Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

‘Bues i’n byw gyda rhywun am 11 mlynedd. 2004 oedd hi. Roeddwn yn mynd i ofyn iddo fy mhriodi ar Ddydd San Ffolant. Dywedodd “na”. Roeddwn i'n meddwl y byddai'n dweud “ie”. Roeddem yn hoff o’n gilydd. Roedd yn ddyn tyner iawn. Ar ôl hynny, roeddwn i'n gwybod nad oeddwn i'n ei garu digon i aros, felly penderfynais adael. Priododd â rhywun arall 18 mis ar ôl i ni wahanu. Roedd darganfod hyn yn anodd.

‘Y darn o'r Beibl a olygai lawer i mi bryd hynny oedd stori y wraig o Samaria wrth y ffynnon. Roedd hi'n dyst dros Grist a daeth pobl i ffydd. Roedd yr adnodau hynny yn fyw i mi ar y pryd. Roeddwn i hefyd wedi cael cryn dipyn o berthnasoedd o'r blaen, ond roedd Duw yn gwybod popeth am fy hanes. Nid oedd o bwys i Dduw.

‘Rwy'n hapus dros bobl sydd mewn perthynas, ond i mi, roedd gadael yn gwneud bywyd yn llai cymhleth. Roedd y berthynas wedi fy nghadw i ffwrdd o berthynas â Duw. Roeddwn i'n teimlo mewn perthynas fwy gonest â Duw, fy mod i'n ddigon fel rydw i. Er gwaethaf y ffaith fy mod wedi cael sawl perthynas, dangosodd yr adnodau hyn i mi fy mod yn dal i fod yn berson gwerthfawr, roeddwn yn dal i fod yn rhywun y gall Duw ei ddefnyddio.

‘Mae dod yn ôl i'r eglwys wedi bod yn fendigedig. Rwyf am chwarae mwy o ran yn yr eglwys nawr. Yn amlwg, gyda Covid, mae yna lawer na allwn ei wneud. Rwy'n helpu gyda chlwb gardd yr eglwys. Gallaf ddechrau'r diwrnod gyda'r eglwys, ac rwy'n teimlo fy mod wedi fy adfywio. Dyma sut y dylwn fod wedi bod yn byw fy mywyd amser maith yn ôl.’

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible