Skip to main content

Safbwynt gwahanol: Mathew 5.1–12 (24 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Mathew 5

Y Bregeth ar y Mynydd yw cynnwys Mathew 5-7. Dyma’r darn hiraf o addysgu yn yr Efengylau Synoptig (Mathew, Marc a Luc), ac mae’n cynnwys peth o ddysgeidiaeth fwyaf heriol Iesu – a’i fwyaf cysurus.

Mae’n dechrau gyda’r Gwynfydau (Beatitudes - enw sy’n deillio o’r Lladin am ‘Blessed are’) sy’n dechrau pob adnod. Fe’u gelwir weithiau yr ‘Agweddau Hardd’: fel addfwynder, trugaredd a phurdeb.

Nid yw unryw beth y mae Iesu’n ei ganmol yn yr adnodau hyn y math o bethau y mae’r byd yn ystyried yn werthfawr – a hynny ar ôl 2,000 o flynyddoedd o ddysgeidiaeth Gristnogol. Yn y byd Rhufeinig yr oedd Palestina yn rhan ohono, roedd y rhinweddau hyn hyd yn oed yn llai parchus. Pŵer, a oedd yn aml yn cael ei weithredu yn greulon, oedd popeth. Mae Iesu’n troi hynny i gyd ar ei ben: y bobl sy’n galaru ac yn cael eu herlid, nad ydynt yn ceisio dominyddu eraill ond sy’n heddychwyr, sydd wedi eu bendithio.

Rydym yn aml yn clywed pobl gyfoethog heddiw yn cael eu disgrifio fel ‘gwerth’ hyn a hyn o filiynau yn eu cyfrifon banc. Mae Cristnogaeth yn herio ffordd y byd o fesur gwerth. Dywed Iesu fod Duw yn mesur yn ôl safon wahanol. Mae Teyrnas Nefoedd yn cadw cyfrifon gwahanol, ac yn cynnig gwobrau gwahanol.

 

Gweddi

Gweddi

Duw, cadwa fi rhag bod eisiau’r math o lwyddiant y mae’r byd yn credu sy’n bwysig. Helpa fi i feithrin yr Agweddau Hardd a ddysgodd yr Iesu.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible