Mae’r ‘blog’ yma yn rhan o’r her Byw y Beibl.
Mae ‘Byw y Beibl’ yn golygu amrywiaeth lydan o bethau: pethau sydd yn addas ac yn bwysig i bawb; pethau eraill sydd yn benodol i chi, neu’ch teulu, neu’ch eglwys. Pob wythnos, mi fydd rhywun yn rhannu ei safbwynt ar ‘be’ mae’r Beibl yn ei ddweud’ am bwnc sydd yn berthnasol at ein bywyd o ddydd i ddydd.
“Roedd Duw eisiau siarad gyda phobl, ond roedd yn gwybod bod llawer yn cael trafferth deall pwy oedd o. Felly, ni wnaeth o eistedd yn ôl a chwyno am y peth, ond daeth i’r byd i ddatgelu ei hun i ni."
Mae yna lawer iawn o bobl yn ein cymdeithas sy’n teimlo’n unig y dyddiau yma – teimlo rywsut eu bod wedi eu gwahanu oddi wrth bobl eraill.
Cyfnod o ymprydio cyn y Nadolig oedd tymor yr Adfent yn wreiddiol. Roedd yn dechrau ar Sul y Dyfodiad, sef y pedwerydd Sul cyn y Nadolig. Yn ôl pob tebyg arferiad ddaeth o’r Almaen ganol yr ugeinfed ganrif yw Calendr yr Adfent.
Mae’r Beibl yn dweud llawer am sut rydyn ni’n cofio ond hefyd mae ‘na lawer am beth rydyn ni yn ei gofio.
Mae ‘na gymaint yn y Beibl am gofio fod angen o leiaf dwy erthygl i ni ei ystyried yn drylwyr. Yr wythnos hon mi fyddwn ni’n ystyried sut rydyn ni’n cofio. Wythnos nesaf bydd y canolbwynt ar beth rydyn ni - a Duw - yn ei gofio.
‘Byddwch ddig, ond peidiwch â phechu; peidiwch â gadael i'r haul fachlud ar eich digofaint, a pheidiwch â rhoi cyfle i'r diafol.’ (Effesiaid 4:26–7)
Mae’r hen gwpled yn dweud mai ‘Duw biau edau bywyd, a’r hawl i fesur ei hyd’. Rydyn ni i gyd yn cydnabod ein bod ni’n feidrol, ond ychydig iawn iawn o bobl fyddai’n dweud eu bod yn edrych ymlaen at farw.
Mae Cymdeithas y Beibl yn cyhoeddi yn Saesneg “Feibl Tlodi a Chyfiawnder” sy’n goleuo pob cyfeiriad at gyfiawnder yn y Beibl. Mae yna filoedd ohonynt! Mae’n thema sy’n britho’r Beibl o’r brig i’r bôn.
Er nad yw’r gair “Llywodraeth” yn ei ystyr gyfoes yn ymddangos ryw lawer yn y Beibl, mae hanes nifer o lywodraethau i’w gweld yn glir.
O’r diwedd mae'n gymdeithas ni wedi deffro i’w cyfrifoldeb tuag at y rhai sy'n fregus ac wedi dysgu o wersi ofnadwy'r gorffennol.