw!
– mewn cynghrair â Pwt a Libia.
10Ond cafodd ei phobl eu caethgludo,
aʼi phlant bach eu curo i farwolaeth
ar gornel pob stryd.
Roedden nhwʼn gamblo am ei phobl bwysig,
ac yn rhwymo ei harweinwyr â chadwyni.
11Byddi dithau hefyd yn feddw
ac wedi dy faeddu.
Byddi dithauʼn ceisio cuddio rhag y gelyn.
12Bydd dy gaerau i gyd fel coed ffigys
gydaʼi ffrwythau cyntaʼn aeddfed.
Oʼu hysgwyd bydd y ffrwyth yn syrthio
i gegauʼr rhai sydd am eu bwyta!
13Bydd dy filwyr fel merched gwan yn dy ganol;
a giatiau dy wlad ar agor iʼr gelyn;
bydd tân yn llosgiʼr barrau syʼn eu cloi.
14Dos i dynnu dŵr iʼw gadw ar gyfer y gwarchae!3:14 gwarchae Pan oedd byddin yn ymosod ar ddinas roedd yn amgylchynuʼr ddinas aʼi thorri i ffwrdd fel bod neb yn gallu mynd i mewn nac allan.
Cryfha dy gaerau!
Cymer fwd a sathraʼr clai,
a gwneud brics yn y mowld!
15Bydd tân yn dy losgi di yno,
aʼr cleddyf yn dy dorri i lawr –
cei dy ddifa fel cnwd gan lindys.
Gwna dy hun mor niferus âʼr lindys;
gwna dy hun mor niferus âʼr locust ifanc.
16Roedd gen ti fwy o fasnachwyr
nag sydd o sêr yn yr awyr,
ond maen nhw fel lindys yn bwrwʼi groen a hedfan i ffwrdd.
17Roedd dy warchodwyr aʼth weision sifil
fel haid o locustiaid yn eistedd ar waliau ar ddiwrnod oer;
ond pan maeʼr haul yn codi maen nhwʼn hedfan i ffwrdd,
a does neb yn gwybod i ble.
18Mae dy fugeiliaid yn cysgu, frenin Asyria!
Mae dy arweinwyr yn pendwmpian!
Mae dy bobl fel defaid ar wasgar dros y bryniau,
a does neb iʼw casglu.
19Does dim gwella ar dy glwyf –
mae dy anaf yn farwol.
Bydd pawb fydd yn clywed y newyddion amdanat
yn dathlu a churo dwylo.
Oes rhywun wnaeth ddianc
rhag dy greulondeb diddiwedd?
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015