Skip to main content

Adeiladwyr doeth a ffôl: Mathew 7.24–27 (26 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Mathew 7

I’r rhai ohonom a aeth i’r Ysgol Sul fel plant yn y blynyddoedd diwethaf, mae’n anodd darllen yr adnodau hyn heb feddwl am y gân, ‘Y call a gododd ei dy ar y graig’. Mae’n fachog – ond mae’n colli’r pwynt, sef er bod y ddau ddyn wedi gwrando ar yr hyn a ddywedodd yr Iesu, fe’u barnwyd yn ddoeth neu’n ffôl yn ôl a wnaethant yr hyn a ddywedodd neu’i beidio.

Mae llawer ohonom wedi profi bywyd fel storm dros yr ychydig fisoedd diwethaf oherwydd argyfwng y Coronafeirws. Ond pandemig neu beidio, bydd stormydd bob amser yn dod. Mae afiechyd, siomedigaethau, trafferthion yn y gwaith neu ffrae deuluol yn ein taflu oddi ar ein hechel. I fynychwyr eglwys a chapeli, gall le sydd i fod yn ofod cariadus a maethlon ddod yn faes y gad. 

Ar adegau fel hyn rydym yn darganfod ar beth mae ein ffydd wedi’i seilio. Os mai gwrando yn unig yr ydym ar yr Iesu, heb adael i’w eiriau ffurfio sut rydym yn byw, efallai y gwelwn nad oes gennym yr adnoddau ysbrydol nac emosiynol i allu ymdopi. Nid yw ein cymeriad, na’n ffydd, wedi datblygu’r gwytnwch a’r mewnwelediad i allu delio â gwrthdaro neu rwystrau.

Yn yr adnodau hyn, mae Iesu’n dweud wrthym am adeiladu sylfeini cryf trwy ymarfer disgyblaeth yn hytrach na chlywed amdani yn unig. Gallwn wrando ar nifer o bregethau da a darllen llyfrau ysbrydol gwych, ond os nad ydynt yn newid sut rydym yn byw mae’n debyg nad ydym yn dysgu llawer iawn.

Gweddi

Gweddi

Duw, rho ddoethineb imi; helpa fi nid yn unig i fod yn wrandäwr ar dy air, ond yn wneuthurwr, fel y bydd fy sylfeini yn gryf pan ddaw trafferth.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible