Skip to main content

Cyfiawnder

Author: Bible Society, 13 September 2017

Mae Cymdeithas y Beibl yn cyhoeddi yn Saesneg “Feibl Tlodi a Chyfiawnder” sy’n goleuo pob cyfeiriad at gyfiawnder yn y Beibl. Mae yna filoedd ohonynt! Mae’n thema sy’n britho’r Beibl o’r brig i’r bôn.

Canolbwynt corfforol y Beibl Cristnogol, a chanolbwynt ysbrydol y sôn am gyfiawnder, yw proffwydi’r Hen Destament. Eu barn nhw yw mai cyfiawnder yw dyhead dyfnaf Duw:

Beth dw i eisiau ydy gweld cyfiawnder fel dŵr yn gorlifo
a thegwch fel ffrwd nant sydd byth yn sychu. (Amos 5.24)

Mae’r Arglwydd wedi dweud beth sy’n dda,
a beth mae e eisiau gen ti:

Hybu cyfiawnder, bod yn hael bob amser,
a byw’n wylaidd ac ufudd i dy Dduw. (Micha 6.8, Beibl.net)

Dyma her y proffwydi i ni. A dyna oedd her Iesu hefyd, yn ôl Luc 4, yn ei bregeth gyntaf yn y synagog yn Nasareth. Yng ngeiriau Llyfr Eseia, ac yna yn ei eiriau herfeiddiol ei hun, fe ddywedodd fod Duw yn dangos ei ffafr at bobl o bob hil a chenedl, a bod cyfiawnder rhwng pobl o wahanol fathau yn greiddiol i ddeall dymuniad Duw.

Nid oedd ei gynulleidfa yn hoffi’r neges hon, mwy nag y mae cynulleidfaoedd eraill wedi ei hoffi ar hyd y blynyddoedd. Ond yr ymgais am gyfiawnder sydd wrth fodd calon Duw. Yn y Bregeth ar y Mynydd, meddai Iesu: 

Mae’r rhai sy’n llwgu a sychedu am gyfiawnder wedi’u bendithio’n fawr, 
oherwydd byddan nhw’n cael eu bodloni’n llwyr. 

Mae’r rhai sy’n dioddef erledigaeth am eu bod nhw’n byw’n gyfiawn wedi’u bendithio’n fawr,
oherwydd mae’r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau. (Mathew 5.6,10)

Wrth geisio cyfiawnder, y canfyddwn bresenoldeb Duw – tystiolaeth y proffwydi a Iesu ei hun.

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Gethin Rhys, Cytûn
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible