Skip to main content

Llywodraeth

Author: Bible Society, 6 September 2017

Er nad yw’r gair “Llywodraeth” yn ei ystyr gyfoes yn ymddangos ryw lawer yn y Beibl, mae hanes nifer o lywodraethau i’w gweld yn glir.

Roedd Moses ac Aaron yn llywodraethu ar Israel gyntaf, wedyn gyda chymorth 70 o henuriaid (Exodus 24.1 a Numeri 11.16-30). Ar ôl cyrraedd Gwlad yr Addewid fe benododd Duw farnwyr ar eu cyfer (Deborah, Barac, Gideon ac eraill - llyfr cyfan amdanyn nhw!).

Llywodraeth wahanol i’r arfer oedd hon, ac fe ddaeth Israel i gredu y byddent yn well o gael eu llywodraethu fel pob gwlad arall ar y pryd – gan frenin (1 Samuel 8). Cawsant eu rhybuddio mai profiad Duw oedd mai cam-lywodraethu a wna brenhinoedd yn amlach na pheidio, ond yn y diwedd dyma Duw yn ildio ac yn penodi Saul yn frenin (1 Samuel 10). Pan ddaeth ei holl rybuddion yn wir yn achos Saul, dyma eneinio Dafydd yn ei le (1 Samuel 16) ac esgor ar ryfel cartref.

Sefydlwyd y frenhiniaeth, a chymysg oedd y profiad ar y gorau. Mae nifer o’r proffwydi yn taranu yn erbyn y brenhinoedd a’r offeiriadon am eu cam-lywodraethu a’u hanghyfiawnder. Yn y diwedd, mae cwymp teyrnasoedd Israel a Jwda yn terfynu’r frenhiniaeth hefyd.

Erbyn y Testament Newydd, llywodraeth ormesol Ymerodraeth Rufain sydd i’w gweld. Gwyddom am gamweddau Herod a Pilat, ac mae llawer yn credu fod Llyfr y Datguddiad yn weledigaeth rhag blaen o gwymp yr Ymerodraeth ryfelgar a threisgar hon. Eto i gyd, cyngor Paul wrth yr eglwys fore oedd ufuddhau i’r awdurdodau, gan mai Duw a’i hordeiniodd (Rhufeiniaid 13.1-3).

Neges gymysg a chymhleth sydd gan y Beibl felly. Anwadal ar y gorau yw llywodraeth ddynol, ac eto ni allwn fyw yn dangnefeddus hebddi. Cyngor da felly yw gweddïo dros ein llywodraethwyr (1 Timotheus 2.1-3).

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Gethin Rhys, Cytûn
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible