No themes applied yet
Cyfraith yr ARGLWYDD
(Aleff)
1Maeʼr rhai syʼn byw yn iawn,
ac yn gwneud beth mae cyfraith yr ARGLWYDD yn ei ddweud
wediʼu bendithioʼn fawr!
2Maeʼr rhai syʼn gwneud beth maeʼn ddweud,
ac yn rhoi eu hunain yn llwyr iddo
wediʼu bendithioʼn fawr!
3Dŷn nhwʼn gwneud dim drwg,
ond yn ymddwyn fel mae e eisiau.
4Ti wedi gorchymyn fod dy ofynion
i gael eu cadwʼn ofalus.
5O na fyddwn i bob amser yn ymddwyn
fel mae dy ddeddfau diʼn dweud!
6Wedyn fyddwn i ddim yn teimlo cywilydd
wrth feddwl am dy orchmynion di.
7Dw iʼn diolch i ti o waelod calon
wrth ddysgu mor deg ydy dy reolau.
8Dw iʼn mynd i gadw dy ddeddfau;
felly paid troi cefn arna iʼn llwyr!
(Bet)
9Sut mae llanc ifanc i ddal ati i fyw bywyd glân? –
drwy wneud fel rwyt tiʼn dweud.
10Dw i wedi rhoi fy hun yn llwyr i ti;
paid gadael i mi grwydro oddi wrth dy orchmynion di.
11Dw iʼn trysori dy neges di yn fy nghalon,
er mwyn peidio pechu yn dy erbyn.
12Rwyt tiʼn fendigedig, O ARGLWYDD!
Dysga dy ddeddfau i mi.
13Dw iʼn ailadrodd yn uchel
y rheolau rwyt ti wediʼu rhoi.
14Mae byw fel rwyt tiʼn dweud
yn rhoi mwy o lawenydd naʼr cyfoeth mwya.
15Dw i am fyfyrio ar dy ofynion,
a chadw fy llygaid ar dy ffyrdd.
16Mae dy ddeddfau diʼn rhoiʼr pleser mwya i mi!
Dw i ddim am anghofio beth rwyt tiʼn ddweud.
(Gimel)
17Helpa dy was!
Cadw fiʼn fyw i mi allu gwneud beth tiʼn ei ddweud.
18Agor fy llygaid, i mi allu deall
y pethau rhyfeddol rwyt tiʼn eu dysgu.
19Dw i ddim ond ar y ddaear yma dros dro.
Paid cuddio dy orchmynion oddi wrtho i.
20Dw iʼn ysu am gael gwybod
beth ydy dy ddyfarniad di.
21Rwyt tiʼn ceryddu pobl falch,
ac yn melltithioʼr rhai syʼn crwydro oddi wrth dy orchmynion di.
22Wnei di symud yr holl wawdio aʼr cam-drin i ffwrdd?
Dw iʼn cadw dy reolau di.
23Er bod arweinwyr yn cynllwynio yn fy erbyn i,
mae dy was yn astudio dy ddeddfau.
24Mae dy ofynion diʼn hyfrydwch pur i mi,
ac yn rhoi arweiniad cyson i mi.
(Dalet)
25Dw iʼn methu codi oʼr llwch!
Adfywia fi fel rwyt wedi addo!
26Dyma fiʼn dweud beth oedd yn digwydd, a dyma tiʼn ateb.
Dysga dy ddeddfau i mi.
27Gad i mi ddeall sut mae byw yn ffyddlon i dy ofynion,
a bydda iʼn myfyrio ar y pethau rhyfeddol rwyt tiʼn eu gwneud.
28Mae tristwch yn fy lladd i!
Cod fi ar fy nhraed fel gwnest ti addo!
29Symud unrhyw dwyll sydd ynof fi;
a rho dy ddysgeidiaeth i mi.
30Dw i wedi dewis bywʼn ffyddlon i ti,
a chadw fy llygaid ar dy reolau di.
