Skip to main content

sancteiddrwydd

Author: Bible Society, 28 November 2017

Yn 1 Pedr 1:13-16 mae Pedr yn dyfynnu o lyfr Lefiticus, ac yn dweud fe yma:

Byddwch yn ufudd i Dduw am eich bod yn blant iddo. Stopiwch ddilyn y chwantau oedd i'w gweld ynoch chi cyn i chi ddod i wybod y gwir. Na, rhaid i chi fod yn wahanol. Rhaid i'ch ymddygiad chi fod yn berffaith lân, yn union fel mae Duw sydd wedi'ch galw chi ato'i hun yn berffaith lân.Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud: “Rhaid i chi fod yn sanctaidd am fy mod i yn sanctaidd.”

Y peth cyntaf i sylwi arno ydy fod y Beibl yn dysgu fod Duw yn sanctaidd.  Edrychwch ar 1 Samuel 2:2 ac Eseia 6:3 – ac mae yna lu o enghreifftiau eraill yn dweud wrthon ni fod Duw yn ddaioni perffaith, absoliwt. “Mae dy lygaid yn rhy lân i edrych ar ddrygioni” meddai Habacuc wrth gwyno am y drygioni a’r trais roedd o’n ei weld yn y byd o’i gwmpas.  Mae’r ffaith fod Duw yn sanctaidd wedi ei ddisgrifio yn aml fel ‘arwahanrwydd Duw’ – does neb tebyg iddo.  Er hynny, rhyfeddod yr efengyl ydy fod y Duw sanctaidd yma wedi estyn ei law i achub pobl sydd ymhell iawn o fod yn sanctaidd.  Wnaeth o ddim dewis aros ‘ar wahân’

“Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed; daeth i fyw yn ein plith ni ... fel mab unigryw wedi dod oddi wrth y Tad yn llawn haelioni a gwirionedd.” Ioan 1:14

“Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed” – Iesu Grist ydy’r allwedd i ddangos i ni sut y gallwn ninnau fod yn sanctaidd.  Pan ddwedodd Duw wrth bobl Israel y dylen nhw fod yn sanctaidd (gw. Lefiticus 11:44 ac 19:2), roedd yn eu galw i fod yn wahanol i’r bobloedd o’u cwmpas nhw.  Mae Pedr yn galw ar ddilynwyr Iesu Grist i fod yn wahanol – i fyw bywydau glân, bywydau o gariad hunan-aberthol, i fod yn drugarog, i faddau ... i fod fel Iesu ei hun. 

Ond pa obaith sydd gynnon ni i fyw felly?  Gan mai Duw ydy’r unig un sanctaidd yn yr ystyr absoliwt, rhaid i’n sancteiddrwydd ni darddu o berthynas iawn gyda Duw.  Dydy’r berthynas yna ddim ond yn bosib drwy aberth Iesu Grist.  Allwn ni ddim bod yn sanctaidd yn ein nerth ein hunain.  Rhaid i ni adael i’r Duw sanctaidd ddelio hefo ni, ac mae’n gwneud hynny drwy roi ei Ysbryd Glân (neu Ysbryd Sanctaidd) i’r rhai sydd wedi credu yn ei Fab.  Fel mae Paul yn dweud wrth Gristnogion Corinth:

“Dych chi wedi cael eich glanhau a’ch gwneud yn bur.  Mae gynnoch berthynas iawn gyda Duw o achos y cwbl mae’r Arglwydd Iesu Grist a’r Ysbryd Glân wedi’i wneud drosoch chi.” 1 Corinthiaid 6:11

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Arfon Jones
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible