No themes applied yet
Iesuʼn cael ei demtio
(Marc 1:12,13; Luc 4:1-13)
1Yn syth wedyn dymaʼr Ysbryd yn arwain Iesu allan iʼr anialwch i gael ei demtio gan y diafol.4:1 Hebreaid 2:18; 4:15 2Ar ôl bwyta dim byd4:2 bwyta dim byd: Weithiau roedd yr Iddewon yn peidio bwyta (sef ‘ymprydio’) am gyfnod, i ddangos eu bod yn caru Duw a bod yn ddrwg ganddyn nhw am eu pechodau. am bedwar deg diwrnod, roedd yn llwgu. 3Dyna pryd y daeth y diafol iʼw demtio. “Os mai Mab Duw wyt ti, gwna iʼr cerrig yma droiʼn fara,” meddai.
4“Na!”, atebodd Iesu, “Maeʼr ysgrifau sanctaidd yn dweud mai ‘Nid bwyd ydyʼr unig beth mae pobl ei angen i fyw, ond popeth mae Duw yn ei ddweud.’”4:4 Deuteronomium 8:3
5Wedyn dymaʼr diafol yn mynd â Iesu iʼr ddinas sanctaidd (hynny ydy Jerwsalem) a gwneud iddo sefyll ar y tŵr uchaf un yn y deml. 6“Os mai Mab Duw wyt ti,” meddai, “neidia i lawr oʼr fan yma. Maeʼr ysgrifau sanctaidd yn dweud:
‘Bydd Duw yn gorchymyn iʼw angylion
dy ddal yn eu breichiau,
fel na fyddiʼn taro dy droed ar garreg.’”4:6 Salm 91:11,12
7Atebodd Iesu, “Maeʼr ysgrifau sanctaidd yn dweud hefyd: ‘Paid rhoiʼr Arglwydd dy Dduw ar brawf.’4:7 Deuteronomium 6:16”
8Yna dymaʼr diafol yn mynd ag e i ben mynydd uchel iawn, a dangos holl wledydd y byd aʼu cyfoeth iddo. 9A dwedodd y diafol wrtho, “Cei diʼr cwbl gen i os gwnei di blygu i lawr i fy addoli i.”
10Ond dyma Iesuʼn dweud, “Dos i ffwrdd Satan! Maeʼr ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Addolaʼr Arglwydd dy Dduw, aʼi wasanaethu eʼn unig.’4:10 Deuteronomium 6:13”
11Yna dymaʼr diafol yn ei adael, a daeth yr angylion ato a gofalu amdano.
Iesuʼn dechrau pregethu yn Galilea
(Marc 1:14,15; Luc 4:14,15)
12Pan glywodd Iesu fod Ioan wedi cael ei garcharu, gadawodd Jwdea a mynd yn ôl i Galilea. 13Ond yn lle mynd i Nasareth, aeth i fyw i Capernaum sydd ar lan y llyn yn ardal Sabulon a Nafftali. 14Felly roedd beth ddwedodd Duw drwyʼr proffwyd Eseia yn dod yn wir:
15“Tir Sabulon a thir Nafftali, sydd ar Ffordd y Môr,
aʼr ardal yr ochr draw i afon Iorddonen,
hynny ydy Galilea, lle mae pobl o genhedloedd eraill yn byw –
16Maeʼr bobl oedd yn byw mewn tywyllwch
wedi gweld golau llachar;
ac mae golau wedi gwawrio
ar y rhai syʼn byw dan gysgod marwolaeth.”4:15,16 Eseia 9:1,2
17Dyna pryd y dechreuodd Iesu gyhoeddi ei neges, “Trowch gefn ar bechod, achos maeʼr Un nefol yn dod i deyrnasu.”
Galwʼr disgyblion cyntaf
(Marc 1:16-20; Luc 5:1-11)
18Un tro roedd Iesuʼn cerdded ar lan Llyn Galilea, a gwelodd ddau frawd – Simon, oedd pawb yn ei alwʼn Pedr, aʼi frawd Andreas. Pysgotwyr oedden nhw, ac roedden nhw wrthiʼn taflu rhwyd iʼr llyn. 19Dyma Iesuʼn galw arnyn nhw, “Dewch, dilynwch fi, a gwna i chiʼn bysgotwyr syʼn dal pobl yn lle pysgod.” 20Heb oedi, dymaʼr ddau yn gollwng eu rhwydi a mynd ar ei ôl.
21Wrth gerdded yn ei flaen, gwelodd Iesu ddau frawd arall – Iago ac Ioan, dau fab Sebedeus. Roedden nhw mewn cwch hefo Sebedeus eu tad yn trwsio eu rhwydi. Dyma Iesuʼn eu galw nhw hefyd, 22a dyma nhwʼn gadael y cwch aʼu tad a dechrau dilyn Iesu.
Iesuʼn iacháu cleifion
(Luc 6:17-19)
23Roedd Iesuʼn teithio ar hyd a lled Galilea, yn dysguʼr bobl yn y synagogau, yn cyhoeddiʼr newyddion da am deyrnasiad Duw ac yn iacháu pob afiechyd a salwch oedd ar bobl.4:23 Mathew 9:35; Marc 1:39 24Daeth Iesuʼn enwog y tu allan i Galilea, ac roedd pobl o bob rhan o Syria yn dod â phawb oedd yn sâl ato – pobl oedd yn dioddef o afiechydon gwahanol, neu mewn poen, eraill yng ngafael cythreuliaid, yn dioddef o ffitiau epileptig, neu wediʼu parlysu. Iachaodd Iesu nhw i gyd. 25Roedd tyrfaoedd o bobl yn ei ddilyn i bobman – pobl o Galilea, y Decapolis,4:25 y Decapolis: Deg o drefi iʼr dwyrain o Samaria a Galilea. Jerwsalem a Jwdea, ac oʼr ochr draw i afon Iorddonen.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015