31Dw iʼn dal gafael yn dy orchmynion;
ARGLWYDD, paid siomi fi!
32Dw i wir eisiau bywʼn ffyddlon i dy orchmynion;
helpa fi i weld y darlun mawr.
(He)
33O ARGLWYDD, dysga fi i fyw
fel mae dy gyfraith diʼn dweud;
aʼi dilyn iʼr diwedd.
34Helpa fi i ddeall, a bydda iʼn cadw dy ddysgeidiaeth di;
bydda iʼn ymroi i wneud popeth maeʼn ei ofyn.
35Arwain fi i ddilyn llwybr dy orchmynion;
dyna dw i eisiauʼi wneud.
36Gwna fiʼn awyddus i gadw dy amodau di
yn lle bod eisiau llwyddoʼn faterol.
37Cadw fi rhag edrych ar bethau diwerth!
Gad i mi brofi bywyd wrth ddilyn dy ffyrdd di!
38Gwna beth wnest ti ei addo i dy was,
i ennyn parch ac addoliad ynof fi.
39Cymer yr holl wawdio ofnadwy i ffwrdd,
Mae dy ddedfryd di bob amser yn iawn.
40Dw iʼn dyheu am wneud beth rwyt tiʼn ei ofyn;
rho fywyd newydd i mi drwy dy ffyddlondeb.
(Faf)
41Gad i mi brofi dy gariad, O ARGLWYDD.
Achub fi, fel rwyt ti wedi addo.
42Wedyn bydda iʼn gallu ateb y rhai syʼn fy enllibio,
gan fy mod iʼn credu beth rwyt tiʼn ei ddweud.
43Paid rhwystro fi rhag dweud beth syʼn wir,
dw i wedi rhoi fy ngobaith yn dy ddyfarniad di.
44Wedyn bydda iʼn ufudd i dy ddysgeidiaeth di
am byth bythoedd!
45Gad i mi gerdded yn rhydd
am fy mod i wedi ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau.
46Bydda iʼn dweud wrth frenhinoedd am dy ofynion.
Fydd gen i ddim cywilydd.
47Mae dy orchmynion yn rhoiʼr pleser mwya i mi,
dw i wir yn eu caru nhw!
48Dw iʼn cydnabod ac yn caru dy orchmynion,
ac yn myfyrio ar dy ddeddfau.
(Tsayin)
49Cofia beth ddwedaist ti wrth dy was –
dyna beth sydd wedi rhoi gobaith i mi.
50Yr hyn syʼn gysur i mi pan dw iʼn isel
ydy fod dy addewidion di yn rhoi bywyd i mi.
51Mae pobl falch wedi bod yn fy ngwawdio iʼn greulon,
ond dw i ddim wedi gwyro oddi wrth dy ddysgeidiaeth di.
52Dw iʼn cofio dy reolau ers talwm, O ARGLWYDD,
ac mae hynnyʼn rhoi cysur i mi.
53Dw iʼn gwylltioʼn lân wrth feddwl am y bobl ddrwg hynny
syʼn gwrthod dy ddysgeidiaeth di.
54Dy ddeddfau di fuʼn destun iʼm cân
ble bynnag dw i wedi byw!
55Dw iʼn cofio dy enw di yn y nos, O ARGLWYDD,
ac yn gwneud beth rwyt tiʼn ei ddysgu.
56Dyna dw i wediʼi wneud bob amser –
ufuddhau i dy ofynion di.
(Chet)
57Ti, ARGLWYDD, ydy fy nghyfran i:
Dw iʼn addo gwneud fel rwyt tiʼn dweud.
58Dw iʼn erfyn arnat ti o waelod calon:
dangos drugaredd ata i, fel rwyt wedi addo gwneud.
59Dw i wedi bod yn meddwl am fy mywyd,
ac wedi penderfynu troi yn ôl at dy ofynion di.
60Heb unrhyw oedi, dw iʼn brysio
i wneud beth rwyt tiʼn ei orchymyn.
61Mae pobl ddrwg yn gosod trapiau i bob cyfeiriad,
ond dw i ddim yn anghofio dy ddysgeidiaeth di.
62Ganol nos dw iʼn codi i ddiolch
am dy fod tiʼn dyfarnuʼn gyfiawn.
63Dw iʼn ffrind i bawb syʼn dy ddilyn di,
ac yn gwneud beth rwyt tiʼn ei ofyn.
64Mae dy gariad di, O ARGLWYDD, yn llenwiʼr ddaear!
Dysga dy ddeddfau i mi.
(Tet)
65Rwyt wedi bod yn dda tuag ata i
fel y gwnest ti addo, O ARGLWYDD.
66Rhoʼr gallu i mi wybod beth syʼn iawn;
dw iʼn trystio dy orchmynion di.
67Rôn iʼn arfer mynd ar gyfeiliorn, ac roeddwn iʼn dioddef,
ond bellach dw iʼn gwneud beth rwyt tiʼn ddweud.
68Rwyt tiʼn dda, ac yn gwneud beth syʼn dda:
dysga dy ddeddfau i mi.
69Mae pobl falch wedi bod yn palu celwydd amdana i,
ond dw iʼn gwneud popeth alla i i gadw dy orchmynion.
70Pobl cwbl ddideimlad ydyn nhw,
ond dw i wrth fy modd gyda dy ddysgeidiaeth di.
71Roedd yn beth da i mi orfod dioddef,
er mwyn i mi ddysgu cadw dy ddeddfau.
72Mae beth rwyt tiʼn ei ddysgu yn fwy gwerthfawr
na miloedd o ddarnau arian ac aur.
(Iod)
73Ti sydd wedi fy ngwneud i aʼm siapio i;
helpa fi i ddeall er mwyn dysgu dy orchmynion di.
74Bydd pawb syʼn dy barchu mor hapus wrth weld y newid ynof fi,
am mai dy eiriau di syʼn rhoi gobaith i mi.
75O ARGLWYDD, dw iʼn gwybod fod beth rwyt tiʼn ei benderfynu yn iawn;
roeddet tiʼn fy nisgyblu i am dy fod ti mor ffyddlon i mi.
76Gad i dy gariad ffyddlon di roi cysur i mi,
fel gwnest ti addo i dy was.
77Mae dy ddysgeidiaeth diʼn rhoiʼr pleser mwya i mi
felly gad i mi brofi dy dosturi, a chael byw.
78Gad iʼr rhai balch gael eu cywilyddio am wneud drwg i mi ar gam!
Dw iʼn mynd i astudio dy ofynion di.
79Gwna iʼr rhai syʼn dy barchu ac yn dilyn dy reolau
fy nerbyn i yn ôl.
80Gwna i mi roi fy hun yn llwyr i ddilyn dy ddeddfau
fel bydd dim cywilydd arna i.
(Caff)
81Dw iʼn dyheu i ti fy achub i!
Dy eiriau di syʼn rhoi gobaith i mi!
82Mae fy llygaid yn blino wrth ddisgwyl i ti wneud beth rwyt wediʼi addo:
“Pryd wyt tiʼn mynd iʼm cysuro i?” meddwn i.
83Dw i fel potel groen wedi crebachu gan fwg!
Ond dw i ddim wedi diystyru dy ddeddfau.
84Am faint mwy maeʼn rhaid i mi ddisgwyl?
Pryd wyt tiʼn mynd i gosbiʼr rhai syʼn fy erlid i?
85Dydyʼr bobl falch yna ddim yn cadw dy gyfraith di;
maen nhw wedi cloddio tyllau i geisio fy nal i.
86Dw iʼn gallu dibynnuʼn llwyr ar dy orchmynion di;
maeʼr bobl ymaʼn fy erlid i ar gam! Helpa fi!
87Maen nhw bron âʼm lladd i,
ond dw i ddim wedi troi cefn ar dy orchmynion di.
88Yn dy gariad ffyddlon, cadw fiʼn fyw,
a bydda iʼn gwneud popeth rwyt tiʼn ei ofyn.
(Lamed)
89Dw iʼn gallu dibynnu ar dy eiriau di, ARGLWYDD;
maen nhwʼn ddiogel yn y nefoedd am byth.
90Ti wedi bod yn ffyddlon ar hyd y cenedlaethau!
Ti roddodd y ddaear yn ei lle, ac maeʼn aros yno.
91Mae popeth yn disgwyl dy arweiniad di,
maeʼr cwbl yn dy wasanaethu di.
92Byddwn i wedi marw o iselder
oni bai fy mod wrth fy modd gyda dy ddysgeidiaeth.
93Wna i byth anghofio dy reolau di,
rwyt ti wedi rhoi bywyd newydd i mi drwyddyn nhw.
94Ti sydd biau fi. Achub fi!
Dw i wedi ymroi i wneud beth wyt ti eisiau.
95Mae dynion drwg eisiau fy ninistrio,
ond dw iʼn myfyrio ar dy orchmynion.
96Mae yna ben draw i bopeth arall,
ond mae dy orchmynion diʼn ddiderfyn!
(Mem)
97O, dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di!
Dw iʼn myfyrio ynddi drwyʼr dydd.
98Mae dy orchmynion di gyda mi bob amser;
maen nhwʼn fy ngwneud iʼn gallach naʼm gelynion;
99Dw i wedi dod i ddeall mwy naʼm hathrawon i gyd,
am fy mod iʼn myfyrio ar dy ddeddfau di.
100Dw i wedi dod i ddeall yn well naʼr rhai mewn oed,
am fy mod iʼn cadw dy ofynion di.
101Dw i wedi cadw draw o bob llwybr drwg
er mwyn gwneud beth rwyt tiʼn ddweud.
102Dw i ddim wedi troi cefn ar dy reolau di,
am mai ti dy hun sydd wedi fy nysgu i.
103Maeʼr pethau rwyt tiʼn eu dweud mor dda,
maen nhwʼn felys fel mêl.
104Dy orchmynion di syʼn rhoi deall i mi,
ac felly dw iʼn casáu pob ffordd ffals.
(Nwn)
105Mae dy eiriau di yn lamp iʼm traed,
ac yn goleuo fy llwybr.
106Dw i wedi addo ar lw
y bydda iʼn derbyn dy ddedfryd gyfiawn.
107Dw iʼn dioddef yn ofnadwy;
O ARGLWYDD, adfywia fi, fel rwyt wedi addo!
108O ARGLWYDD, derbyn fy offrwm o fawl,
a dysga dy ddeddfau i mi.
109Er bod fy mywyd mewn perygl drwyʼr adeg,
dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di.
110Mae pobl ddrwg wedi gosod trap i mi,
ond dw i ddim wedi crwydro oddi wrth dy ofynion.
111Mae dy ddeddfau di wedi cael eu rhoi i mi am byth;
maen nhwʼn bleser pur i mi!
112Dw iʼn benderfynol o ddilyn dy ddeddfau:
maeʼr wobr yn para am byth.
(Samech)
113Dw iʼn casáu pobl ddauwynebog,
ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di.
114Ti ydyʼr lle saff i mi guddio! Ti ydyʼr darian syʼn fy amddiffyn!
Dy eiriau di syʼn rhoi gobaith i mi!
115Ewch i ffwrdd, chi syʼn gwneud drwg!
Dw iʼn bwriadu cadw gorchmynion fy Nuw.
116Cynnal fi, fel rwyt wedi addo, i mi gael byw;
paid gadael i mi gael fy siomi.
117Cynnal fi a chadw fiʼn saff,
a bydda iʼn myfyrio ar dy ddeddfau di bob amser.
118Tiʼn gwrthod y rhai syʼn crwydro oddi wrth dy ddeddfau –
pobl ffals a thwyllodrus ydyn nhw.
119Tiʼn taflu pobl ddrwg y byd i ffwrdd fel sothach!
Felly dw i wrth fy modd hefo dy ddeddfau di.
120Mae meddwl amdanat tiʼn codi croen gŵydd arna i;
mae dy reolau diʼn ddigon i godi ofn arna i.
(Ayin)
121Dw i wedi gwneud beth syʼn iawn ac yn dda;
paid gadael fi yn nwyloʼr rhai sydd am wneud drwg i mi.
122Plîs, addo y byddiʼn cadw dy was yn saff.
Stopiaʼr bobl falch yma rhag fy ngormesu.
123Mae fy llygaid wedi blino disgwyl i ti fy achub i,
ac i dy addewid sicr ddod yn wir.
124Dangos dy haelioni rhyfeddol at dy was;
dysga dy ddeddfau i mi.
125Dy was di ydw i. Helpa fi i ddeall
a gwybod yn union beth rwyt tiʼn ei orchymyn.
126Maeʼn bryd i ti weithredu, ARGLWYDD!
Maeʼr bobl ymaʼn torri dy reolau.
127Dw iʼn meddwl y byd o dy orchmynion di;
mwy nag aur, yr aur mwyaf coeth.
128Dw iʼn dilyn dy ofynion di yn fanwl;
dw iʼn casáu pob ffordd ffals.
(Pe)
129Mae dy ddeddfau di yn rhyfeddol,
a dyna pam dw iʼn eu cadw nhw.
130Mae dy eiriau di yn goleuo materion,
ac yn rhoi deall i bobl gyffredin.
131Dw iʼn dyheu, dw iʼn disgwyl yn gegagored
ac yn ysu am dy orchmynion di.
132Tro ata i, a bydd yn garedig ata i;
dyna rwyt tiʼn ei wneud iʼr rhai syʼn caru dy enw di.
133Dangos diʼr ffordd ymlaen i mi;
paid gadael iʼr rhai drwg gael y llaw uchaf arna i!
134Gollwng fiʼn rhydd o afael y rhai syʼn fy ngormesu,
er mwyn i mi wneud beth rwyt tiʼn ei ddweud.
135Bydd yn garedig at dy was,
a dysga dy ddeddfau i mi.
136Maeʼr dagrau yn llifo fel afon gen i
am fod pobl ddim yn ufudd i dy ddysgeidiaeth di.
(Tsadi)
137Rwyt ti yn gyfiawn, O ARGLWYDD;
ac mae dy reolau di yn gwbl deg.
138Maeʼr deddfau rwyt ti wediʼu rhoi yn gyfiawn,
ac yn gwbl ddibynadwy.
139Dw iʼn gwylltioʼn lân
wrth weld fy ngelynion yn diystyru beth rwyt tiʼn ddweud.
140Mae dy eiriau di wediʼu profiʼn wir,
ac mae dy was wrth ei fodd gyda nhw.
141Er fy mod iʼn cael fy mychanu aʼm dirmygu,
dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di.
142Mae dy gyfiawnder di yn para am byth;
mae dy ddysgeidiaeth di yn wir.
143Pan dw i mewn trafferthion ac mewn trybini,
mae dy orchmynion diʼn hyfrydwch pur i mi.
144Mae dy reolau cyfiawn yn para am byth;
rhoʼr gallu i mi eu deall, i mi gael byw.
(Coff)
145Dw iʼn gweiddi arnat ti o waelod calon!
“Ateb fi, ARGLWYDD,
er mwyn i mi gadw dy ddeddfau.”
146Dw iʼn gweiddi arnat ti, “Achub fi,
er mwyn i mi gadw dy reolau.”
147Dw iʼn codi cyn iddi wawrio i alw am dy help!
Dy eiriau di syʼn rhoi gobaith i mi!
148Dw iʼn dal yn effro cyn i wylfaʼr nos ddechrau,
ac yn myfyrio ar dy eiriau.
149Gwranda arna i, yn unol â dy gariad ffyddlon;
O ARGLWYDD, rho fywyd i mi, yn unol â dy gyfiawnder!
150Maeʼr rhai sydd am wneud drwg i mi yn dod yn nes!
Maen nhwʼn bell iawn o dy ddysgeidiaeth di.
151Ond rwyt ti bob amser yn agos, ARGLWYDD,
ac mae dy orchmynion di i gyd yn wir.
152Dw i wedi dysgu ers talwm
fod dy reolau di yn aros am byth.
(Resh)
153Edrych fel dw iʼn dioddef, ac achub fi!
Dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di.
154Dadlau fy achos a helpa fi!
Cadw fiʼn saff, fel rwyt wedi addo gwneud.
155Does gan y rhai drwg ddim gobaith cael eu hachub gen ti;
dŷn nhw ddim yn ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau.
156Rwyt ti mor drugarog, O ARGLWYDD;
adfywia fi yn unol â dy gyfiawnder!
157Mae gen i lawer iawn o elynion yn fy erlid i;
ond dw i ddim wedi gwyro oddi wrth dy ddeddfau di.
158Mae gweld pobl heb ffydd yn codi pwys arna i,
am eu bod nhw ddim yn cadw dy reolau di.
159Dw i wrth fy modd hefo dy ofynion!
O ARGLWYDD, cadw fiʼn saff, fel rwyt wedi addo.
160Mae popeth rwyt tiʼn ddweud yn gwbl ddibynadwy;
mae pob un o dy reolau cyfiawn yn para am byth.
(Sin)
161Maeʼr awdurdodau wedi fy erlid i ar gam!
Ond mae dy eiriau diʼn rhoi gwefr i mi.
162Mae dy eiriau di yn fy ngwneud i mor hapus,
fel rhywun sydd wedi dod o hyd i drysor gwerthfawr.
163Dw iʼn casáu ac yn ffieiddio diffyg ffydd;
ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di.
164Dw iʼn dy addoli di saith gwaith y dydd
am dy fod tiʼn dyfarnuʼn gyfiawn.
165Maeʼr rhai syʼn caru dy ddysgeidiaeth di yn gwbl saff;
does dim yn gwneud iddyn nhw faglu.
166Dw iʼn edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, O ARGLWYDD!
Dw iʼn cadw dy orchmynion di;
167dw iʼn ufuddhau i dy ddeddfau di
ac yn eu caru nhwʼn fawr.
168Dw iʼn ufuddhau i dy orchmynion a dy ddeddfau di.
Tiʼn gwybod yn iawn am bopeth dw iʼn wneud.
(Taf)
169Gwranda arna iʼn pledio o dy flaen di, O ARGLWYDD;
helpa fi i ddeall, fel rwyt tiʼn addo gwneud.
170Dw iʼn cyflwyno beth dw iʼn ofyn amdano i ti.
Achub fi fel rwyt wedi addo.
171Bydd moliant yn llifo oddi ar fy ngwefusau,
am dy fod tiʼn dysgu dy ddeddfau i mi.
172Bydd fy nhafod yn canu am dy eiriau,
am fod dy reolau di i gyd yn gyfiawn.
173Estyn dy law iʼm helpu.
Dw i wedi dewis dilyn dy orchmynion di.
174Dw iʼn dyheu i ti fy achub i, ARGLWYDD;
mae dy ddysgeidiaeth diʼn hyfrydwch pur i mi.
175Gad i mi fyw, i mi gael dy foli!
gad i dy reolau di fy helpu i.
176Dw i wedi crwydro fel dafad oedd ar goll.
Tyrd i edrych amdana i!
Dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015