No themes applied yet
Y Bregeth ar y Mynydd
(5:1–7:29)
Y Bendithion
(Luc 6:20-23)
1Pan welodd Iesu yr holl dyrfaoedd, aeth i fyny i ben y mynydd. Pan eisteddodd i lawr,5:1 eisteddodd i lawr: Roedd athrawon Iddewig yn eistedd pan oedden nhwʼn dysgu. daeth ei ddilynwyr ato, 2a dechreuodd eu dysgu, a dweud:
3“Maeʼr rhai syʼn teimloʼn dlawd ac annigonol wediʼu bendithioʼn fawr,
oherwydd maeʼr Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
4Maeʼr rhai syʼn galaru wediʼu bendithioʼn fawr,
oherwydd byddan nhwʼn cael eu cysuro.
5Maeʼr rhai addfwyn syʼn cael eu gorthrymu wediʼu bendithioʼn fawr,
oherwydd byddan nhwʼn etifedduʼr ddaear.
6Maeʼr rhai syʼn llwgu a sychedu am gyfiawnder wediʼu bendithioʼn fawr,
oherwydd byddan nhwʼn cael eu bodloniʼn llwyr.
7Maeʼr rhai syʼn dangos trugaredd wediʼu bendithioʼn fawr,
oherwydd byddan nhwʼn cael profi trugaredd eu hunain.
8Maeʼr rhai sydd â chalon bur wediʼu bendithioʼn fawr,
oherwydd byddan nhwʼn cael gweld Duw.
9Maeʼr rhai syʼn hyrwyddo heddwch wediʼu bendithioʼn fawr,
oherwydd byddan nhwʼn cael eu galwʼn blant Duw.
10Maeʼr rhai syʼn dioddef erledigaeth am eu bod yn bywʼn gyfiawn wediʼu bendithioʼn fawr,
oherwydd maeʼr Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
11“Pan fydd pobl yn eich sarhau chi, aʼch erlid, ac yn dweud pethau drwg amdanoch chi am eich bod yn perthyn i mi, dych chi wediʼch bendithioʼn fawr! 12Byddwch yn llawen! Mwynhewch er gwaethaʼr cwbl, achos mae gan Dduw yn y nefoedd wobr fawr i chi. Cofiwch fod y proffwydi oedd yn byw ers talwm wedi cael eu herlid yn union yr un fath! 5:12 2 Cronicl 36:16; Actau 7:52
Halen a golau
(Marc 9:50; Luc 14:34,35)
13“Chi ydy halen y ddaear. Ond pan maeʼr halen wedi colli ei flas pa obaith sydd iʼw wneud yn hallt eto? Dydy eʼn dda i ddim ond iʼw daflu i ffwrdd aʼi sathru dan draed.
14“Chi ydyʼr golau sydd yn y byd. Maeʼn amhosib cuddio dinas sydd wediʼi hadeiladu ar ben bryn. 15A does neb yn goleuo lamp iʼw gosod o dan fowlen! Na, dych chiʼn gosod lamp ar fwrdd er mwyn iddi roi golau i bawb yn y tŷ. 16Dyna sut dylaiʼch golau chi ddisgleirio, er mwyn i bobl foliʼch Tad yn y nefoedd wrth weld y pethau da dych chiʼn eu gwneud.
Ystyr y Gyfraith
17“Peidiwch meddwl fy mod i wedi dod i gael gwared â Chyfraith Moses ac ysgrifauʼr Proffwydi.5:17 Cyfraith Moses ac ysgrifauʼr Proffwydi: Yr ysgrifau sanctaidd Iddewig. Yr Hen Destament yn y Beibl. Dim o gwbl! Dw i wedi dod i ddangos beth maen nhwʼn ei olygu. 18Credwch chi fi, fydd dim un llythyren na manylyn lleia oʼr Gyfraith yn cael ei ddileu nes bydd y nefoedd aʼr ddaear yn diflannu. Rhaid iʼr cwbl ddigwydd gyntaf. 19Bydd pwy bynnag syʼn torriʼr gorchymyn lleia, ac yn dysgu pobl eraill i wneud yr un peth, yn cael ei ystyried y lleia yn y deyrnas nefol. Ond bydd pwy bynnag syʼn byw yn ufudd iʼr gorchmynion ac yn dysgu eraill i wneud hynny, yn cael ei ystyried y mwya yn y deyrnas nefol. 20Dw iʼn dweud hyn – os fyddwch chi ddim yn bywʼn fwy cyfiawn naʼr Phariseaid aʼr arbenigwyr yn y Gyfraith, fyddwch chi byth yn un oʼr rhai maeʼr Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.
Llofruddiaeth
(Luc 12:57-59)
21“Dych chi wedi clywed beth oedd yn cael ei ddweud wrth bobl ers talwm: ‘Paid llofruddio’5:21 Exodus 20:13; Deuteronomium 5:17 (ac y bydd pawb syʼn llofruddio rhywun yn euog ac yn cael eu barnu). 22Ond dw iʼn dweud wrthoch chi fod y sawl syʼn gwylltio gyda rhywun arall yn euog ac yn cael ei farnu. Os ydy rhywun yn sarhau ei gyfaill drwy ei alwʼn idiot, maeʼn atebol iʼr Sanhedrin. Ac os bydd rhywun yn dweud ‘y diawl dwl’ wrth rywun arall, mae mewn perygl o losgi yn nhân uffern.
