No themes applied yet
Achau Iesu y Meseia
(Luc 3:23-38)
1Rhestr achau Iesu y Meseia, oedd yn un o ddisgynyddion y Brenin Dafydd, ac Abraham hefyd:
2Abraham oedd tad Isaac,
Isaac oedd tad Jacob,
Jacob oedd tad Jwda aʼi frodyr,
3Jwda oedd tad Peres a Sera (a Tamar oedd eu mam),
Peres oedd tad Hesron,
Hesron oedd tad Ram,
4Ram oedd tad Aminadab,
Aminadab oedd tad Nahson,
Nahson oedd tad Salmon,
5Salmon oedd tad Boas (a Rahab oedd ei fam),
Boas oedd tad Obed (a Ruth oedd ei fam),
Obed oedd tad Jesse,
6a Jesse oedd tad y Brenin Dafydd.
Dafydd oedd tad Solomon (ac roedd ei fam wedi bod yn wraig i Wreia),
7Solomon oedd tad Rehoboam,
Rehoboam oedd tad Abeia,
Abeia oedd tad Asa,
8Asa oedd tad Jehosaffat,
Jehosaffat oedd tad Jehoram,
Jehoram oedd tad Wseia,
9Wseia oedd tad Jotham,
Jotham oedd tad Ahas,
Ahas oedd tad Heseceia,
10Heseceia oedd tad Manasse,
Manasse oedd tad Amon,
Amon oedd tad Joseia,
11a Joseia oedd tad Jechoneia aʼi frodyr (a hynny ar yr adeg y cafodd yr Iddewon eu caethgludo i Babilon).
12Ar ôl y gaethglud i Babilon:
Jechoneia oedd tad Shealtiel,
Shealtiel oedd tad Sorobabel,
13Sorobabel oedd tad Abiwd,
Abiwd oedd tad Eliacim,
Eliacim oedd tad Asor,
14Asor oedd tad Sadoc,
Sadoc oedd tad Achim,
Achim oedd tad Eliwd,
15Eliwd oedd tad Eleasar,
Eleasar oedd tad Mathan,
Mathan oedd tad Jacob,
16a Jacob oedd tad Joseff (gŵr Mair – y ferch gafodd Iesu, y Meseia, ei eni iddi).
17Felly roedd un deg pedair cenhedlaeth o Abraham iʼr Brenin Dafydd, un deg pedair cenhedlaeth o Dafydd hyd nes iʼr Iddewon gael eu caethgludo i Babilon, ac un deg pedair cenhedlaeth oʼr gaethglud iʼr Meseia.
Geni Iesu y Meseia
(Luc 2:1-7)
18Dyma ddigwyddodd pan gafodd Iesu y Meseia ei eni: Roedd ei fam, Mair, wedi cael ei haddo i fod yn wraig i Joseff. Ond cyn iddyn nhw briodi a chael rhyw, dyma nhwʼn darganfod fod yr Ysbryd Glân wediʼi gwneud hiʼn feichiog.1:18 Luc 1:27 19Roedd Joseff, oedd yn mynd iʼw phriodi, yn ddyn da a charedig. Doedd e ddim eisiau gwneud esiampl ohoni aʼi chyhuddo hiʼn gyhoeddus, felly roedd yn ystyried yn dawel fach i gansloʼr briodas.
20Roedd wedi bod yn meddwl am hyn pan gafodd freuddwyd: gwelodd angel Duw yn dod ato a dweud wrtho, “Joseff fab Dafydd, paid petruso mynd â Mair adre i fod yn wraig i ti, am maiʼr Ysbryd Glân sydd wedi gwneud iddi feichiogi. 21Bachgen fydd hiʼn ei gael. Rwyt i roiʼr enw Iesu1:21 Iesu: Ystyr yr enw “Iesu” yn Hebraeg ydy ‘Maeʼr Arglwydd yn achub’. iddo, am mai fe fydd yn achub ei bobl oʼu pechodau.”1:21 Luc 1:31
22Digwyddodd hyn er mwyn i beth ddwedodd Duw drwy ei broffwyd ddod yn wir: 23“Edrychwch! Bydd merch ifanc syʼn wyryf yn feichiog ac yn cael mab. Bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel”1:23 Eseia 7:14 (LXX) (Ystyr Emaniwel ydy “Mae Duw gyda ni.”1:23 cyfeiriad at Eseia 8:8,10 (LXX))
24Pan ddeffrodd Joseff, gwnaeth beth roedd angel Duw wediʼi ddweud wrtho. Priododd Mair, 25ond chafodd e ddim rhyw hefo hi nes iʼw mab gael ei eni. A rhoddodd yr enw Iesu iddo.1:25 Luc 2:21
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015