Skip to main content

Gweddïo 2

Author: Bible Society, 3 November 2017

Yn y Testament Newydd, rydyn ni’n gweld Iesu ei hun yn gweddïo.

…cododd Iesu'n gynnar iawn. Roedd hi'n dal yn dywyll pan adawodd y tŷ, ac aeth i le unig i weddïo. Marc 1:35

Roedd o’n gweddïo cyn iddo fo gerdded ar y dŵr (Mat 14:23); cyn iddo fo ddewis yr Apostolion, treuliodd noson wrth weddïo (Luc 6:12). Cyn y gweddnewidiad aeth Iesu i weddïo i ben mynydd a mynd â Pedr, Iago ac Ioan gydag e. Ar Fynydd yr Olewydd gofynnodd i’r disgyblion weddïo pan wnaeth o hefyd weddïo am help:

Yna aeth yn ei flaen dafliad carreg, a mynd ar ei liniau a dechrau gweddïo, “Dad, os wyt ti'n fodlon, cymer y cwpan chwerw yma oddi arna i. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.” Yna gwelodd angel o'r nefoedd, ac roedd yr angel yn ei annog ac yn cryfhau ei benderfyniad. Gweddïodd yn fwy taer, ond gan ei fod mewn cymaint o boen meddwl, roedd ei chwys yn disgyn ar lawr fel dafnau o waed. Luc 22:41-44

Fe wnaeth Iesu ddysgu am weddïo:

Carwch eich gelynion a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid chi! Mat 5:44

A pheidiwch weddïo fel y rhai sy'n gwneud sioe o'u crefydd. Mat 6:5

Pan fyddi di'n gweddïo, dos i ystafell o'r golwg, cau y drws, a gweddïo ar dy Dad sydd yno gyda ti er dy fod ddim yn ei weld. Mat 6:6

Dwedodd Iesu stori wrth ei ddisgyblion i ddangos y dylen nhw ddal ati i weddïo, a pheidio byth ag anobeithio. Luc 18:1

Ac wrth gwrs, yr enghraifft enwocaf, gweddi’r Arglwydd (Mat 6:9-13).

Yn yr Actau rydyn ni’n gweld y credinwyr yn gweddïo (Actau 1:14, 6:4). Roedden nhw’n cyfarfod ar awr weddi (Actau 3:1) ac yn chwilio am bobl mewn llefydd gweddi pan oedden nhw’n teithio (Actau 16:13). Fe wnaeth Paul ym mhob un o’i lythyrau atgoffa’r eglwysi am ei weddïau amdanyn nhw.  Fe wnaeth o eu calonogi i weddïo hefyd. 

Ymrowch i weddi ac ymbil, gan weddïo bob amser yn yr Ysbryd. Effesiaid 6:18

Sut fyddwch chi’n ‘ymroi i weddi’ yr wythnos yma? A fydd geiriau Iesu neu Paul yn eich helpu chi?

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Christine Daniel
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible