No themes applied yet
Undod corff y Meseia
1Felly, dyma fi yn garcharor am wasanaethuʼr Arglwydd. Dw iʼn pwyso arnoch chi i fyw fel y dylai pobl mae Duw wediʼu galw i berthyn iddo fyw. 2Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn bob amser; byddwch yn amyneddgar, a goddef beiau eich gilydd mewn cariad. 3Gwnewch eich gorau glas i ddangos bod yr Ysbryd Glân wediʼch gwneud chiʼn un, aʼi fod yn eich clymu chi gydaʼch gilydd mewn heddwch. 4Gan maiʼr un Ysbryd Glân sydd gynnon ni, dŷn niʼn un corff – a dych chi wediʼch galw gan Dduw i rannuʼr un gobaith. 5Does ond un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, 6a dim ond un Duw a Thad i bawb. Y Duw syʼn teyrnasu dros bopeth, ac syʼn gweithio drwy bob un ac ym mhob un!
7Ond maeʼr Meseia wedi rhannu ei roddion i bob un ohonon ni – a fe sydd wedi dewis beth iʼw roi i bawb. 8Dyna pam maeʼr ysgrifau sanctaidd yn dweud:
“Pan aeth i fyny iʼr uchelder
arweiniodd gaethion ar ei ôl
a rhannu rhoddion i bobl.”4:8 Salm 68:18
9(Beth mae “aeth i fyny” yn ei olygu oni bai ei fod hefyd wedi dod i lawr iʼr byd daearol? 10Aʼr un ddaeth i lawr ydyʼr union un aeth i fyny iʼr man uchaf yn y nefoedd, er mwyn iʼw lywodraeth lenwiʼr bydysawd cyfan.) 11A dymaʼi roddion: mae wedi penodi rhai i fod yn gynrychiolwyr personol iddo, eraill i fod yn broffwydi, eraill yn rhai syʼn rhannuʼr newyddion da, ac eraill yn fugeiliaid ac athrawon. 12Maen nhw i alluogi pobl Dduw i gyd iʼw wasanaethu mewn gwahanol ffyrdd, er mwyn gweld corff y Meseia, sef yr eglwys, yn tyfuʼn gryf. 13Y nod ydy ein bod niʼn ymddiried ym Mab Duw gydaʼn gilydd ac yn dod iʼw nabod yn well. Bryd hynny bydd yr eglwys fel oedolyn aeddfed yn adlewyrchu beth welwn ni yn y Meseia ei hun. 14Dim plantos bach fyddwn ni, yn cael ein taflu yn ôl ac ymlaen gan y tonnau, aʼn chwythu yma ac acw gan bob awel syʼn dod heibio. Fyddwn ni ddim yn newid ein meddyliau bob tro mae rhywun yn dweud rhywbeth newydd, neuʼn cael ein twyllo gan bobl slei syʼn gwneud i gelwydd swnio fel petaiʼn wir. 15Na, wrth gyhoeddi beth syʼn wir mewn cariad, byddwn niʼn tyfuʼn debycach bob dydd iʼr Pen, sef y Meseia. 16Y pen syʼn gwneud iʼr corff weithio a thyfu. Fel mae pob rhan oʼr corff wediʼi weu iʼw gilydd, aʼr gewynnauʼn dal y cwbl gydaʼi gilydd, maeʼr eglwys yn tyfu ac yn cryfhau mewn cariad wrth i bob rhan wneud ei gwaith.
Y bywyd newydd
17Felly gydaʼr awdurdod maeʼr Arglwydd ei hun wediʼi roi i mi, dw iʼn dweud wrthoch chi, ac yn mynnu hyn: peidiwch byw fel maeʼr paganiaid di-gred yn byw. Dŷn nhwʼn deall dim – 18maen nhw yn y tywyllwch! Maen nhw wediʼu gwahanu oddi wrth y bywyd sydd gan Dduw iʼw gynnig am eu bod nhwʼn gwrthod gwrando. Maen nhwʼn ystyfnig! 19Does dim byd yn codi cywilydd arnyn nhw. Dŷn nhwʼn gwneud dim byd ond bywʼn anfoesol a gadael iʼw chwantau mochaidd gael penrhyddid llwyr. Ac maen nhw eisiau mwy a mwy drwyʼr adeg.
20Dim felly dych chi wedi dysgu byw wrth edrych ar y Meseia – 21os mai fe ydyʼr un dych chi wediʼch dysgu iʼw ddilyn. Yn Iesu mae dod o hyd iʼr gwir. 22Felly rhaid i chi gael gwared âʼr hen ffordd o wneud pethau – y bywyd sydd wediʼi lygru gan chwantau twyllodrus. 23Rhaid i chi feithrin ffordd newydd o feddwl. 24Mae fel gwisgo natur o fath newydd – natur sydd wediʼi fodelu ar gymeriad Duw ei hun, yn gyfiawn a glân.
25Felly dim mwy o gelwydd! “Dwedwch y gwir wrth eich gilydd”,4:25 Sechareia 8:16 am ein bod niʼn perthyn iʼr un corff. 26“Peidiwch pechu pan dych chi wedi digio”4:26 Salm 4:4 (LXX) – gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn dal yn ddig ar ddiwedd y dydd. 27Peidiwch rhoi cyfle iʼr diafol aʼi driciau! 28Rhaid iʼr person oedd yn arfer bod yn lleidr stopio dwyn. Dylai weithio, ac ennill bywoliaeth, fel bod ganddo rywbeth iʼw rannu gyda phobl mewn angen.
29Peidiwch defnyddio iaith aflan. Dylech ddweud pethau syʼn helpu pobl eraill – pethau syʼn bendithioʼr rhai syʼn eich clywed chi. 30Peidiwch brifo teimladau Ysbryd Glân Duw. Yr Ysbryd ydyʼr sêl syʼn eich marcio chi fel rhai fydd yn cael rhyddid llwyr ar y diwrnod hwnnw pan fydd y Meseia Iesu yn dod yn ôl. 31Rhaid i chi beidio bod yn chwerw, peidio colli tymer a gwylltio, codi twrw, hel straeon cas, a bod yn faleisus. 32Eich lle chi ydy bod yn garedig, yn dyner gydaʼch gilydd, a maddau iʼch gilydd fel mae Duw wedi maddau i chi drwy beth wnaeth y Meseia.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015