Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl
‘Cefais fy magu mewn teulu Cristnogol ond trois fy nghefn ar bopeth yn fy arddegau hwyr. Llwyddais yn academaidd, ond bues yn partïo’n eithaf caled am gryn amser. Daliodd i fyny gyda mi. Cafwyd cyfnodau o yfed yn drwm a chyfnodau o iselder difrifol. Pe na bawn i wedi stopio’r ffordd wyllt o fyw, gallai fod wedi bod yn drychinebus.
‘Symudais i Gymru yn 2013 ac yn 2015 dechreuais ddysgu Cymraeg. Dechreuais ddarllen y Beibl yn Gymraeg. Beibl.net yw'r Beibl mewn Cymraeg modern, lafar. Roeddwn i eisiau gwella fy Nghymraeg ac roeddwn i'n mynd i gael fy mywyd yn ôl ar y trywydd iawn, unwaith eto.
‘Mae darllen y Beibl yn Gymraeg wedi cael effaith o ran cryfhau fy ffydd. Mae'n iaith newydd i mi, felly mae'n rhaid i mi ganolbwyntio mwy. Mewn iaith newydd, rydych chi'n clywed gwahanol bethau. Mae yna arlliw gwahanol. Mynegir pethau'n wahanol. Mae wedi bod fel darllen y Beibl am y tro cyntaf.
‘Mae o wir yn siarad â mi mewn ffordd na siaradodd â mi yn Saesneg erioed. Cefais fy magu yn meddwl mai'r Beibl oedd y norm. Ond, pan wnes i droi fy nghefn ar y ffydd, fe’i gwelais fel rhan o’r traddodiad, bywyd fy rhieni. Am flynyddoedd, ni feddyliais am y Beibl, heb sôn am ei ddarllen.
‘Dw i newydd ddechrau darllen y Testament Newydd eto. Rydw i newydd orffen Actau. Rwy'n eistedd yn fy nghegin yn y bore gyda phaned a fy Meibl. Mae wedi dod yn rhan o fywyd. Mae'n fy mharatoi ar gyfer y dydd. Pe buasech wedi dweud wrthyf 10 mlynedd yn ôl mai hyn fyddai fy hanes, byddwn wedi chwerthin. Byddwn wedi meddwl na fyddwn yn dal yn fyw.
‘Mae’r partïo drosodd. Yn ddiweddar, rydw i wedi cael cyfnod o iselder, yr wy’n dod allan ohono nawr. Yn y gorffennol, byddwn wedi eistedd mewn tafarn ar fy mhen fy hun ac wedi yfed, ond nawr gwn nad dyna'r ateb. Gallaf weddïo amdano a darllen y Beibl.’
Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]
Hoffech rannu sut mae’r Beibl wedi cael effaith ar eich bywyd? E-bostiwch [email protected]