No themes applied yet
Ioan Fedyddiwr yn paratoiʼr ffordd
(Marc 1:1-8; Luc 3:1-18; Ioan 1:19-28)
1Yr adeg yna dechreuodd Ioan Fedyddiwr bregethu yn anialwch Jwdea. 2Dymaʼr neges oedd ganddo, “Trowch gefn ar bechod, achos maeʼr Un nefol yn dod i deyrnasu.” 3Dyma pwy oedd y proffwyd Eseia wedi sôn amdano:
“Llais yn gweiddiʼn uchel yn yr anialwch,
‘Paratowch y ffordd iʼr Arglwydd ddod!
Gwnewch y llwybrauʼn syth iddo!’”3:3 Eseia 40:3 (LXX)
4Roedd dillad Ioan wediʼu gwneud o flew camel gyda belt lledr am ei ganol, aʼi fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt.3:4 2 Brenhinoedd 1:8
5Roedd pobl o Jerwsalem a phobman arall yn Jwdea a dyffryn Iorddonen yn heidio allan ato. 6Pan oedden nhwʼn cyfaddef eu pechodau roedd yn eu bedyddio nhw yn afon Iorddonen.
7Dyma rai oʼr Phariseaid aʼr Sadwceaid yn dod i gael eu bedyddio ganddo. Pan welodd Ioan nhw, dwedodd yn blaen wrthyn nhw: “Dych chi fel nythaid o nadroedd! Pwy sydd wediʼch rhybuddio chi i ddianc rhag y gosb syʼn mynd i ddod? 8Rhaid i chi ddangos yn y ffordd dych chiʼn byw eich bod chi wedi newid go iawn. 9A pheidiwch meddwl eich bod chiʼn saff drwy ddweud ‘Abraham ydyʼn tad ni.’ Gallai Duw droiʼr cerrig yma sydd ar lawr yn blant i Abraham!3:9 Ioan 8:33 10Mae bwyell barn Duw yn barod i dorriʼr gwreiddiau i ffwrdd! Bydd pob coeden sydd heb ffrwyth da yn tyfu arni yn cael ei thorri i lawr aʼi thaflu iʼr tân!3:10 Mathew 7:19
11“Dŵr dw iʼn ei ddefnyddio iʼch bedyddio chi, fel arwydd eich bod chiʼn troi at Dduw. Ond ar fy ôl i mae un llawer mwy grymus na fi yn dod – fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas iddo hyd yn oed, i gario ei sandalau. Bydd hwnnw yn eich bedyddio chi gydaʼr Ysbryd Glân a gyda thân. 12Mae ganddo fforch nithio yn ei law i wahanuʼr grawn aʼr us. Bydd yn clirioʼr llawr dyrnu, yn casglu ei wenith iʼr ysgubor ac yn llosgiʼr us mewn tân sydd byth yn diffodd.”
Iesuʼn cael ei fedyddio
(Marc 1:9-11; Luc 3:21,22)
13Bryd hynny daeth Iesu o Galilea at afon Iorddonen i gael ei fedyddio gan Ioan. 14Ond ceisiodd Ioan ei rwystro. Meddai wrtho, “Fi ddylai gael fy medyddio gen ti! Pam wyt tiʼn dod ata i?”
15Atebodd Iesu, “Gwna beth dw iʼn ei ofyn; dyma syʼn iawn iʼw wneud.” Felly cytunodd Ioan iʼw fedyddio.
16Ar ôl cael ei fedyddio, yr eiliad y daeth allan oʼr dŵr, dymaʼr awyr yn rhwygoʼn agored, a gwelodd Ysbryd Duw yn dod i lawr fel colomen ac yn glanio arno. 17A dyma lais oʼr nefoedd yn dweud: “Hwn ydy fy Mab annwyl i; mae wedi fy mhlesio iʼn llwyr.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015