Dicter

‘Byddwch ddig, ond peidiwch â phechu; peidiwch â gadael i'r haul fachlud ar eich digofaint, a pheidiwch â rhoi cyfle i'r diafol.’ (Effesiaid 4:26–7)

Mae’n siŵr y bydd yna adegau yn ein bywyd pryd y byddwn yn ddig, ac mewn rhai achosion fe fydd modd inni gyfiawnhau ein hunain, yn enwedig os bydd rhyw drychineb yn dod i’n rhan neu y byddwn yn dod ar draws pethau sy’n ymddangos yn gwbl anghywir i ni, neu sy’n amlwg yn anghyfiawn. Cofiwn fod Iesu wedi bod yn ddig ac wedi ‘glanhau y deml’ oherwydd hynny (Ioan 2:13–22).

Fodd bynnag, y ffordd y byddwn yn ymateb ac yn delio â’n dicter fydd yn cael dylanwad, nid yn unig ar eraill, ond arnom ni ein hunain.

Faint ohonom fyddai’n hoffi cael cyfle i droi’r cloc yn ôl er mwyn ymateb yn wahanol i ennyd o ddicter, am eu bod yn edifar am yr hyn a ddywedom neu a wnaethom?

Fe rybuddia’r Ysgrythur ni i ddelio’n ofalus â’n dicter, yn enwedig os yw’n achosi inni bechu, ac fe’n hanogir i beidio â dal dig nac oedi’n hir ynddo.

‘Bwriwch ymaith oddi wrthych bob chwerwder, llid, digofaint, twrw, a sen, ynghyd â phob drwgdeimlad. Byddwch yn dirion wrth eich gilydd; yn dyner eich calon, yn maddau i’ch gilydd fel y maddeuodd Duw yng Nghrist i chwi.' (Effesiaid 4:31,32)

‘Paid â rhuthro i ddangos dig, oherwydd ym mynwes ffyliaid y mae dig yn aros.’ (Pregethwr 7:9)

Bydd amryw ohonom yn gallu uniaethu â’r gwirionedd uchod ac yn gallu cofio adeg pan fu i’n dicter achosi inni deimlo fel ffyliaid oherwydd ein hymateb.

Onid Duw sydd â’r hawl i fod yn ddig efo ni - wrth iddo edrych ar y drygioni sydd mor amlwg ar y ddaear a gweld sut mae pobl wedi ei wrthod a throi oddi wrtho? Ond, er gwaethaf ein natur bechadurus a’n tuedd i grwydro, mae’n dal ei ddicter yn ôl ac yn estyn trugaredd, cariad diamod a maddeuant.

‘Iachâf eu hanffyddlondeb; fe’u caraf o’m bodd, oherwydd trodd fy llid oddi wrthynt.’ (Hosea 14:4)

Wrth inni fyw ein bywydau, mae’n amlwg fod dicter yn rhywbeth sydd angen ei reoli’n ofalus. Dywed Iago y dylem fod yn araf i ddigio am nad yw ein dicter yn cyfrannu dim at y bywyd o gyfiawnder mae Duw yn ei geisio gennym. (Iago 1:19–25)

Efallai y bydd o gymorth inni, pan fyddwn yn teimlo’n ddig, ystyried aberth yr Arglwydd Iesu dros bob un ohonom ar Galfarî. Wrth iddo ef ddioddef ing creulon y groes a chymryd arno’i hun bechod y byd, fe fyddai’r llwyth trwm hwnnw wedi cynnwys canlyniadau ein dicter ninnau.

Gan fod arnom ni’r fath ddyled o gariad ac o ddiolchgarwch, a yw’n afresymol inni wneud fel y dywed y Beibl a chael gwared ar ein dicter? Wrth inni ymdrechu gyda hyn, bydded inni gymorth yr Ysbryd Glân sydd yn ein gwella a’n gwneud yn debycach i Iesu ei hun.

(Efallai y bydd y darlleniadau yma o gymorth hefyd: Salm 145:8–13 a Salm 78:38.)

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Huw Powell-Davies
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru

Rhannwch gyda ffrindiau

Bringing the Bible to life

Bible Society, Stonehill Green, Westlea, Swindon, SN5 7DG. Registered charity 232759