Skip to main content

Peidiwch â hunan-hyrwyddo: Mathew 6.1–18 (25 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Mathew 6

Yn rhan gyntaf Mathew 6, mae’r Iesu’n dweud wrth ei wrandawyr na ddylent wneud sioe o’u dyletswyddau crefyddol yn gyhoeddus, ond eu cadw rhyngddyn nhw â Duw.

Nid oedd yn cyfeirio at y math o addoliad corfforaethol sy’n rhan arferol o ddisgyblaeth Gristnogol. Ond efallai y byddai rhywun cyfoethog yn rhoi dŵr i bobl sy’n mynd heibio, er enghraifft, gyda chyhoeddiad uchel am bwy oedd yn gyfrifol am y rhodd. Roedd perygl i weddi ac ymprydio hefyd ddod yn chwaraeon cystadleuol.  

Mae’r Iesu’n glir iawn: ein perthynas gyda Duw sy’n cyfrif. Mae arfer ysbrydol sy’n tynnu sylw at ein hunain yn hytrach na chanolbwyntio ar Dduw wedi’i lygru.

Ond rydym hefyd eisiau bod yn dyst i’n ffydd. Mae’r Iesu newydd alw ei ddisgyblion y ‘golau sydd yn y byd’ a dweud ‘Dyna sut dylai'ch golau chi ddisgleirio, er mwyn i bobl foli'ch Tad yn y nefoedd wrth weld y pethau da dych chi'n eu gwneud’ (5.16). Dylai Cristnogion gael eu galw’n bobl sy’n rhoi, yn gweddïo ac yn ymarfer hunan-wadu.

Fodd bynnag, ymddengys bod Iesu’n dweud na ddylem wneud hyn i greu argraff ar bobl eraill, ond  oherwydd mai dyma’r peth iawn i’w wneud; ac os ydym mewn unrhyw amheuaeth ynghylch ein cymhellion, y dylem arfer gwyleidd-dra.

Yn ein hoes ni, pan fydd cyfryngau cymdeithasol yn golygu y gall pawb ymffrostio am eu cynnydd ysbrydol, efallai bod angen i ni fod yn arbennig o ofalus. A ydym yn postio rhywbeth oherwydd ei fod yn gwneud inni edrych yn dda, neu oherwydd ei fod yn gogoneddu Crist? Os oes unrhyw amheuaeth, efallai y dylem daro ‘dileu’ yn hytrach na ‘postio’.

Gweddi

Gweddi

Duw, rho imi hunan-wybodaeth a gostyngeiddrwydd. Helpa fi i sylweddoli nad oes angen imi greu argraff ar bobl eraill, ond i gadw fy meddwl a fy nghalon arnat ti.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible