Skip to main content
Read this in English

Agor y Llyfr yng Nghymru 

Dechreuodd Agor y Llyfr nôl yn 1999 yn Sir Gaerloyw, gyda chriw bach yn dod at ei gilydd o eglwys leol â baich i ddarllen hanesion o’r Beibl i blant eu hysgol leol. Tyfodd y Cynllun nes cael ei fabwysiadu gan Gymdeithas y Beibl yn 2013.

Storïau o dimau Agor y Llyfr

Cafodd y deunyddiau eu cyhoeddi yn y Gymraeg yn 2008 gan Cyhoeddiadau’r Gair, gyda Cynthia Davies yn cyfieithu Beibl Newydd y Storïwr o’r Saesneg. Roedd ymateb brwd iawn i’r adnoddau gyda sawl tîm yn cael ei sefydlu. Gyda’r gwaith yn tyfu yng Nghymru gwelwyd yr angen am swyddog i hybu Agor y Llyfr a chynnig hyfforddiant trwy’r Gymraeg.  Yn 2023 lansiwyd deunydd newydd sbon ac mae’r adnoddau hyn wedi ei cyfieithu i’r Gymraeg hefyd. 

Ar hyn o bryd mae dros 6,000 o wirfoddolwyr yn gweithredu fel Storïwyr ledled y DU, yn mynd i’r ysgolion ac yn adeiladu perthynas â’r staff a’r disgyblion, gan ddod a’r Beibl yn fyw mewn ffordd gyffrous i gannoedd a miloedd o blant bob blwyddyn. Yng Nghymru mae tua 300 o Storïwyr, gyda thua 40 o dimau Cymraeg eu hiaith. Mae yna amrywiaeth mawr ymysg ein timau: timau yn y trefi ac yng nghefn gwlad; timau cyd-enwadol; timau sy’n ymweld â’r ysgol yn achlysurol; timau sy’n ymweld bob wythnos; timau sy’n cynnwys dysgwyr a thimau o dan ymbarél Cytûn. 

Os hoffech wybod mwy am Agor y Llyfr cysylltwch â Sarah Morris Swyddog Datblygu a Hyfforddiant De Cymru [email protected].

Agor y Llyfr

Pontarddulais

Samantha Jones sy’n arwain tîm Pontarddulais, un o’r timau mwyaf diweddar i gael ei sefydlu. Meddai Samantha, “Rydym wrth ein bodd bod yr holl ddeunydd yn cael ei ddarparu ar ein cyfer ac oherwydd bod yn rhaid inni 'lynu at y sgript' bob amser, nid oes unrhyw bwysau wrth geisio meddwl beth i'w ddweud. 

Rydym nawr yn cynnal gwasanaeth misol mewn dwy ysgol leol ac mae'r adborth rydym wedi'i gael gan y staff a’r plant wedi bod yn wych. Mae’r plant wrth eu bodd â’r holl ffyrdd y medrant ymwneud â’r stori – boed hynny’n gweiddi geiriau neu synau, gwneud symudiadau neu ddod allan i’r blaen i gymryd rhan. 

Rydym hefyd wrth ein bodd yn cael y cyfle i adrodd y stori mewn cymaint o ffyrdd creadigol. Adeg y Nadolig, fe ddefnyddion ni bypedau, ac roedd y plant yn eu mwynhau gymaint nes i ni benderfynu defnyddio’r gwasanaeth yn yr eglwys hefyd. Cafodd y capel i gyd weld drostynt eu hunain pa mor wych yw Agor y Llyfr, ac roedd yr adborth eto, yn gadarnhaol iawn. Mae hyn wedi codi awydd ar amryw i weddïo dros ein gwaith, sy’n wych. 

Yr achlysur mwyaf cofiadwy hyd yn hyn fu pan gafodd baner enfys ei chwifio dros yr arch ar ddiwedd stori Arch Noa – roedd y plant wedi gwirioni, gyda sŵn “WOOOW!” i’w glywed dros y neuadd. Mae’n wir fraint cael y cyfle i fynd i’r ysgolion a phlannu hadau yng nghalonnau’r plant a gweddïwn y daw cyfle rhyw ddydd i weld y cynhaeaf.”

Wrecsam

Un arall sy’n Storïwr Agor y Llyfr yw Siwan Jones, Wrecsam. Dechreuodd y tîm cyntaf yn Wrecsam yn 2014 gan fynd i 3 ysgol yng nghanol y dref. Tua 2019 dechreuodd 2 grŵp arall yn yr ardal, a bellach, mae 2 grŵp arall wedi ffurfio. Mae tîm Rhos yn ymweld â 6 ysgol i gyd ac mae tîm ardal Llangollen yn ymweld â 3 ysgol. Mae ysgol Gymraeg arall wedi agor yn y dref ac mae tîm Wrecsam yn y broses o ddechrau mynd i’r ysgol honno o fewn y flwyddyn neu ddwy nesaf. Ar ôl hynny bydd pob ysgol Gymraeg yn y Sir yn cael darpariaeth Agor y Llyfr, 10 ysgol i gyd. 

Mae Siwan yn nodi bod dysgwyr Cymraeg yn mwynhau bod yn rhan o Agor y Llyfr, gan eu bod yn cael cyfle i ymarfer eu Cymraeg. Mae’r ysgolion yn hapus iawn i’w croesawu ac yn gwerthfawrogi’r cymorth gyda gwasanaethau. Mae nifer o’n timau bellach yn ‘local celebrities’ ac yn cael eu hadnabod ar strydoedd Wrecsam ambell waith! Fel timau maent yn cael llawer o hwyl yn ymarfer y straeon ac yn mwynhau rhannu’r straeon gyda’r plant hefyd. Mae’n gyfle ardderchog i rannu straeon y Beibl gyda’r plant - efallai am y tro cyntaf.  

Siwan notes that Welsh learners enjoy being part of Agor y Llyfr, as they have the opportunity to practise their Welsh. The schools are very happy to welcome the team and appreciate the help with services. Many of our teams are now local celebrities and are occasionally identified on the streets of Wrexham! The teams have a lot of fun rehearsing the stories and enjoy sharing the stories with the children as well. It's an excellent opportunity to share Bible stories with the children, perhaps for the first time.

Sir Fôn

Mae’r Parch Alun Thomas yn aelod o dîm cyd-enwadol yn Sir Fôn. Mae e’n gweld bod y “plant yn cael cyfle i ‘gamu mewn’ a bod yn rhan o’r stori wrth chwarae rôl a chael cyfle i wisgo fel rhai o’r cymeriadau! Maen nhw’n amlwg yn mwynhau gwneud hynny achos ‘does fyth prinder actorion.’ Yn sicr, mae’n ffordd arbennig o adeiladu perthynas rhwng y capel a’r ysgol leol.  Fel gweinidog, mae Agor y Llyfr wedi bod yn fendith wrth geisio sôn am gariad yr Arglwydd Iesu Grist gyda’n hysgolion lleol. Mae’n braf gweld ymateb cadarnhaol y plant a’r athrawon i’r hyn y mae Agor y Llyfr yn ei ddarparu.”

Sir Gaerfyrddin

Mae Helen Gibbon yn aelod o dîm yn Sir Caerfyrddin, ac mae hi’n disgrifio ymweld ag ysgol leol fel ‘uchafbwynt wythnosol’. Dechreuodd eu tîm nôl yn 2014. “Roedd rhaid trefnu pwy oedd yn actio pwy, pwy oedd yn dod â’r props, pa wisgoedd oedd angen a phwy oedd yn eu darparu, pwy oedd yn darllen, pwy oedd yn cyflwyno a’n harwain i mewn i’r stori. Chymerodd hi ddim yn hir i ni ddod yn gyfarwydd â’r drefn; ac o dipyn i beth dyma ni’n ymgyfarwyddo’n ddigonol i allu cynnal ymarfer byr cyn dechrau’r gwasanaeth, a bant â ni. Mae popeth yn gweithio’n hwylus iawn.”  

Mae Helen hefyd yn gweld ymateb calonogol iawn i gyflwyniadau Agor y Llyfr, “Mae’r disgyblion yn eiddgar i wisgo i fyny a hyd yn oed gael ambell air i’w ddweud. Does dim amheuaeth bod dod â stori’n fyw yn dod â bendith i’r tîm, yr athrawon a’r disgyblion.” 

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible