Eich adnoddau am ddim ar gyfer Sul y Beibl 2021 – ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg.
P'un a ydych gartref neu mewn cynulleidfa, fe welwch lawer yn y casgliad ysbrydoledig hwn o ddeunydd addoli ar gyfer Sul y Beibl ar 24 Hydref 2021.
Mae Sul y Beibl yn ymwneud â dathlu'r Ysgrythurau. Mae ein hadnoddau 2021 yn cynnwys pregeth, fideos, gweddïau, ac adnoddau difyr a hwyliog i bobl ifanc a phlant o bob oed.
Gwasanaeth addoli cyfan ar gael yn rhad ac am ddim!
Fe gewch yr adnoddau hyn yn atgof pwerus bod gair Duw yn newid bywydau a bod ei addewidion yn parhau i fod yn wir.
Cofrestrwch heddiw a byddwn yn anfon dolen at adnoddau Sul y Beibl 2021 atoch pan fyddant ar gael ddiwedd mis Awst.
Dewch i'r dyfroedd, bob un y mae syched arno; dewch, er eich bod heb arian; prynwch a bwytewch. Dewch, prynwch win a llaeth, heb arian a heb dâl.
Eseia 55.1 (BCND)
‘Cafodd ei ddefnyddio dros nifer o wythnosau mewn e-byst at blwyfolion yn methu â dod i'r eglwys. Rhoddodd anogaeth bob wythnos trwy fis Hydref.’
‘Byddai mwy o help fel hyn i weinidogion sy’n gorweithio yn wych. Diolch yn fawr iawn.'
‘Ardderchog gan nad oeddwn yn gallu mynd i eglwys!’
‘Roedd fy nau blentyn wrth eu bodd yn gwneud y sgrôl.’
Byddwn yn e-bostio dolen at Adnoddau Sul y Beibl 2021 atoch pan fyddant ar gael ddiwedd mis Awst.
Rydym yn ymddiheuro, ond mae peth o’r cynnwys yn y dudalen hon yn yr iaith Saesneg
* denotes a required field