No themes applied yet
Rhoi iʼr tlodion
1“Byddwch yn ofalus i beidio gwneud sioe oʼch crefydd, er mwyn i bobl eraill eich gweld chi. Os gwnewch chi hynny, chewch chi ddim gwobr gan eich Tad yn y nefoedd.
2“Felly, pan fyddiʼn rhoi arian iʼr tlodion, paid trefnu ffanffer er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb yn gwybod am y peth. Dyna maeʼr rhai syʼn gwneud sioe oʼu crefydd yn ei wneud yn y synagogau ac ar y strydoedd. Maen nhw eisiau i bobl eraill eu canmol nhw. Credwch chi fi, dynaʼr unig wobr gân nhw! 3Pan fyddi diʼn rhoi arian iʼr tlodion, paid gadael i neb wybod am y peth6:3 paid...y peth: Groeg, “paid gadael iʼr llaw chwith wybod beth maeʼr llaw dde yn ei wneud.”. 4Dylai pob rhodd fod yn gyfrinach. Bydd dy Dad, syʼn gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti.
Gweddi
(Luc 11:2-4)
5“A pheidiwch gweddïo fel y rhai syʼn gwneud sioe oʼu crefydd. Maen nhw wrth eu boddau pan mae pobl yn edrych arnyn nhw yn codi i weddïo yn y synagogau neu ar strydoedd prysur. Credwch chi fi, dynaʼr unig wobr gân nhw! 6Pan fyddi diʼn gweddïo, dos i ystafell oʼr golwg, cau y drws, a gweddïo ar dy Dad sydd yno gyda ti er dy fod ddim yn ei weld. Wedyn bydd dy Dad, syʼn gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti. 7A phan fyddwch chiʼn gweddïo, peidiwch mwydro ymlaen yn ddiddiwedd fel maeʼr paganiaid yn gwneud. Maen nhwʼn meddwl y bydd Duw yn gwrando am eu bod yn gweddïo mor hir. 8Peidiwch chi â bod fel yna. Maeʼch Tad chiʼn gwybod yn union beth sydd ei angen arnoch chi cyn i chi ddweud gair.
9“Dyma sut dylech chi weddïo:
‘Ein Tad sydd yn y nefoedd,
dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu.
10Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu,
ac iʼr cwbl syʼn dda yn dy olwg di
ddigwydd yma ar y ddaear fel maeʼn digwydd yn y nefoedd.
11Rho i ni ddigon o fwyd iʼn cadw niʼn fyw am heddiw.
12Maddau i ni am bob dyled i ti
yn union fel dŷn niʼn maddau
iʼr rhai sydd mewn dyled i ni.
13Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn niʼn cael ein profi,
ac achub ni o afael y drwg.’6:13 y drwg: Neu yr un drwg sef y diafol. Mae rhai llawysgrifau yn ychwanegu, “Achos ti syʼn teyrnasu, ti sydd âʼr grym aʼr gogoniant am byth, Amen.” (gw. 1 Cronicl 29:11).
14“Os gwnewch chi faddau i bobl pan maen nhw wedi gwneud cam â chi, bydd eich Tad nefol yn maddau i chi hefyd. 15Ond os na wnewch chi faddau iʼr bobl sydd wedi gwneud cam â chi, fydd eich Tad ddim yn maddauʼch pechodau chi.
Ymprydio
16“Pan fyddwch chiʼn ymprydio, peidiwch gwneud iʼch hunain edrych yn drist er mwyn gwneud sioe; maeʼr bobl syʼn gwneud hynny yn cuddioʼu hwynebau er mwyn i bobl sylwi eu bod yn ymprydio. Credwch chi fi, dynaʼr unig wobr gân nhw! 17Pan fyddi diʼn ymprydio, rho olew ar dy ben, criba dy wallt a golcha dy wyneb. 18Wedyn fydd neb yn gallu gweld dy fod tiʼn ymprydio. Dim ond dy Dad, syʼn anweledig, fydd yn gweld; a bydd dy Dad, syʼn gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti.
Trysor yn y Nefoedd
(Luc 12:33,34)
19“Peidiwch casglu trysorau i chiʼch hunain yn y byd yma. Mae gwyfyn a rhwd yn gallu eu difetha, ac mae lladron yn gallu dod âʼu dwyn. 20Casglwch drysorau i chiʼch hunain yn y nefoedd – all gwyfyn a rhwd ddifetha dim byd yno, a does dim lladron yno i ddwyn dim byd. 21Lle bynnag mae dy drysor di y bydd dy galon di.
Arian a meddiannau
(Luc 11:34-36; 16:13)
22“Y llygad ydy lamp y corff. Felly, mae llygad iach (sef bod yn hael) yn gwneud dy gorff yn olau drwyddo. 23Ond mae llygad sâl (sef bod yn hunanol) yn gwneud dy gorff yn dywyll drwyddo. Felly os ydy dy oleuni di yn dywyllwch, maeʼn dywyll go iawn arnat ti!
24“Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd. Mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall. Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac i arian ar yr un pryd.
Peidiwch poeni
(Luc 12:22-31)
25“Felly, dyma dw iʼn ddweud – peidiwch poeni beth iʼw fwyta a beth iʼw yfed a beth iʼw wisgo. Onid oes mwy i fywyd na bwyd a dillad? 26Meddyliwch am adar er enghraifft: Dŷn nhw ddim yn hau nac yn medi nac yn storio mewn ysguboriau – ac eto mae eich Tad nefol yn eu bwydo nhw. Dych chiʼn llawer mwy gwerthfawr na nhw. 27Allwch chi ddim hyd yn oed gwneud eich bywyd eiliad yn hirach6:27 eich bywyd eiliad yn hirach: Neu “eich hun yn dalach”. drwy boeni!
28“A pham poeni am ddillad? Meddyliwch sut mae blodau gwyllt yn tyfu. Dydy blodau ddim yn gweithio nac yn nyddu. 29Ac eto, doedd hyd yn oed y Brenin Solomon yn ei ddillad crand ddim yn edrych mor hardd ag un ohonyn nhw.6:29 1 Brenhinoedd 10:4-7; 2 Cronicl 9:3-6 30Os ydy Duw yn gofalu fel yna am flodau gwyllt (syʼn tyfu heddiw, ond yn cael eu llosgi fel tanwydd fory), maeʼn siŵr o ofalu amdanoch chi! Ble maeʼch ffydd chi? 31Peidiwch poeni felly, a dweud, ‘Beth wnawn ni fwyta?’ neu ‘Beth wnawn ni yfed?’ neu ‘Beth wisgwn ni?’ 32Y paganiaid syʼn poeni am bethau felly. Maeʼch Tad nefol yn gwybod am bopeth sydd ei angen arnoch chi. 33Y flaenoriaeth i chi ydy gadael i Dduw deyrnasu yn eich bywydau a gwneud beth syʼn iawn yn ei olwg; wedyn byddwch yn cael y pethau eraill yma i gyd. 34Felly, peidiwch poeni am fory, cewch groesiʼr bont honno pan ddaw. Maeʼn well wynebu problemau un dydd ar y tro.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015