Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Mae diwedd Rhufeiniaid 8 wedi bod yn bwysig i mi ers blynyddoedd lawer. Dyna'r darlleniad a gawsom yn ein priodas bron i 35 mlynedd yn ôl, a doeddwn i ddim wedi sylweddoli ar y pryd yn union sut y byddai hynny'n fy nghynnal i'r dyfodol. Mae Paul yn ein hatgoffa y bydd adegau anodd. Ond mae'r adnodau olaf hynny yn arwyddocaol iawn: “Pwy a'n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? Ai gorthrymder, neu ing, neu erlid …? Na, meddai: “Ond yn y pethau hyn i gyd y mae gennym fuddugoliaeth lwyr trwy'r hwn a'n carodd ni” (adnodau 35, 37, BCND).

‘Ar adegau isaf fy mywyd gwelais ffyddlondeb Duw, a phrofais ei gariad a'i arweiniad - mewn bywyd priodasol, mewn bywyd teuluol, trwy fy ngalwad fy hun a galwad fy ngwraig i'r weinidogaeth ordeiniedig.

‘Cyn i mi gael fy ordeinio, roedd yna adeg pan oeddwn yn teimlo bod y drysau i gyd yn cau a doedden ni ddim yn gwybod pam. Yr hyn a ddatblygodd o hynny ryw flwyddyn neu ddwy’n ddiweddarach oedd fy ngalwad fy hun i’r weinidogaeth ordeiniedig. Teimlai fel amser llethol, ond mewn gwirionedd roedd Duw yn fy arwain trwy ei ffyddlondeb.

‘Cyn i mi ddod yma, roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i mi adael fy eglwys flaenorol. Roedd yna ymdeimlad o'r anhysbys, cyfnod eithaf hir lle'r oedd y diwedd yn y golwg ond doedd dim dechrau newydd. Roedd yn golygu dal gafael ar addewidion Duw a gwybod, fel y dywed Paul, ei fod trosom ni, nid yn ein herbyn.

‘Mae pethau fel hyn wedi rhoi persbectif mwy hirdymor i mi. Yn y darn hwn mae Paul yn ysgrifennu bod “Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni y rhai sy’n ei garu” ond nid yw hynny’n golygu bod y pethau hynny’n digwydd heddiw nac yfory. Pan edrychwn ar ehangder hanes y Beibl, gwelwn weithiau fod addewidion Duw wedi cymryd cannoedd o flynyddoedd cyn iddynt gael eu cyflawni.

‘Dyw hynny ddim yn llawer o gymorth yn y tymor byr! Ond yr hyn rydw i wedi'i ddysgu'n bersonol yw bod Duw weithiau'n cymryd amser. Dim ond wrth edrych yn ôl y gwelwn fod y pethau hynny a oedd yn teimlo'n eithaf anodd am gyfnod wedi cael eu defnyddio i’w ogoneddu. Ac mae yna ymdeimlad nad yw’n gollwng gafael arnom ni – ei fod, yn yr holl bethau hyn a allai ddod yn ein herbyn, yn dal yn gryfach.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible