No themes applied yet
Ymweliad y gwŷr doeth
1Cafodd Iesu ei eni yn Bethlehem yn Jwdea, yn y cyfnod pan oedd Herod yn frenin. Ar ôl hynny, daeth gwŷr doeth2:1 gwŷr doeth: Dynion oedd yn astudioʼr sêr. o wledydd y dwyrain i Jerwsalem 2i ofyn, “Ble maeʼr un sydd newydd gael ei eni yn frenin yr Iddewon? Gwelon ni ei seren yn codi yn y dwyrain, a dŷn ni yma i dalu teyrnged iddo.”
3Pan glywodd y Brenin Herod hyn roedd wedi cynhyrfuʼn lân. Roedd cynnwrf yn Jerwsalem hefyd. 4Felly galwodd Herod y prif offeiriaid aʼr arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig iʼw gyfarfod. Gofynnodd iddyn nhw, “Ble maeʼr Meseia i fod i gael ei eni?” 5“Yn Bethlehem Jwdea,” medden nhw. “Dyna ysgrifennodd y proffwyd:
6‘Bethlehem, yn nhir Jwda –
Nid rhyw bentref dibwys yn Jwda wyt ti;
achos ohonot ti daw un i deyrnasu,
un fydd yn fugail i arwain fy mhobl Israel.’”2:6 Micha 5:2
7Ar ôl cael gwybod hyn, dyma Herod yn galwʼr gwŷr doeth i gyfarfod preifat. Cafodd wybod ganddyn nhw pryd yn union oedd y seren wedi ymddangos. 8Yna dwedodd, “Ewch i Bethlehem i chwilio am y plentyn. A gadewch i mi wybod pan ddewch o hyd iddo, er mwyn i mi gael mynd i dalu teyrnged iddo hefyd.”
9Ar ôl gwrando beth oedd gan y brenin iʼw ddweud, i ffwrdd â nhw. Dymaʼr seren yn mynd oʼu blaen, nes iddi aros uwchben yr union fan lle roedd y plentyn. 10Roedden nhw wrth eu bodd! 11Pan aethon nhw i mewn iʼr tŷ, dyna lle roedd y plentyn gydaʼi fam, Mair, a dyma nhwʼn disgyn ar eu gliniau oʼi flaen aʼi addoli. Yna dyma nhwʼn agor eu paciau a rhoi anrhegion gwerthfawr iddo – aur a thus a myrr2:11 thus a myrr: Powdr costus oedd yn arogliʼn hyfryd wrth gael ei losgi oedd thus. Powdr costus arall oedd yn cael ei ddefnyddio i wneud persawr oedd myrr. 12Rhybuddiodd Duw nhw mewn breuddwyd i beidio mynd yn ôl at Herod, felly dymaʼr gwŷr doeth yn teithio yn ôl iʼw gwlad eu hunain ar hyd ffordd wahanol.
Dianc iʼr Aifft
13Ar ôl iddyn nhw fynd, cafodd Joseff freuddwyd arall. Gwelodd angel Duw yn dweud wrtho, “Rhaid i chi ddianc ar unwaith! Dos âʼr plentyn aʼi fam iʼr Aifft, ac aros yno nes i mi ddweud ei bod yn saff i chi ddod yn ôl. Mae Herod yn ceisio dod o hyd iʼr plentyn er mwyn ei ladd.”
14Felly cododd Joseff ganol nos a gadael am yr Aifft gydaʼr plentyn aʼi fam. 15Buon nhw yn yr Aifft nes oedd Herod wedi marw. Felly daeth beth ddwedodd yr Arglwydd drwyʼr proffwyd yn wir: “Galwais fy mab allan oʼr Aifft.”2:15 Hosea 11:1
16Aeth Herod yn wyllt gynddeiriog pan sylweddolodd fod y gwŷr doeth wediʼi dwyllo. Anfonodd filwyr i Bethlehem aʼr cylch i ladd pob bachgen bach dan ddwyflwydd oed – hynny ar sail beth oedd y gwŷr doeth wediʼi ddweud wrtho am y dyddiad y daeth y seren iʼr golwg. 17A dyna sut daeth geiriau y proffwyd Jeremeia yn wir:
18“Mae cri iʼw chlywed yn Rama,
sŵn wylo chwerw a galaru mawr –
Rachel yn crio am ei phlant.
Maeʼn gwrthod cael ei chysuro,
am eu bod nhw wedi mynd.”2:18 Jeremeia 31:15
Mynd i fyw i Nasareth
19Pan fuodd Herod farw, cafodd Joseff freuddwyd arall yn yr Aifft. Gwelodd angel yr Arglwydd 20yn dweud wrtho, “Dos âʼr plentyn aʼi fam yn ôl i wlad Israel. Maeʼr bobl oedd am ei ladd wedi marw.”
21Felly dyma nhwʼn mynd yn ôl i wlad Israel. 22Ond pan glywodd Joseff mai Archelaus, mab Herod, oedd llywodraethwr newydd Jwdea, roedd ganddo ofn mynd yno. Cafodd ei rybuddio mewn breuddwyd eto, a throdd i gyfeiriad Galilea, 23a mynd i fyw i dref Nasareth. Felly daeth yr hyn ddwedodd y proffwydi am y Meseia yn wir unwaith eto: “Bydd yn cael ei alw yn Nasaread.”2:23 Bydd yn cael ei alw yn Nasaread: Does neb yn gwybod pwy oedd y proffwyd ddwedodd hyn.2:23 Marc 1:24; Luc 2:39; Ioan 1:45
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015