Skip to main content

Yr Eglwys

Author: Bible Society, 7 June 2017

Daw’r sôn am yr Eglwys i’r amlwg yn y Testament Newydd gyda Iesu’n datgan: “Adeiladaf fy Eglwys” (Mathew 16.18). Gyda’r geiriau hyn nid oes amheuaeth mai ef yw ‘Pen yr Eglwys’ i ddefnyddio ymadrodd Paul (Effesiaid 5.23). Eto defnyddio geiriau sy’n cyfeirio yn ôl i’r hen gyfamod mae awduron y TN wrth ddisgrifio’r Eglwys. Daw ein gair ‘eglwys’ ni o’r Groeg ‘ecclesia’ sef cynulleidfa neu cymanfa ac fe’i defnyddid yn cyfieithiad Groeg yr Hen Destament sef yr LXX (Septuagint) i ddynodi holl bobl Dduw yn dod at ei gilydd, megis Exodus 12.16. Ystyr tebyg sydd i ‘synagog’ sef cynulliad.

Mae’r gair ‘ecclesia’ yn gymorth i ddeall natur yr eglwys oherwydd gair cyfansawdd yw sy’n golygu ‘galw allan,’ oherwydd dyma ydym, cynulliad o bobl sydd wedi ei galw gan Iesu i fod yn ddisgyblion iddo. Pan aeth Paul o amgylch Asia Leiaf yn cyhoeddi’r Efengyl fe welwn ef wedyn yn cynnull y disgyblion newydd yn eglwysi.

Mae Effesiaid yn dweud llawer wrthym am natur yr Eglwys, mai hi yw asiant Duw i ddwyn ei fwriadau i’w cyflawnder, a’n rhan ni yw trwy ffydd cael ein gwaredu a’n cyd-adeiladu a thyfu ynddo ef. Mae’r Epistolau Bugeiliol at Timotheus a Titus, yn dweud llawer, ond nid y cyfan, am ffurf, arfer ac arweinyddiaeth yr Eglwys, gadawodd digon o fylchau i ni ddadlau hyd heddiw. 

Cofiwn yn ein dyddiau dilewyrch mai addewid Iesu oedd “ni chaiff holl bwerau uffern y trechaf arni” (Mathew 16.18).
•    Darllenwch Effesiaid penodau 1-4 ac ystyriwch a ydych chi’n rhan adeiladol o’ch eglwys leol? 
•    Beth mae Datguddiad 2-3 ac 19-22 yn dweud wrthym am sut mae Duw yn gweld yr Eglwys?

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Hywel Rhys
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible