Skip to main content

Be mae’r Beibl yn ei ddweud am…

Mae’r ‘blog’ yma yn rhan o’r her Byw y Beibl.

Mae ‘Byw y Beibl’ yn golygu amrywiaeth lydan o bethau: pethau sydd yn addas ac yn bwysig i bawb; pethau eraill sydd yn benodol i chi, neu’ch teulu, neu’ch eglwys. Pob wythnos, mi fydd rhywun yn rhannu ei safbwynt ar ‘be’ mae’r Beibl yn ei ddweud’ am bwnc sydd yn berthnasol at ein bywyd o ddydd i ddydd.

Iaith

Mae’r Beibl yn dysgu fod ieithoedd gwahanol yn rhan o fwriad Duw ar gyfer ei fyd. Creodd Duw fyd hardd, lliwgar o amrywiaeth rhyfeddol. A creodd bobl yn ddelw ohono’i hun.

Arian

Mae’r Beibl yn cydnabod bod arian yn beth arwyddocaol yn ein bywydau. Roedd aur, arian a phres mor bwysig yn amser Abraham ag yr oedd yn amser Paul a’r apostolion. Mae’n dal i fod yn bwysig i ni heddiw.

Gwaith

Does ond rhaid cyrraedd ail bennod y Beibl cyn i ni glywed am y Duw sydd yn gweithio (ac yn gorffwys).

Ffrwythau’r Ysbryd Glân: adolygiad

Rydym ni wedi bod yn ystyried ffrwythau’r Ysbryd Glân fel mae Paul yn eu rhestru nhw yn ei lythyr at y Galatiaid. Cyn i ni symud ymlaen, cofiwn y ffrwythau i gyd.

Hunanreolaeth

Hunanreolaeth ydi ffrwyth olaf yn rhestr Paul yn ei lythyr at y Galatiaid. Tipyn o baradocs ydi hi: hunanreolaeth - ffrwyth yr Ysbryd Glân.

Poeni

Mae poeni yn rhywbeth rydym bron yn cymryd yn ganiataol fel rhan naturiol o'n bywydau bob dydd. Oes rhaid iddo fod fel hyn? Ai hyn yw beth mae Duw yn bwriadu ar ein cyfer ni? Ydy'r Beibl yn dweud unrhyw beth i herio ein derbyniad...

Ffrindiau

Gellid dweud yn rhwydd bod y Beibl cyfan yn sôn am berthynas, ac mae cyfeillgarwch a ffrindiau yn haen gyfoethog drwy ei gwead. Boed yn hanesion arwyr ein ffydd neu’r genedl, neu yn gyngor doeth fel yr adnod uchod, gwelwn...

Plant ac ieuenctid

Mae pobl ifanc yn pallu ac yn blino, a'r rhai mwya ffit yn baglu ac yn syrthio; ond bydd y rhai sy'n pwyso ar yr ARGLWYDD yn cael nerth newydd. Byddan nhw'n hedfan i fyny fel eryrod, yn rhedeg heb flino a cherdded ymlaen...

Yr Eglwys

Daw’r sôn am yr Eglwys i’r amlwg yn y Testament Newydd gyda Iesu’n datgan: “Adeiladaf fy Eglwys” (Mathew 16:18). Gyda’r geiriau hyn nid oes amheuaeth mai ef yw ‘Pen yr Eglwys’ i ddefnyddio ymadrodd Paul (Effesiaid...
Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible