Skip to main content

Plant ac ieuenctid

Author: Bible Society, 14 June 2017

Mae pobl ifanc yn pallu ac yn blino, a'r rhai mwya ffit yn baglu ac yn syrthio; ond bydd y rhai sy'n pwyso ar yr ARGLWYDD yn cael nerth newydd. Byddan nhw'n hedfan i fyny fel eryrod, yn rhedeg heb flino a cherdded ymlaen heb stopio. Eseia 40.30-31 (Beibl.net)

Rhoddodd Iesu’r plentyn yn y canol er mwyn dangos arwydd o fawredd:

A chymerodd blentyn, a’i osod yn eu canol hwy; cymerodd ef i’w freichiau, a dywedodd wrthynt, “Pwy bynnag sy’n derbyn un plentyn fel hwn yn fy enw i, y mae’n fy nerbyn i, a phwy bynnag sy’n fy nerbyn i, nid myfi y mae’n ei dderbyn, ond yr hwn a’m hanfonodd i.” Marc 9.36-37

Roedd Iesu’n barod i dderbyn plant, eu bendithio a gweddïo drostyn nhw:

Yna daethpwyd â phlant  ato, iddo roi ei ddwylo arnynt a gweddïo. Ceryddodd y disgyblion hwy. Mathew 19.13

Yng ngwaith Duw dydi bod yn ifanc ddim yn faen tramgwydd:

Paid â gadael i neb dy ddiystyru am dy fod yn ifanc. Yn hytrach, bydd di’n batrwm i’r credinwyr mewn gair a gweithred, mewn cariad a ffydd a phurdeb. 1 Timotheus 4.12

Gwrandawodd Samuel y bachgen ifanc, ar lais Duw a gweithredodd:

Yn y dyddiau pan oedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu’r ARGLWYDD gerbron Eli. yr oedd gair yr ARGLWYDD yn brin, a gweledigaeth yn anfynych. 1 Samuel 3.1

Mor bwysig ydi magu’r plentyn yn sŵn yr efengyl:

Cofia dy Grëwr tra rwyt yn ifanc, cyn i'r dyddiau anodd gyrraedd Pregethwr 12.1 (Beibl.net)

Gweddi: Ein dyhead, O Dad, yw gweld ein plant yn troi atat ti a dod yn gyfryngau dy fendith.
Galluoga ni, Arglwydd, i fedru dweud yr hen, hen hanes am Grist a’i gariad yn y fath fodd nes gweld:
plant a phobl ifanc Cymru yn troi atat o’r newydd;
plant a phobl ifanc Cymru yn dod i gredu a gweld mai ti yw’r unig arweinydd diogel i’w harwain heddiw;
plant a phobl ifanc Cymru yn dod yn gyfryngau i fedru dylanwadu ar ieuenctid gwledydd eraill.
Amen.

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Aled Davies
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru

 


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible