Skip to main content

Cenedligrwydd

Author: Bible Society, 1 August 2017

Mae’r Beibl yn dysgu fod amrywiaeth cenhedloedd yn rhan o fwriad Duw ar gyfer ei fyd. Yn Deuteronomium 32.8 darllenwn: “Pan roddodd y Goruchaf dir i’r cenhedloedd, a rhannu’r ddynoliaeth yn grwpiau, gosododd ffiniau i’r gwahanol bobloedd.” 

Mae’r syniad o genhedloedd gwahanol yn mynd yn ôl i Genesis 10. Yno rydyn ni’n darllen am ddisgynyddion meibion Noa – Shem, Cham a Jaffeth – yn sail i’r amrywiol genhedloedd. Ond yna yn Genesis 11 darllenwn am bobl yn gwrthryfela yn erbyn bwriad Duw i gael cenhedloedd amrywiol ar hyd a lled y byd – hanes tŵr Babel.

Yna gwelwn Dduw yn dewis un genedl benodol, Israel, i fod yn gyfrwng datguddiad a bendith i "bobloedd y byd i gyd" (Genesis 12.1-3). Yna cawn neges y proffwydi yn cyfarch a herio cenhedloedd gwahanol, a darllenwn mai dyhead Duw ydy gweld yr holl genhedloedd yn troi ato. A dyna, wrth gwrs, oedd comisiwn Iesu Grist i’w ddisgyblion: “Ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi” (Mathew 28.19). Wedyn yn Llyfr y Datguddiad cawn y weledigaeth o’r Jerwsalem newydd, lle bydd “holl ysblander a chyfoeth y cenhedloedd yn cael eu dwyn i mewn iddi” (Datguddiad 21.26). Roedd y dyrfa enfawr welodd Ioan yn sefyll o flaen yr orsedd a’r Oen yn y nefoedd “yn dod o bob cenedl, llwyth, hil ac iaith” (Datguddiad 7.9).  Ydy, mae cenedligrwydd yn nodwedd sy’n perthyn i’r byd a ddaw yn ogystal â’r byd presennol.

Felly mae cenedligrwydd yn beth da a llesol i’r ddynoliaeth. Ond gwelwyd yn aml ochr negyddol i genedligrwydd a chenedlaetholdeb. Er bod cenhedloedd yn rhan o fwriad Duw ar gyfer ei gread, mae’r cenhedloedd a’u pobl wedi syrthio a gwrthryfela yn ei erbyn, ac maen nhw angen eu rhyddhau o gaethiwed pechod. Dydy dathlu pwy ydw i ac i ba genedl dw i’n perthyn ar dapestri diwylliannol y ddynoliaeth ddim yn beth drwg, ond gall droi yn falchder hunan-dybus a hyd yn oed yn eilun.  Mae hanes yn dangos i ni lawer o genhedloedd sydd wedi dyrchafu eu hunain ar draul eraill a meithrin cenedlaetholdeb hunan-ganolog, afiach sy’n gormesu pobloedd eraill ac yn ystyried eu hunain yn rhagori ar eraill; a hynny yn ei dro yn arwain i  goncwest, rhyfel a gwrthdaro treisgar. Mae’r Beibl yn gyson yn condemnio agweddau cenhedloedd gormesol fel yr Aifft, Asyria, Babilon, Edom ac eraill. 

Trwy ei orchmynion i’w bobl Israel, mae Duw yn dangos y dylai cenhedloedd groesawu mewnfudwyr a’u derbyn nhw:

“Paid cam-drin mewnfudwyr sy’n byw yn eich plith chi. Dylet ti eu trin nhw a dy bobl dy hun yr un fath. Dylet ti eu caru nhw am mai pobl ydyn nhw fel ti.” (Lefiticus 19.33-34). 

“Mae [Duw’n] ... caru’r mewnfudwyr, ac yn rhoi bwyd a dillad iddyn nhw. Felly dylech chithau hefyd ddangos cariad at fewnfudwyr, achos pobl o’r tu allan oeddech chi yng ngwlad yr Aifft.” (Deuterenomium 10.18-19).

Mae pobl o’r ‘tu allan’ yn gallu dewis perthyn i’n cenedl ni, ac wrth wneud hynny yn dod ag elfennau o’u hunaniaeth frodorol eu hunain gyda nhw i gyfoethogi natur ein cymdeithas. Fel y dywedodd Ruth wrth Naomi, ei mam-yng-nghyfraith:

“Bydd dy bobl di yn bobl i mi, a dy Dduw di yn Dduw i mi.” (Ruth 1.16).

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma 


Arfon Jones
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible