No themes applied yet
Byw fel mae Duw eisiau
1Felly dilynwch esiampl Duw, gan eich bod yn blant annwyl iddo. 2Dylech fyw bywydau llawn cariad, yn union fel gwnaeth y Meseia ein caru ni a marw yn ein lle ni. Rhoddodd ei hun fel offrwm ac aberth oedd yn arogliʼn hyfryd i Dduw.
3Ddylai bod dim awgrym o anfoesoldeb rhywiol yn agos atoch chi, nac unrhyw fochyndra, na chwant hunanol chwaith! Dydy pethau felly ddim yn iawn i bobl sydd wedi cysegru eu bywydau i Dduw. 4Dim iaith anweddus, siarad dwl a jôcs budron chwaith – does dim lle i bethau felly. Yn lle hynny dylech chi ddiolch i Dduw. 5Dych chiʼn gallu bod yn hollol siŵr o hyn: dim Duw aʼi Feseia syʼn teyrnasu ym mywydauʼr bobl hynny syʼn bywʼn anfoesol, neuʼn aflan, neuʼn bod yn hunanol – addoli eilun-dduwiau ydy peth felly! 6Peidiwch gadael i neb eich twyllo gydaʼu geiriau gwag. Maeʼr bobl ymaʼn gwneud Duw yn ddig, a bydd yn dod i gosbi pawb syʼn anufudd iddo. 7Felly peidiwch ymuno gyda nhw.
8Ar un adeg roeddech chi yn y tywyllwch, ond bellach mae golauʼr Arglwydd yn disgleirio ynoch chi. Dylech fyw mewn ffordd syʼn dangos eich bod chi yn y golau. 9Pethau da a chyfiawn a gwir ydyʼr ffrwyth syʼn tyfu yn y golau. 10Gwnewch beth syʼn plesioʼr Arglwydd. 11Peidiwch cael dim iʼw wneud âʼr math o ymddygiad syʼn perthyn iʼr tywyllwch. Na, ewch ati i ddangos mor ddrwg ydyn nhw. 12Maeʼn warthus hyd yn oed sôn am y pethau mae pobl yn eu gwneud oʼr golwg. 13Ond pan maeʼr golauʼn disgleirio maeʼr cwbl yn dod iʼr golwg. 14Maeʼr golauʼn dangos pethau fel y maen nhw go iawn. Dyna pam maeʼn cael ei ddweud:
“Deffra, ti sydd yn cysgu
tyrd yn ôl yn fyw!
a bydd golauʼr Meseia yn disgleirio arnat ti.”5:14 Geiriau syʼn cyfuno Eseia 26:19; 51:17; 52:1; 60:1
15Felly, gwyliwch sut dych chiʼn ymddwyn. Peidiwch bod yn ddwl – byddwch yn ddoeth. 16Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i wneud daioni, achos mae digon o ddrygioni oʼn cwmpas ni ym mhobman. 17Peidiwch gwneud dim yn ddifeddwl; ceisiwch ddeall bob amser beth maeʼr Arglwydd eisiau.
18Peidiwch meddwi ar win – dyna sut mae difethaʼch bywyd. Yn lle hynny, gadewch iʼr Ysbryd Glân eich llenwi aʼch rheoli chi. 19Canwch salmau ac emynau a chaneuon ysbrydol iʼch gilydd – canwch fawl yn frwd iʼr Arglwydd. 20Diolchwch i Dduw y Tad am bopeth bob amser, o achos y cwbl maeʼr Arglwydd Iesu Grist wediʼi wneud.
21Dylech fod yn atebol iʼch gilydd fel arwydd oʼch parch at y Meseia ei hun. 22Chiʼr gwragedd iʼch gwŷr fel iʼr Arglwydd ei hun. 23Oʼr gŵr maeʼr wraig yn tarddu, fel maeʼr eglwys yn tarddu oʼr Meseia, roddodd ei fywyd iʼw hachub hi! 24Ond, fel maeʼr eglwys yn atebol iʼr Meseia, maeʼr gwragedd yn atebol iʼw gwŷr ym mhopeth.
25Chiʼr gwŷr, dylech garu eich gwragedd yn union fel maeʼr Meseia wedi caruʼr eglwys. Rhoddodd ei fywyd yn aberth drosti, 26iʼw chysegru hi aʼi gwneud yn lân. Mae dŵr y bedydd yn arwydd oʼr golchi syʼn digwydd drwyʼr neges syʼn cael ei chyhoeddi. 27Maeʼr Meseia am gymryd yr eglwys iddoʼi hun fel priodferch hardd – heb smotyn na chrychni na dim arall oʼi le arni – yn berffaith lân a di-fai. 28Dyna sut ddylai gwŷr garu eu gwragedd – fel eu cyrff eu hunain! Maeʼr gŵr syʼn caru ei wraig yn ei garu ei hun! 29Dydy pobl ddim yn casáu eu cyrff eu hunain – maen nhwʼn eu bwydo nhw a gofalu amdanyn nhw. A dyna sut maeʼr Meseia yn gofalu am yr eglwys, 30gan ein bod niʼn wahanol rannau oʼi gorff e. 31Maeʼr ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth fel hyn: “bydd dyn yn gadael ei dad aʼi fam ac yn cael ei uno âʼi wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.”5:31 Genesis 2:24 32Mae rhyw wirionedd mawr yn guddiedig yma – sôn ydw i am berthynas y Meseia aʼi eglwys. 33Beth bynnag, dyna ddylai pob un ohonoch chi ei wneud – caru ei wraig fel maeʼn ei garu ei hun, fel bod y wraig wedyn yn parchu ei gŵr.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015