Skip to main content

Be mae’r Beibl yn ei ddweud am…

Mae’r ‘blog’ yma yn rhan o’r her Byw y Beibl.

Mae ‘Byw y Beibl’ yn golygu amrywiaeth lydan o bethau: pethau sydd yn addas ac yn bwysig i bawb; pethau eraill sydd yn benodol i chi, neu’ch teulu, neu’ch eglwys. Pob wythnos, mi fydd rhywun yn rhannu ei safbwynt ar ‘be’ mae’r Beibl yn ei ddweud’ am bwnc sydd yn berthnasol at ein bywyd o ddydd i ddydd.

Dicter

‘Byddwch ddig, ond peidiwch â phechu; peidiwch â gadael i'r haul fachlud ar eich digofaint, a pheidiwch â rhoi cyfle i'r diafol.’ (Effesiaid 4:26–7)

Marwolaeth

Mae’r hen gwpled yn dweud mai ‘Duw biau edau bywyd, a’r hawl i fesur ei hyd’. Rydyn ni i gyd yn cydnabod ein bod ni’n feidrol, ond ychydig iawn iawn o bobl fyddai’n dweud eu bod yn edrych ymlaen at farw.

Cyfiawnder

Mae Cymdeithas y Beibl yn cyhoeddi yn Saesneg “Feibl Tlodi a Chyfiawnder” sy’n goleuo pob cyfeiriad at gyfiawnder yn y Beibl. Mae yna filoedd ohonynt! Mae’n thema sy’n britho’r Beibl o’r brig i’r bôn.

Llywodraeth

Er nad yw’r gair “Llywodraeth” yn ei ystyr gyfoes yn ymddangos ryw lawer yn y Beibl, mae hanes nifer o lywodraethau i’w gweld yn glir.

Y rhai bregus

O’r diwedd mae'n gymdeithas ni wedi deffro i’w cyfrifoldeb tuag at y rhai sy'n fregus ac wedi dysgu o wersi ofnadwy'r gorffennol.

Edifeirwch

Dydy’r gair ‘edifeirwch’ ddim yn air mae pobl yn ei ddefnyddio yn aml heddiw.

Defnyddio arian

Roedd proffwydi’r Hen Testament yn rhybuddio yn erbyn dibynnu ar arian ac aur heb ofalu am bobl mewn angen, neu gofio addoli Duw (Eseia 2; Amos 8). Does ‘na ddim rheol syml o ran sut i ddefnyddio ein harian.

Maddeuant

Weithiau fe glywch chi bobl yn dweud rhywbeth fel, “Dw i’n fodlon maddau, ond wna i byth anghofio.” Mae pobl yn aml yn gyndyn iawn i faddau y pethau lleia, ac yn lle hynny yn dewis pwdu a chwerwi.

Cenedligrwydd

Mae’r Beibl yn dysgu fod amrywiaeth cenhedloedd yn rhan o fwriad Duw ar gyfer ei fyd. Yn Deuteronomium 32:8 darllenwn: “Pan roddodd y Goruchaf dir i’r cenhedloedd, a rhannu’r ddynoliaeth yn grwpiau, gosododd ffiniau...
Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible