No themes applied yet
Troi yn ôl ar yr ARGLWYDD
1O Israel, tro yn ôl at yr ARGLWYDD dy Dduw.14:1 gw. Deuteronomium 30 Dy ddrygioni wnaeth i ti syrthio. 2Siarad gydag e. Tro yn ôl ato, a dweud, “Maddauʼn llwyr i ni am ein drygioni. Derbyn ein gweddi o gyffes. Derbyn ein mawl fel offrwm i ti. 3Dydy Asyria ddim yn galluʼn hachub. Wnawn ni ddim marchogaeth i ryfel. Wnawn ni ddim galw ‘ein duwiau’ ar y delwau wnaethon ni byth eto. ARGLWYDD, dim ond ti syʼn garedig at yr amddifad!”
Yr ARGLWYDD yn addo maddau
4“Dw iʼn mynd iʼw gwella oʼu gwrthgilio,
aʼu caru nhwʼn ddiamod.
Dw iʼn mynd i droi cefn ar fy llid.
5Bydda i fel gwlith i Israel –
bydd hiʼn blodeuo fel saffrwn,
a bydd ganddi wreiddiau dwfn fel coed Libanus.14:5 fel coed Libanus Hebraeg, “fel Libanus”, syʼn cyfeirio, maeʼn debyg, at goed cedrwydd enwog Libanus.
6Bydd ei blagur yn tyfu;
bydd yn hardd fel coeden olewydd,
a bydd ei harogl yn hyfryd fel fforestydd Libanus.
7Bydd pobl yn byw eto dan ei chysgod.
Bydd fel ŷd yn tyfu neu winwydden yn lledu;
bydd yn enwog fel gwin Libanus.
8Fydd gan Effraim14:8 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac maeʼn aml yn cynrychioliʼr wlad yn gyfan. ddim iʼw wneud ag eilunod byth eto!
Bydda iʼn ateb ei weddi ac yn gofalu amdano.
Dw i fel coeden binwydd fytholwyrdd,
bydda iʼn rhoi ffrwyth i chi drwyʼr flwyddyn.”
Her iʼr un syʼn darllen y broffwydoliaeth
9Pwy syʼn ddoeth? Bydd eʼn deall.
Pwy syʼn gall? Bydd eʼn gwybod.
Mae ffyrdd yr ARGLWYDD yn iawn –
bydd pobl gyfiawn yn eu dilyn,
ond y rhai syʼn gwrthryfela yn baglu.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015