23“Felly, os wyt ti wrth yr allor yn y deml yn addoli Duw, ac yn cofio yno fod gan rhywun gŵyn yn dy erbyn, 24gad dy offrwm yno. Dos i wneud pethauʼn iawn gyda nhwʼn gyntaf; cei di gyflwyno dy offrwm i Dduw wedyn.
25“Os bydd rhywun yn dy gyhuddo o rywbeth ac yn mynd â ti iʼr llys, setlaʼr mater ar unwaith cyn cyrraedd y llys. Ydyʼn well gen ti iddo fynd â ti o flaen y barnwr, ac iʼr barnwr orchymyn i swyddog dy roi yn y carchar? 26Cred di fi, chei di ddim dy ryddhau nes byddi wedi talu pob ceiniog.
Godineb
27“Dych chi wedi clywed beth oedd yn cael ei ddweud, ‘Paid godinebu’5:27 Exodus 20:14; Deuteronomium 5:18 28Ond dw iʼn dweud wrthoch chi fod unrhyw ddyn syʼn llygadu gwraig aʼi feddwl ar ryw eisoes wedi cyflawni godineb gyda hi. 29Os ydy dy lygad orau yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan aʼi thaflu i ffwrdd. Maeʼn well i ti golli rhan fach o dy gorff nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i uffern. 30Ac os ydy dy law gryfaf yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd aʼi thaflu ymaith. Maeʼn well i ti golli rhan o dy gorff nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i uffern.
Ysgariad
(Mathew 19:9; Marc 10:11,12; Luc 16:18)
31“Mae wedi cael ei ddweud, ‘Rhaid i bwy bynnag syʼn ysgaru ei wraig roi tystysgrif ysgariad iddi.’5:31 Deuteronomium 24:1-4 32Ond dw iʼn dweud wrthoch chi fod dyn syʼn ysgaru ei wraig am unrhyw reswm ond ei bod hi wedi bod yn anffyddlon iddo, yn gwneud iddi hi odinebu. Hefyd mae dyn syʼn priodi gwraig sydd wedi cael ysgariad yn godinebu.
Llwon
33“Dych chi hefyd wedi clywed i hyn gael ei ddweud wrth bobl ers talwm: ‘Paid gwneud llw, ac wedyn ei dorri. Rhaid cadw pob llw wyt ti wediʼi wneud iʼr Arglwydd.’ 5:33 a Lefiticus 19:12; b Numeri 30:2; Deuteronomium 23:21 34Ond dw iʼn dweud wrthoch chi, Peidiwch tyngu llw o gwbl: ddim iʼr nefoedd, am mai dyna orsedd Duw; 35nac iʼr ddaear, y stôl iddo orffwys ei draed arni; nac i Jerwsalem, am mai hi ydy dinas Duw, y Brenin Mawr. 36Peidiwch tyngu llw hyd yn oed iʼch pen eich hun, oherwydd allwch chi ddim troi un blewyn yn ddu neuʼn wyn. 37Yn lle hynny, dwedwch y gwir bob amser – dylai dweud ‘Ie’ olygu ‘Ie’, a dweud ‘Na’ olygu ‘Na’. Y diafol syʼn gwneud i chi fod eisiau dweud mwy na hynny.
Llygad am lygad
(Luc 6:29,30)
38“Dych chi wedi clywed fod hyn yn cael ei ddweud, ‘Llygad am lygad, a dant am ddant.’5:38 Exodus 21:24; Lefiticus 24:20; Deuteronomium 19:21 39Ond dw iʼn dweud wrthoch chi: Peidiwch ceisio taluʼn ôl. Os ydy rhywun yn rhoi clatsien i ti ar dy foch dde, cynnig y foch arall iddo. 40Ac os ydy rhywun am dy siwio a chymryd dy grys, rho dy gôt iddo hefyd. 41Os ydy milwr Rhufeinig yn dy orfodi i gario ei bac am un filltir, dos di ddwy. 42Rho i bwy bynnag syʼn gofyn i ti am rywbeth, a phaid gwrthod y sawl sydd eisiau benthyg rhywbeth gen ti.
Cariad at elynion
(Luc 6:27,28,32-36)
43“Dych chi wedi clywed i hyn gael ei ddweud: ‘Rwyt i garu dy gymydog’5:43 Lefiticus 19:18 (ac ‘i gasáu dy elyn’). 44Ond dw iʼn dweud wrthoch chi: Carwch eich gelynion a gweddïwch dros y rhai syʼn eich erlid chi! 45Wedyn byddwch yn dangos eich bod yn blant iʼch Tad yn y nefoedd, am mai dynaʼr math o beth mae eʼn ei wneud – maeʼn gwneud iʼr haul dywynnu ar y drwg aʼr da, ac yn rhoi glaw iʼr rhai syʼn gwneud beth syʼn iawn aʼr rhai sydd ddim. 46Pam dylech chi gael gwobr am garuʼr bobl hynny syʼn eich caru chi? Onid ydy hyd yn oed y rhai syʼn casglu trethi i Rufain5:46 rhai syʼn casglu trethi i Rufain: Roedd y bobl ymaʼn cael eu hystyried yn fradwyr iʼw gwlad. yn gwneud cymaint â hynny? 47Ac os mai dim ond eich teip chi o bobl dych chiʼn eu cyfarch, beth dych chiʼn ei wneud syʼn wahanol? Mae hyd yn oed y paganiaid yn gwneud hynny! 48Ond rhaid i chi fod yn berffaith, yn union fel maeʼch Tad nefol yn berffaith.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015