Skip to main content
Read this in English

Pwy ydym ni

Mae’r tîm yng Nghymru yn gweithio i annog, arfogi a chefnogi pobl yng Nghymru i ddarllen y Beibl ac i’w ddeall yn well.  Rydym hefyd wrth gwrs yn cefnogi gwaith ehangach Cymdeithas y Beibl ar draws y byd. Gallwch gysylltu yma os hoffech wahodd aelod o’r tîm i wneud cyflwyniad yn eich capel/eglwys/sefydliad.   

Dyma ychydig o fanylion am ein haelodau o staff:

Siân Wyn Rees

Camodd Siân i mewn i swydd Pennaeth Cymdeithas y Beibl, yng Nghymru ym mis Hydref 2022 ar ôl gwasanaethu gyda City Church, Caerdydd ac fel Cyfarwyddwr y Cynghrair Efengylaidd yng Nghymru.  Mae gan Siân hefyd cefndir mewn addysg a chyn symud i'r de, roedd yn Bennaeth Cyfadran Celfyddydau Perfformio a Mynegiannol mewn ysgol uwchradd yn y gogledd.  Er bod nifer o'i diddordebau yn ymwneud â cherddoriaeth a phethau creadigol, mae Siân hefyd yn mwynhau teithio, gwylio rygbi rhyngwladol Cymru ac mae hi wedi ymroi yn llwyr i ddarganfod latte perffaith.

Nerys Siddall

Nerys Siddall yw Swyddog Addysg a Rheolwraig Canolfan Byd Mary Jones. Yn wreiddiol o Sir Fôn, mae hi bellach yn byw yn Llanuwchllyn. Cyn ymuno â Chymdeithas y Beibl, bu Nerys yn athrawes Addysg Grefyddol mewn ysgol uwchradd.
Mae’n angerddol dros rannu stori Mary Jones ag ymwelwyr i’r ganolfan, yn arbennig grwpiau ysgol yn ogystal â siarad â chymdeithasau amrywiol am yr effaith a’r dylanwad cafodd taith Mary ar eraill.
Yn ystod y misoedd pan mae’r ganolfan ar agor maent yn cael eu cefnogi gan nifer o staff dwyieithog law yn llaw â gwirfoddolwyr lleol.
Cysylltwch â Nerys gydag unrhyw ymholiadau am ganolfan Byd Mary Jones ac i drefnu ymweliadau.

Mel Hill

Mae Mel yn gweithio i Gymdeithas y Beibl fel Swyddog Marchnata ac wedi ei lleoli yng Ngogledd Cymru, yn gweithio ochr yn ochr â Nerys yn Mary Jones World. Mae hi hefyd yn cefnogi marchnata ehangach Cymdeithas y Beibl.
Cyn ymuno â Chymdeithas y Beibl aeth Mel i brifysgol yng Nghaerdydd. Symudodd i Ogledd Cymru yn 2015 ac mae wedi bod yn rhan o dîm MJW ers agor y ganolfan.
Fel dysgwr Cymraeg sefydledig, mae Mel yn angerddol am bopeth Cymru a stori Mary Jones.

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible