No themes applied yet
Iesuʼn troi Dŵr yn Win
1Dau ddiwrnod wedyn roedd priodas yn Cana, pentref yn Galilea. Roedd mam Iesu yno 2ac roedd Iesu aʼi ddisgyblion wedi derbyn y gwahoddiad iʼr briodas hefyd. 3Pan oedd dim gwin ar ôl, dyma fam Iesuʼn dweud wrtho, “Does ganddyn nhw ddim mwy o win.”
4Atebodd Iesu, “Mam annwyl, gad lonydd i mi. Beth ydy hynny i ni? Dydy fy amser i ddim wedi dod eto.”
5Ond dwedodd ei fam wrth y gweision, “Gwnewch beth bynnag fydd yn ei ddweud wrthoch chi.”
6Roedd chwech ystên garreg wrth ymyl (y math syʼn cael eu defnyddio gan yr Iddewon i ddal dŵr ar gyfer y ddefod o ymolchi seremonïol). Roedd pob un ohonyn nhwʼn dal rhwng wyth deg a chant dau ddeg litr.
7Dwedodd Iesu wrth y gweision, “Llanwch yr ystenau yma â dŵr.” Felly dyma nhwʼn eu llenwi iʼr top.
8Yna dwedodd wrthyn nhw, “Cymerwch beth ohono a mynd ag e i lywydd y wledd.” Dyma nhwʼn gwneud hynny, 9a dyma llywydd y wledd yn blasuʼr dŵr oedd wediʼi droiʼn win. (Doedd ganddo fe ddim syniad o ble roedd wedi dod, ond roedd y gweision oedd wedi codiʼr dŵr yn gwybod.) Yna galwodd y priodfab ato 10a dweud wrtho, “Mae pobl fel arfer yn dod âʼr gwin gorau allan gyntaf aʼr gwin rhad yn nes ymlaen, ar ôl iʼr gwesteion gael gormod iʼw yfed. Pam wyt ti wedi cadwʼr gorau iʼr diwedd?”
11Y wyrth2:11 Y wyrth: Groeg, “arwydd”. Ffordd Ioan o ddweud fod y gwyrthiau yn pwyntio at y ffaith mai Mab Duw oedd Iesu o Nasareth. hon yn Cana Galilea oedd y gyntaf wnaeth Iesu, fel arwydd o pwy oedd e. Roedd yn dangos ei ysblander, a dymaʼi ddisgyblion yn credu ynddo.
12Ar ôl y briodas aeth Iesu i lawr i Capernaum2:12 gw. Mathew 4:13 gydaʼi fam aʼi frodyr aʼi ddisgyblion, ac aros yno am ychydig ddyddiau.
Iesuʼn clirioʼr Deml
(Mathew 21:12-13; Marc 11:15-17; Luc 19:45-46)
13Roedd yn amser Gŵyl y Pasg2:13 gw. Exodus 12:1-27 (un o wyliauʼr Iddewon), a dyma Iesuʼn mynd i Jerwsalem. 14Yng nghwrt y deml gwelodd bobl yn gwerthu ychen, defaid a cholomennod, ac eraill yn eistedd wrth fyrddau yn cyfnewid arian. 15Felly gwnaeth chwip o reffynnau, aʼu gyrru nhw i gyd allan oʼr deml gydaʼr defaid aʼr ychen. Chwalodd holl arian y rhai oedd yn cyfnewid arian, a throi eu byrddau drosodd. 16Yna meddai wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, “Ewch âʼr rhain allan o ma! Stopiwch droi tŷ fy Nhad i yn farchnad!”
17Yna cofiodd ei ddisgyblion fod yr ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydd fy sêl dros dy dŷ di yn fy meddiannu i.”2:17 Salm 69:9
18Ond dymaʼr arweinwyr Iddewig yn ei herio, “Pa arwydd gwyrthiol wnei di i brofi i ni fod gen ti hawl i wneud hyn i gyd?”
19Atebodd Iesu nhw, “Dinistriwch y deml hon, a gwna i ei hadeiladu hi eto o fewn tri diwrnod.”
20Atebodd yr arweinwyr Iddewig, “Maeʼr deml wedi bod yn cael ei hadeiladu ers pedwar deg chwech mlynedd! Wyt tiʼn mynd iʼw hadeiladu mewn tri diwrnod?” 21(Ond y deml oedd Iesuʼn sôn amdani oedd ei gorff. 22Ar ôl i Iesu ddod yn ôl yn fyw, cofiodd ei ddisgyblion ei fod wedi dweud hyn, a dyma nhwʼn creduʼr ysgrifau sanctaidd a beth ddwedodd Iesu.)
Iesuʼn nabod y natur ddynol
23Tra oedd Iesu yn Jerwsalem yn dathlu Gŵyl y Pasg, daeth llawer o bobl i gredu ynddo am eu bod nhw wediʼi weld eʼn gwneud arwyddion gwyrthiol. 24Ond doedd Iesu ddim yn eu trystio nhw – roedd eʼn deall pobl iʼr dim. 25Doedd dim angen i neb esbonio iddo, am ei fod eʼn gwybod yn iawn sut maeʼr meddwl dynol yn gweithio.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015