Skip to main content

Ffrindiau

Author: Bible Society, 15 June 2017

“Honni eu bod yn gyfeillion a wna rhai; ond ceir hefyd gyfaill sy'n glynu'n well na brawd.” Diarhebion 18:24

Gellid dweud yn rhwydd bod y Beibl cyfan yn sôn am berthynas, ac mae cyfeillgarwch a ffrindiau yn haen gyfoethog drwy ei gwead. Boed yn hanesion arwyr ein ffydd neu’r genedl, neu yn gyngor doeth fel yr adnod uchod, gwelwn bwysigrwydd perthynas clòs a dibynadwy i Dduw.

Daw dwy enghraifft i’m meddwl o’r Hen Destament, sef, yn gyntaf, hanes Jonathan, mab y brenin Saul, a Dafydd. Darllenwch yr hanes i weld sut y bu i Jonathan roi heibio ei hawl i deyrnasu er mwyn ei gyfaill a bwriadau Duw. Dyma beth yw cariad aberthol.

Yna yn llyfr Daniel gwelwn y cyfeillion ifanc yn cynnal ei gilydd yn wyneb treialon enbyd, gan ddal eu cyffes yn driw i’r eithaf. Nid dim ond stori i blant ond gwers i ni heddiw wrth i’r byd o’n cwmpas roi yn gynyddol wrthwynebus i’r Efengyl.

Yn y Testament Newydd cawn sawl cyfeillgarwch, rwy’n meddwl am Paul a’i gydweithwyr di-ri, ac am y merched a ddaeth at y bedd bore’r Pasg. Ond un hanes sy’n sefyll allan i mi yw Philip a Nathanael yn Ioan 1:43-51, a’r gymwynas fwyaf posib a wnaed sef cyflwyno ei gyfaill i’r Arglwydd Iesu. Beth ddywedodd, ond yn syml “Tyrd i weld”. O edrych yn ôl ychydig adnodau (Ioan 1:35-42) fe welwn fod Philip yn dilyn patrwm yr Iesu, ei gyfaill newydd, a ddwedodd wrth Andreas, “Tyrd i weld” (Efallai mai Ioan ei hun oedd y ffrind arall yn adnod 40)

•    Pa ddoethineb am ffrindiau y galli ei ganfod yn y Diarhebion?
•    A wyt ti wedi gwahodd ffrind at Iesu?

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Hywel Rhys
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible