Mae gan Gymdeithas y Beibl ei gwreiddiau yng Nghymru. Yng Nghymru y gwnaeth Mary Jones ei thaith gerdded enwog i brynu Beibl yn ei hiaith ei hun, Cymraeg, gan y Parchedig Thomas Charles.
Ei phenderfyniad i fod yn berchen ar ei Beibl ei hun y gallai ei ddarllen drosti ei hun a ysgogodd Mr Charles i weithio gydag eraill i sefydlu’r Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor yn 1804.
Heddiw mae Cymdeithas y Beibl yn parhau i weithio yng Nghymru ymhlith pobl sy’n siarad Cymraeg ac yn siarad Saesneg. Cymdeithas y Beibl yw prif gyhoeddwyr y Beibl yn Gymraeg. Mae ein canolfan ymwelwyr, Byd Mary Jones yn Llanycil, y Bala yn gwneud stori Mary Jones, Thomas Charles, a Chymdeithas y Beibl yn wybyddus i genedlaethau newydd o dwristiaid, grwpiau ysgol ac eraill. Mae Agor y Llyfr hefyd yn weithredol iawn yng Nghymru, gan gymryd storiâu’r Beibl i ysgolion, y rhai Cymraeg a Saesneg y mhob rhan o’r wlad.
Mae’r tîm yng Nghymru yn gweithio i annog, arfogi a chefnogi pobl yng Nghymru i ddarllen y Beibl ac i’w ddeall yn well.
Cymdeithas y Beibl yw prif gyhoeddwr y Beibl Cymraeg. Yn 2014 cyhoeddwyd Y Beibl Cymraeg Newydd gyda Mynegair, ac yn 2015 cyhoeddwyd beibl.net mewn print am y tro cyntaf, sef y cyfieithiad mwyaf newydd o’r Beibl Cymraeg.
Dysgwch sut y gwnaeth taith un ferch newid bywydau miliynau: gweithgareddau rhyngweithiol, fideos ac arddangosfeydd yn dod â’i stori ryfeddol yn fyw o 1800 tan heddiw.
Cymerwch gip olwg ar yr adnoddau Cymraeg amrywiol sydd ar gael.
Mae plant wrth eu bodd gyda stori – yn enwedig storïau o’r Beibl pan fyddan nhw’n rhyngweithiol, yn ddiddorol, ac yn hwyl.
Drwy roi ychydig o’ch amser a’ch egni i wirfoddoli gall eich gweithredoedd wneud cyfraniad mawr tuag at gynnig y Beibl i’r byd.
Beibl y mis yw ein gwahoddiad i chi: dewch â’r Beibl i fwy o fwy o fywydau newydd pob mis. Eich rhodd. Ein gwaith. Eu Beibl.
Cefnogwch ni mewn gweddi os gwelwch yn dda. Gweddïwch bydd ein gwaith yn cael ei arwain a’i nerthu gan Ysbryd Duw fel bydd y weledigaeth rydym yn gweithio tuag ato yn dod yn realiti.
P'un a ydych gartref neu mewn cynulleidfa, fe welwch lawer yn y casgliad ysbrydoledig hwn o ddeunydd addoli ar gyfer Sul y Beibl ar 24 Hydref 2021.
Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol.
Mae Cwrs y Beibl bellach wedi ei drosi i fformat digidol sy’n addas i’w ddilyn ar-lein gan grwpiau bach neu o fewn sefyllfa deuluol. Mae’r adnoddau digidol wedi’u llunio fel eu bod yn hwylus i’w rhannu, felly fe fydd yn bosib i chi redeg Cwrs y Beibl hyd at Awst 31ain 2020 am bris o £9.99 yn unig!